Croesawyd GISDA yn ôl i'r ynys eto blwyddyn yma gyda tri aelod o’i staff a pum person ifanc yn symud i fewn i Hendy a Nant.
Wel am dywydd cafon nhw yn ystod eu tridiau yno- Enlli ar ei orau!
Cyrrhaeddod Laura Hughes, Swyddog Prosiect Morol (Pen Llŷn a’r Sarnau) i’r ynys ar ddydd Sul i redeg y gweithdy cyntaf. Mae hi’n gweithio gyda’r Wylfa Adar ar Brosiect Mamaliaid Morol sy’n canolbwyntio ar nodi’r nifer o famaliaid morol sy’n cael eu gweld oddi ar arfordir Enlli a Llŷn, yn benaf dolffiniaid Risso. Gwarwyd y bore yn dysgu sut i wahaniaethau rhwng mamaliaid morol gwahanol. Yna, cymerodd pawb rhan mewn ymchwiliad Llygad y Don wrth ymyl Pen Diban, lle defnyddiodd pawb binociwlars i syllu tuag at y môr. Yn anffodus, ni welwyd unrhywbeth. Roedd gan rhai o’r grŵp diddordeb mewn siarcod, felly aethent ymlaen i Henllwyn i chwilota am casus wŷau (pwrs morforwyn) gwahanol rhywogaethau yn ogystal â hel sbwriel yno.
Ar ddydd Llun ddoth y Parchedig Jane Finn sydd yn Offeiriad Pererindod i wneud gweithdy mordwyo gyda mapiau a chwmpawd. Cafwyd amser i bracteisio rhain yn y Lle Cul (rhwng Cafn a Porth Solfach). Dangoswyd beth i wneud os ydych yn mynd ar goll gyda berynnau anghywir, sgil defnyddiol iawn, yn enwedig os nad oes signal ffôn. Mi wnaeth hyn ddilyn i sgwrs am ysbrydolrwydd- beth ydych chi’n gwneud pan rydych yn ffeindio eich hyn ar goll mewn bywyd?
Yn ystod y dydd, mi wnaeth yr Wylfa Adar a Maes mynd a’r bobl ifanc ar daith gerdded bywyd gwyllt ac esbonio’ gwaith maent yn ei wneud ar yr ynys. Fin nos, aethent am dro gyda Steven Stansfield i weld yr adar Drycin Manaw. Roedd hyn yn cyfle gwych i ddysgu mwy am yr adar arbennig yma.
Roedd Joseph Conran, yr Artist Preswyl cyntaf hefyd ar yr ynys ar y pryd yn gweithio ar brosiect diddorol sy’n ymwneud â system dosbarthiad Carl Linnaeus. Mewn cysylltiad gyda hyn, roedd prosiect arall ar y gweill yn gofyn pa eiriau roedd yn perthyn i wahanol rhanau o’r ynys. Cafodd pawb cyfle i ychwanegu eu geiriau at map o Enlli.
Tu allan i’r gweithdai, gwariodd y bobl ifanc a’r staff eu hamser yn pobi, creu cerddoriaeth a chelf; arhosiad ymlaciol ac adfywiol.
Diolch arbennig i Gronfa Treftadaeth y Loteri Genedlaethol am wneud hyn yn bosib!
Cymerwch gip olwg ar be' wnaeth GISDA yn Enlli!
“Wnaeth o roi mwy o hyder i mi, fy mod i ddim bob tro angen dibynnu ar dechnoleg. Dydio ddim yn angenrheidiol.” – Person ifanc
“Un o’n hoff atgofion ydi casglu sbwriel ar hyd y traeth ar ol gweithgaredd Laura. Pawb just yn crwydro a chwarae. Oddwn i’n teimlo fel plentyn eto. Hefyd, machlud y noson cyntaf.” – Aelod o staff GISDA