Hafan

Archebu eich gwyliau

Archebu eich gwyliau

Unwaith y byddwch chi’n cymryd eich gwyliau cyntaf ar Enlli, byddwch chi eisiau dychwelyd dro ar ôl tro!

Mae sawl tŷ ar gael i archebu am gwyliau – mae prisiau’n amrywio yn ôl maint y tŷ. O’r naw tŷ hunanarlwyo y mae’r Ymddiriedolaeth yn eu rhentu:

  • Mae tri yn hen ffermdai ar wahân sylweddol
  • Mae tri yn hen ffermdai pâr sylweddol
  • Dau hen sgubor sydd nawr yn llofftydd
  • Un bwthyn croglofft traddodiadol
  • Mae’r tai wedi cael eu cynnal mewn modd traddodiadol ac felly nid oes gan yr un o’r tai drydan. Mae gan bob tŷ gegin wedi’i chyfarparu’n dda gyda popty hob nwy a ffwrn ac oergell/rhewgell sy’n cael ei bweru gan yr haul neu nwy.

Cwestiynau am y llety

Mae’r wythnos rhentu o ddydd Sadwrn i ddydd Sadwrn, Ebrill i Hydref.

  • Mae angen blaendal o 50% i sicrhau eich archeb.
  • Mae’r taliad balans llawn yn ddyledus 12 wythnos cyn dechrau’ch arhosiad.
  • Gellir archebu drwy lenwi’r ffurflen archebu (peidiwch â gyrru negeseuon atom i archebu trwy neges destun, Whatsapp neu ar gyfryngau cymdeithasol gan nad yw’r negeseuon hyn yn cael eu monitro yn rheolaidd).

Sylwer: Mae Ynys Enlli yn fferm weithiol, gyda gwartheg a defaid yn pori yn y caeau ger tai a llwybrau troed. Ystyriwch hyn wrth archebu.