Rydymyn lansio cwrs preswyl ar Gerddoriaeth Draddodiadol Gymreig yn Enlli am y tro cyntaf erioed wythnos 15-22 Mai, 2027, mewn partneriaeth â Trac a Tŷ Cerdd. Trwy gydweithio â’r cerddorion blaenllaw, Angharad Jenkins, Bethany Celyn a Jordan Price Williams, ynghyd â pherfformwyr gwadd gwych, bydd hon yn wythnos wedi’i churadu’n arbennig. Dyma gyfle unigryw i ddatblygu eich sgiliau cerddoriaeth werin, i gwrdd â cherddorion eraill ac i gyfansoddi cerddoriaeth newydd – a hyn oll yng nghanol rhyfeddodau gwyllt a diarffordd Ynys Enlli. Cewch eich ysbrydoli gan yr elfennau, cân y morloi, ehediad adar y môr, ac awyr dywyllaf Ewrop.
Pam Enlli?
Mae gan Enlli le arbennig yn niwylliant Cymru, fel sy’n aml yn wir am ynysoedd; mannau gyda’u hymdeimlad penodol eu hunain, ar wahân i fywyd bob dydd, wedi’u siapio gan y llanw a’r tywydd. Bu Enlli yn gyrchfan pererinion ers milenia, a honnir fod dros ugain mil o saint wedi’u claddu yno! Yr un dynfa sydd wedi denu pobl ar hyd y canrifoedd sy’n ein denu ninnau, y tro hwn, i ddathlu a mwynhau wythnos arbennig o gerddoriaeth draddodiadol Gymreig.
Beth i’w ddisgwyl o’r cwrs:
- Sesiynau tiwtora penodol dyddiol gydag un o’r tiwtoriaid
- Sesiynau perfformio fel grŵp
- Gweithdai dewisol
- Cyngherddau gyda’r nos
- Sesiynau gyda’r nos
Twitoriaid
Angharad Jenkins

Mae Angharad Jenkins – sydd wedi’i disgrifio fel ‘cameleon cerddorol’ – yn canu’r ffidil/crwth, yn gantores ac yn gyfansoddwraig o Abertawe.
Dechreuodd ei gyrfa gyda’r band gwerin Calan, a threuliodd 15 mlynedd yn teithio’r byd yn cyflwyno cerddoriaeth draddodiadol Gymreig i gynulleidfaoedd rhyngwladol. Ond ers iddi droi’n fam, mae hi wedi darganfod ei llais canu, ac, yn sgil hynny, wedi datblygu cyfeiriad artistig newydd, gan sefydlu ei hun fel artist unigol.
Yn 2023, lansiodd ei phrosiect alt-pop o dan yr enw ‘Angharad’ fel cyfrwng i bortreadu llawenydd a heriau bod yn fam. Enwebwyd ei halbwm unigol cyntaf Motherland (Libertino Records, 2024) ar gyfer y Wobr Gerddoriaeth Gymreig, ac mae ei cherddoriaeth wedi’i chymharu gyda artistiaid fel John Cale, PJ Harvey, Patti Smith a Joni Mitchell.
Mae hi dal i berfformio gyda Patrick Rimes (Calan/Vrî), ei mam, y delynores Delyth Jenkins a’r pianydd jazz Huw Warren. Mae ei gwaith yn pontio cerddoriaeth werin, pop, jazz ac arbrofol/free-improv, ac mae’r crwth – offeryn Cymreig prin a hanesyddol – wedi dod yn rhan gynyddol bwysig o’i hymarfer creadigol.
Fel artist, ei phrif ysgogiad archwilio’r berthynas rhwng pobl, lle a chreadigrwydd trwy cysylltu ag eraill – a mwynhau bywyd!
Bethany Celyn

Mae Bethany Celyn yn gantores-gyfansoddwraig, bardd ac ymarferydd creadigol ac mae’n gweithio’n rhan amser fel Golygydd Cyhoeddiadau Barddas.
Y llais a’r piano yw ei phrif offerynnau, ac mae hi wedi cydweithio gyda’r triawd siambr gwerin Vrï, Sinfonia Cymru a’r colectif TAIR i enwi ond tri. Mae hi wrthi’n cymryd rhan yn y prosiect ‘CoDI: Llifo – Llais a Llinynnau’ gyda Tŷ Cerdd ac yn mwynhau dysgu canu gwerin ar gyrsiau Trac Cymru fel ‘Gwerin Gwallgo’ ac ‘Ambell i Gân’.
Mae Bethany yn aml yn gwehyddu ei cherddoriaeth a’i cherddi mewn prosiectau amrywiol, ac mae ganddi ddiddordeb mawr mewn themâu megis iaith, hunaniaeth, llên gwerin a byd natur.
Jordan Price-Williams

Mae Jordan Price Williams yn gerddor amryddawn ac arloesol, sy’n adnabyddus am ei lais unigryw ar y soddgrwth ym myd cerddoriaeth draddodiadol Cymru. Yn raddedig o Goleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru, mae ganddo radd BMus ac MA mewn perfformio clasurol. Wedi’i hyfforddi’n wreiddiol ar y contrabas, mae Jordan wedi datblygu dull unigryw o chwarae’r soddgrwth gan ddod â cherddoriaeth ffidil Cymru i offeryn nad yw fel arfer yn gysylltiedig â’r traddodiad.
Wedi’i wreiddio’n gadarn yn sîn werin Cymru, mae Jordan yn aelod sefydlol o’r triawd siambr-werin VRï, y cafodd eu halbwm cyntaf Tŷ Ein Tadau (House of Our Fathers) adolygiad 5 seren yn Songlines a nifer o enwebiadau a gwobrau. Enillodd eu hail albwm, islais a genir, a ryddhawyd yn 2022, wobr Albwm Gorau yng Ngwobrau Gwerin Cymru 2023.
Jordan hefyd yw sylfaenydd Bagad Grwndi, sef cerddorfa ffidil Cymru, ac yn un o’r cyfarwyddwyr Ffidil Fawr CBC, penwythnos a sefydliad sy’n dathlu cerddoriaeth ffidil Cymru a chreu cerddoriaeth gymunedol.
Mae Jordan wedi dod i’r amlwg fel un o ffigurau blaenllaw cenhedlaeth newydd o gerddorion traddodiadol yng Nghymru—gan gyfuno treftadaeth ddofn â chreadigrwydd blaengar.
Llety
I ddechrau, bydd 24 lle ar gael ar y cwrs.
Mae aros yn Enlli yn golygu ein bod yn diffodd y pethau sy’n tynnu’n sylw ar y tir mawr, gan ailgysylltu â ni’n hunain, byd natur a phobl eraill. Byddwch yn aros yn un o ffermdai rhestredig Gradd 2 yr ynys, gydag ystafelloedd unigol neu i’w rhannu ar gael. Rhennir toiledau, ceginau a gofodau cymunedol. Mae gan bob tŷ le tân, dillad gwely gan gynnwys blancedi gwlân, a golygfeydd trawiadol dros yr ynys. Does dim cysylltiad wifi na chyflenwad trydan, a darperir golau trwy lampau solar.
Hunanarlwyo neu wedi’i arlwyo
Gellir cael lleoedd ar y cwrs gyda bwyd neu ddewis hunanarlwyo; mae cegin ar gael gyda digonedd o offer, neu gall ein harlwywyr ddarparu brecwast, cinio a swper yn ddyddiol.
Costau
Mae cyfanswm y costau ar gyfer y preswyliad hwn yn amrywio o £600 i £1100, yn ddibynnol ar yr opsiwn a ddewisir gennych.
Ffi’r cwrs::£400
Llety:
- Hunanarlwyo, rhannu ystafell – £200 (6 lle ar gael)
- Hunanarlwyo, ystafell unigol – £350 (5 lle ar gael)
- Arlwyedig, rhannu ystafell – £550 (8 lle ar gael)
- Arlwyedig, ystafell unigol – £700 (5 lle ar gael)
Cwch: Mae’r ffi am groesi gyda’r cwch yn swm ychwanegol fydd yn daladwy i gwmni Mordaith Llŷn; cewch fanylion hyn pan fyddwch yn archebu lle.
Sut i archebu:
Rydym yn disgwyl y bydd y cwrs hwn yn gorlenwi. Oherwydd hyn, byddwn yn agor yr archebion ar gyfer y cwrs ar ddydd Sadwrn 24 Hydref, gan ddyrannu lleoedd ar sail ‘y cyntaf i’r felin’. Caiff dolen i archebu lle ei chylchredeg am 9yb ar 24 Hydref. Os hoffech dderbyn y ddolen hon, llenwch y ffurflen gofrestru isod.
Bydd gofyn i ni dderbyn blaendal 50% i sicrhau eich lle, a bydd gweddill y ffioedd yn ddyledus erbyn 1 Mawrth 2027.
