Ynys gweithgar
Mae Enlli wedi’i siapio gan ddwylo cenedlaethau o ffermio a chynhyrchu cnydau.
Mae’r ynys wedi cael ei ffermio a chnydau amaethyddol ei thyfu yma mewn rhyw ffordd ers miloedd o flynyddoedd. Mae hen ffiniau caeau i’w gweld yn glir o’r mynydd heddiw, gyda system gymhleth o gaeau. Mae enwau’r caeau yn adlewyrchu sut y byddai’r tir wedi cael ei ddefnyddio, gyda Chae Gwenyn yn awgrymu lleoliad hanesyddol ar gyfer cychod gwenyn, ac mae’n debyg bod gan Gae’r Groes ar ben y gogledd groes bren fawr yn yr oesoedd canol i bererinion anelu ato wrth groesi’r Swnt.
Heddiw mae’r ynys yn cynnal fferm, lleiniau llysiau ffyniannus a thwneli poly, berllan o afalau Enlli a Chymreig, helyg hynafol a phlanhigfa fechan o goed sbriws. Mae gwneud y gorau o’r adnoddau naturiol mewn ffordd gynaliadwy wedi galluogi cenedlaethau o bobl i alw Enlli yn gartref.

Gwartheg yn y tir gwlyb
Ffermio ar Enlli
Ar ôl blynyddoedd lawer o absenoldeb, ailgyflwynwyd gwartheg i’r ynys yn 2008 i helpu i bori’r rhostir a’r cynefinoedd gwlyptir.
Mae’r drefn bori hon yn rhan o system ffermio gyfannol o ddefaid a gwartheg sy’n gweithio o fewn ecosystem fregus yr ynys ac yn ychwanegu at ei bioamrywiaeth. Er enghraifft, mae chwilod arbenigol wedi’u darganfod mewn tail gwartheg, sy’n darparu ffynhonnell fwyd mawr ei hangen i Fran Goes Goch ifanc i adeiladu eu cryfder ar gyfer y daith i’w tiroedd gaeafu ar y tir mawr.
Mae’r ffermwr, Gareth Roberts, yn gweithio’n agos gydag Ymddiriedolaeth Ynys Enlli, Cyfoeth Naturiol Cymru, ac Arsyllfa Adar a Maes Enlli i reoli’r fferm er lles y bywyd gwyllt sy’n gwneud yr ynys mor arbennig. Mae Arsyllfa Adar a Maes Enlli yn allweddol wrth fonitro effaith y drefn ffermio ar adar preswyl yr ynys.

Cimwch
Pysgota
Pysgodfa cimwch a chranc
Mae’r ynys wedi’i hamgylchynu gan geryntau cryf ac mae’n ddarostyngedig i hwyliau a siglen y llanw; ond mae’r môr wedi cynnal a darparu incwm iach i genedlaethau o deuluoedd ar Enlli.
Heddiw, yn eistedd o fewn Ardal Cadwraeth Arbennig, mae dyfroedd Enlli yn dal i gael eu pysgota yn gynaliadwy am grancod a cimychiaid gan ddau deulu o’r ynys.
Mae’r dyfroedd o amgylch Enlli hefyd yn bwysig am amrywiaeth o resymau treftadaeth a chadwraeth, gan fod y Dolffiniaid a’r Morloi Llwyd yn defnyddio’r ardal fel meithrinfa a thir bridio.
Afal Enlli
Mae gan Enlli ei afal prin ei hun y gellir ei brynu i’w ychwanegu at eich perllan.
Rhai blynyddoedd yn ôl roedd gwyliwr adar yn Cristin yn defnyddio afalau i ddenu adar. Yn dilyn sgwrs rhwng y gwyliwr adar ac ymwelydd arall, Mr Ian Sturrock, gwnaed y darganfyddiad cyffrous bod hwn mewn gwirionedd yn amrywiaeth prin o afalau.
Roedd Mr Sturrock, arbenigwr ar goed ffrwythau, yn deall bod yr afalau wedi dod o’r goeden ar ochr ddeheuol Plas Bach. Er bod trigolion yr ynys wedi cadarnhau bod cenedlaethau o ynyswyr wedi mwynhau’r afalau hyn, nid oedd neb yn gwybod pa fath o afalau oedden nhw. Roedd yn ddigon posibl mai’r ffrwythau pinc adfywiol, o arogl a blas lemwn, oedd yr unig oroeswyr o berllan a feithrin ar y safle gan fynachod dros 1,000 o flynyddoedd yn ôl.
Cafodd yr afal ei gludo i Ymddiriedolaeth Arddwriaethol Brogdale gan Mr Sturrock lle cafodd ei archwilio gan Dr Joan Morgan, arbenigwr ar afalau Prydain. Datganodd mai hwn oedd afal prinnaf y byd. Disgrifiodd ef fel afal wedi’i streipio â phinc dros hufen, wedi’i gribio â choron uchel.

Archebwch eich Coeden Afal Enlli
Tyfwch eich Coeden Afalau Enlli eich hun!
Rydym yn gweithio gyda Ian Sturrock & Sons Tree Nurseries sy’n gwerthu’r Afal Enlli swyddogol.
Lle nesaf?