Hafan > Ymweld â’r ynys

Ddarganfod yr ynys

A small brown bird is perched on a thin branch among sparse twigs with a blurred green background, reminiscent of the tranquil landscapes on Ynys Enlli.

Mae cymaint i'w ddarganfod ar Enlli

Paratowch i archwilio Enlli, lle sy’n llawn hanes, diwylliant cyfoethog, a bywyd gwyllt syfrdanol. Wrth i chi lanio yn y Cafn mi fyddwch yn camu oddi ar y cwch i ynys sydd gyda milenia o hanes; diwylliant cyfoethog, bywyd gwyllt sydd yn ffynnu a chymuned fyw o ynyswyr sydd yn gweithio’r tir a physgota’r môr.

Mae Enlli yn glytwaith o lwybrau ac mae croeso i chi ddilyn y rheini i ddarganfod yr ynys; lawr lwythwch y map yma cyn cyrraedd.

Cofiwch fod y tywydd yn gallu newid yn gyflym felly dewch efo dillad glaw. Mae’r tir yma yn gallu fod yn anwastad felly dewch a sgidiau cryf a chyfforddus.

Beth i'w weld a'i wneud ar Enlli

Gyda phedair awr i’w harchwilio ar daith undydd, bydd gennych ddigon o amser i ddarganfod uchafbwyntiau Enlli. I’r rhai sy’n aros yn hirach, manteisiwch ar y cyfle i ymgolli yn harddwch yr ynys a ymgysylltu â’i hanes cyfoethog a’i bywyd gwyllt.

Fel ymwelydd dydd; mi fedrwch ymweld â’r arddangosfa’r yr hen Ysgol, y Capel, Siop yr Ymddiriedolaeth a’r Arsyllfa Adar. Mae Caffi yn Nhŷ Pellaf a tholiet cyhoeddus yn Iard Plas. Cadwch eich llygaid am artist preswyl yn ei stiwdio agored yn Llofft Nant.

Cadw Enlli yn arbennig

Ni chaniateir cŵn ar yr ynys oherwydd y fferm, adar sy’n nythu ar y ddaear, a’r cytref Morloi Llwyd.

Oherwydd ein hadar sy’n nythu ar y ddaear, mae’n bwysig iawn amddiffyn Enlli rhag cyflwyno llygod mawr neu anifeiliaid eraill a allai fod yn ysglyfaethwr i’r rhain. Gwnewch yn siŵr nad oes unrhyw risg o unrhyw stowaways diangen yn eich bagiau cyn disgyn y cwch.

Ni chaniateir dronau ar Ynys Enlli, felly cymerwch eiliad i wirio ein Polisi Drôn am fwy o fanylion.

Aerial view of a rocky peninsula with a lighthouse, managed by Ymddiriedolaeth Ynys Enlli, surrounded by blue ocean and under a partly cloudy sky.

Pererinion

Pererindod i Enlli

Cwblhewch Lwybr Cadfan neu Lwybrau Pererinion Gogledd Cymru ar Enlli.

Meysydd Diddordeb

Cliciwch ar y map i ddysgu mwy am yr ynys.