Dilynwch ôl troed pererinion, môr-ladron, pysgotwyr a ffermwyr.
Wrth droedio Ynys Enlli rydych yn dilyn ôl troed y pererinion, y môr ladron a chenedlaethau o deuluoedd sydd wedi gweithio’r tir a’r môr. Mi welwch gyfoeth o adar a morloi llwyd yng ngogoniant eu cynefin. Dyma ynys sydd yn bell o brysurdeb y byd, lle mae hanes ysbrydol a chrefyddol, treftadaeth a bywyd gwyllt yn agosach atom nac yn unlle.

Ein Wardeniaid
Nid oedd gweithio mewn swyddfa o 9-5 yn addas i mi. Mae gweithio ar Enlli yn fywyd prysur, mae'r gwaith yn ddiddiwedd, ond mae gallu rhoi fy egni tuag at amddiffyn a gwella rhywle mor arbennig ag Enlli yn fraint.
Mari Huws Jones
Warden
Heddiw, mae Enlli dal yn ynys fyw ag yn ynys waith. Mae ganddi gymuned dymhorol o 12 sydd yn gweithio’r tir a’r môr; yn croesawu ymwelwyr ac yn gwarchod ei threftadaeth a’i bywyd gwyllt. Mae’r dyddiau yn Enlli yn cael ei ddylanwadu yn gryf gen yr gwynt, glaw, haul a’r llanw, gyda cynlluniau yn newid llaw yn llaw efo’r elfennau naturiol mewn ffordd sy’n dod a ni yn ol at ein coed.
Dyma Noddfa Awyr Dywyll cyntaf Ewrop ag yn mae’r ynys yn Warchodfa Natur Genedlaethol ag yn Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig. Mae rhywbeth ar Enlli i bawb!

Morloi llwyd yn henllwyn
Bywyd Gwyllt
Bywyd gwyllt Enlli
Mae’r tir a’r môr o amgylch Enlli yn ffynnu gyda bywyd gwyllt.
Diolch i genedlaethau o bysgota cimychiaid a chrancod cynaliadwy, mae’r dyfroedd oddi ar Enlli yn llawn bywyd ac yn lle pwysig i Ddolffiniaid Risso, Llamhidydd a Morloi Llwyd.
Mae’r ynys yn lle pwysig iawn i’r Aderyn Drycin Manaw, ac yn bellach yn gartref i dros 30,000 o barau o’r adar môr anhygoel hyn. Mae’r Ddrycin Manaw yn dychwelyd bob blwyddyn i’r un twyni tanddaearol ac aderyn partner ar ôl gaeafu oddi ar Dde America.

Olion yr abaty yn nant
Yr ynys o 20,000 o seintiau
Cristnogaeth Geltaidd yn dyddio’n ôl i’r 6ed ganrif
Dewch o hyd i olion abaty’r Canoniaid Awstinaidd o’r 13eg ganrif, gan ddilyn ôl troed rhai o’r Celtiaid sefydlog o’r chweched ganrif.

Gareth Roberts
Rydw i wedi bod yn ymweld ag Enlli ers 1973, roedd fy nhad yn bysgotwr rhan-amser a oedd yn arfer rhoi ei botiau ar ochr dir mawr y Swnt, yn pysgota o Borth Meudwy. Rwyf wedi dal y denantiaeth ar gyfer Cwrt ers bron i 30 mlynedd ac wedi bod yn denant ffermio Enlli am y 18 mlynedd diwethaf. Mae'n lle gwych ac mae ein hwyrion yn tyfu i'w fwynhau a'i werthfawrogi gymaint â ni, ac rwy'n gobeithio y byddan nhw'n cael y cyfle i fod yn rhan o'i ddyfodol.
Gareth Roberts
Ffarmwr a Pysgotwr

Hanes
Ynys a 2000 mlynedd o hanes pobl
Ers yr 2il ganrif CC bu arwyddion o bobl yn byw ac yn defnyddio Enlli fel lle allweddol yn eu bywydau. Darganfyddwch straeon y pererinion, môr-ladron, pysgotwyr, ffermwyr a’r artistiaid sydd wedi galw Enlli yn gartref.

Gwartheg enlli gan Emyr Owen
Gweithio'r tir
Ffermio cadwraethol ar waith
Mae dros 200 o ddefaid a buches fechan o 20-30 o Wartheg Duon Cymreig yn helpu i gynnal a rheoli’r tir ar Enlli ar gyfer yr ystod eang o blanhigion a bywyd gwyllt sy’n ffynnu yn ei gaeau, helyg a rhostir.
Lle nesaf?