Ynys fach llawn diwylliant, hanes, bywyd gwyllt a harddwch naturiol
Gorweddai Ynys Enlli, “Yr ynys yn y llif” 3km o ben eithaf Penrhyn Llyn, Gogledd Cymru. Dyma ynys sydd wedi ei amgylchynnu gan geryntau a llanw cryf. Saif Mynydd Enlli 167m uwchlaw’r môr , yn fynydd sydd wedi’i orchuddio’n binc â chlustog Fair, grug porffor, ag mewn mannau cennau euraidd prin. Mae’r Mynydd yn amddiffyn yr ynys o’r dwyrain, ac yn cuddio’r tir mawr o’r golwg o’r rhan fwyaf o’r ynys, gan wneud iddi deimlo’n gwbl ynysig.
Mae tir yr ynys wedi cael ei ffermio ers cenhedlaethau; ag heddiw mae Enlli dal yn gartref i fferm weithiol, pysgodfa cimychiaid a chrancod lewyrchus, Arsyllfa Adar a bywyd gwyllt godidog gan gynnwys dros 200 o Forloi Llwyd, poblogaeth gynyddol o Adar Drycin Manaw a’r Brain Goesgoch.
Yn fan pererindod ers y 6ed ganrif, heddiw gallwch fwynhau Enlli drwy aros yn un o’r naw o adeiladau rhestredig Gradd II; lle gall unigolion, teuluoedd a grwpiau mwy gael profi bywyd hudol yr ynys.
Bywyd ar Ynys Enlli

Cynlluniau Ty Nesaf
Efallai bod rhai ohonoch wedi sylwi bod Tŷ Nesaf wedi bod yn edrych ychydig yn wahanol yn ddiweddar.

Cyfleoeudd i Artistiaid
Ar ôl llwyddiant ein rhaglen Artistiaid Preswyl yn ystod 2024 rydym wrth ein bodd yn lansio nifer o gyfleoedd creadigol eto yn 2025.

Bywyd Warden yn Enlli
Mae yno batrymau i fywyd yma, rhai mor amlwg â phatrwm y llanw a’r trai ac eraill yn amlygu eu hunain ddim ond rŵan yn ystod ein pumed gaeaf.

Enlli a’r ser uwchben
Mae’r ymateb yma’n un sy’n gyffredin i bawb, ac yn un nad yw’n newid wrth i ni brofi’r olygfa drawiadol dro ar ôl tro.

Cynllunio at y dyfodol efo sgaffaldio
Efallai bod rhai ohonoch wedi gweld ein bod wedi buddsoddi mewn sgaffaldwaith yn ddiweddar a gyrhaeddodd Enlli yn mis Hydref.
Cais am Artistaid: Cyfnod Preswyl sydd yn ymateb i Ynys Enlli
Dyddiadau: 13eg – 20fed Medi 2025
Lleoliad: Ynys Enlli, Gogledd Cymru
Yn ystod Medi 2025, rydym yn gwahodd bump artist i ymuno â ni am wythnos o ymgysylltiad creadigol gyda Ynys Enlli. Mae’r breswylfa yn cefnogi artistiaid sy’n canolbwyntio ar dirwedd, gyda phwysigrwydd yn cael ei roi ar themâu o amgylchedd, cymuned, etifeddiaeth, a chydweithrediad a sut mae y rhain yn cael eu adlewyrchu yn eu gwaith.
Yn falch o fod y Noddfa Awyr Dywyll cyntaf yn Ewrop
Darllen mwy
Cynlluniwch eich ymweliad
Mae’r cwch i Enlli yn croesi o Borth Meudwy, cildraeth bysgota lleol bach ond gweithgar ger Aberdaron. Mae parcio ar gael ym maes parcio’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol ar ben y trac i lawr i Borth Meudwy. Dilynwch LL53 8DA am gyfarwyddiadau i’r maes parcio. Sylwer nad oes cyfleusterau toiledau yn y maes parcio hwn nac ym Mhorth Meudwy. Rydym yn argymell galw i mewn i Aberdaron ar eich ffordd drwyddo lle mae cyfleusterau toiledau a rhai caffis a becws ardderchog.
Os ydych chi’n teithio ar fws, mae’n bosibl cerdded i Borth Meudwy o Aberdaron ar hyd llwybr yr arfordir, sy’n cymryd tua 30 munud.
Mae gennym amrywiaeth o dai rhestredig Gradd 2, llofftiau a bwthyn llofft crog sydd ar gael i’w archebu ar gyfer arosiadau wythnosol rhwng Ebrill a Medi bob blwyddyn.
Ar Enlli, mae yna un toiled compost cyhoeddus, dim ond 10-15 munud ar droed o’r man lle mae’r cwch yn glanio. Am frathiad i’w fwyta, mae’r caffi yn Nhŷ Pellaf yn gweini amrywiaeth o ddiodydd poeth ac oer, cacennau, brechdanau, a phrydau cartref blasus (sylwer, mae angen archebu prydau bwyd ymlaen llaw).
Gyda signal ffôn cyfyngedig ar draws yr ynys a dim Wi-Fi yn y tai gwyliau, mae Enlli yn cynnig y cyfle perffaith ar gyfer dadwenwyno digidol a dianc go iawn rhag prysurdeb y tir mawr.