Am Yr Ymddiriedolaeth
Mae Ymddiriedolaeth Ynys Enlli yn berchen ar ac yn rheoli Ynys Enlli mewn partneriaeth efo trigolion a busnesau’r ynys.
Yn 1978 lansiwyd ymgyrch i brynu Enlli oddi wrth yr Anrhydeddus Michael Pearson (Arglwydd Cowdray). Arweiniwyd yr ymgyrch gan selogion ymroddedig Enlli o bob cwr o’r DU a’i chefnogi gan lawer o academyddion a ffigyrau cyhoeddus o Gymru, yn ogystal â’r eglwys yng Nghymru. Prynwyd yr ynys ym 1979.
Heddiw mae gan yr Ymddiriedolaeth 12 Ymddiriedolwr sy’n cyfarfod 5 gwaith y flwyddyn, yn ogystal â sawl pwyllgor sy’n cefnogi ac yn galluogi gwaith yr Ymddiriedolaeth, gan gynnwys:
- Pwyllgor Gweithredol
- Pwyllgor Gwyddoniaeth
- Pwyllgor Diwylliant
- Pwyllgor Ysbrydolrwydd
- Pwyllgor Adeiladau
- Pwyllgor Iechyd a Diogelwch
Ymddiriedolwyr a thîm staff
Ein nodau
Fel elusen gofrestredig rydym yn:
- gwarchod bywyd gwyllt ac ecosystem fregus yr ynys
- annog pobl i ymweld â’r ynys fel lle o harddwch naturiol a phererindod
- ymgymryd ag astudiaeth wyddonol a rhaglenni addysgol
- gwarchod yr adeiladau a’r safleoedd archeolegol
- hyrwyddo bywyd celfyddydol a diwylliannol yr ynys
- cymryd rhan mewn ffermio er budd cynefinoedd amrywiol yr ynys
Aelodau ein tîm
Our dedicated team works year-round to protect and develop
Bardsey. We collaborate closely with volunteers—ranging from our Trustees (listed below) to our hardworking on-island volunteers—who assist with a variety of tasks, from plastering and cleaning to grass cutting and much more.
Together, we ensure that Bardsey remains a special place for all to enjoy.
The Bardsey Island Trust is honoured to have Bryn Terfel and Peter Greenaway as patrons.
Emyr Glyn Owen
Mae Emyr wedi byw a gweithio ar Enlli ers 2019. Ar ôl tair blynedd fel Warden, Emyr yw Rheolwr yr Ynys bellach ac mae'n byw gyda'i bartner Mari a'u…
Darllenwch mwy
Mari Huws
Daeth Mari yn Warden i'r Ymddiriedolaeth yn 2019. Ers genedigaeth ei merch yn 2023 mae hi bellach yn cydbwyso ei hamser rhwng bod yn fam, yn warden ac…
Darllenwch mwy
Siân Stacey
Sian yw Prif Swyddog Ymddiriedolaeth Ynys Enlli, gan ddod â dealltwriaeth ddofn ac uniongyrchol o Enlli, ar ôl gwasanaethu fel Rheolwr yr Ynys o…
Darllenwch mwy
Owen Rickards
Gyda chyfoeth o brofiad yn y diwydiant adeiladu, mae Owen wedi bod yn rhan annatod o fyd adeiladu ers gadael addysg.
Darllenwch mwy
Theo Shields
Theo Shields yw Cydlynydd y Celfyddydau ar gyfer Ymddiriedolaeth Ynys Enlli, yn rheoli'r Rhaglen Breswylfa Artistiaid a phrosiectau creadigol ar Ynys…
Darllenwch mwy
Aron Llwyd
Lorem ipsum dolor sit amet consectetur. Sem tempor vel dui ac. Sapien nunc sapien augue nascetur enim venenatis.
Darllenwch mwy
Lois Roberts
Magwyd Lois yng Nghaerdydd ac mae ganddi radd meistr mewn Seicoleg Glinigol. Mae ei chefndir academaidd yn cynnwys dau draethawd ymchwil sy'n…
Darllenwch mwy
Gwenllian Hughes
Mae Gwenllian yn gyfrifol am lawer o'r prosiectau a ariennir gan Gronfa Dreftadaeth y Loteri sy'n canolbwyntio ar addysg, ymgysylltu ac allgymorth.
Darllenwch mwy
Caroline Lloyd
Mae Caroline yn un o aelodau mwyaf newydd teulu Enlli, gan ymweld â'r Ynys am y tro cyntaf yn 2021, wedi'i chyflwyno i Enlli gan ei…
Darllenwch mwy
Emyr Glyn Owen
Rheolwr yr Ynys
Mae Emyr yn byw a gweithio ar Ynys Enlli ers 2019. Wedi tair blynedd fel Warden, bellach mae’n Rheolwr Ynys ag yn byw gyda’i bartner Mari a’i merch Lleucu yn Dŷ Bach. I Emyr mae’n teimlo’n fraint anferthol i roi ei amser ac egni tuag at gynnal a gwarchod yr ynys, lle y mae o wedi ymweld yn gyson ers ei blentyndod ac sydd yn parhau i’w ysbrydoli.
Wedi ei fagu yn Llansannan, astudiodd Bensaernïaeth am gyfnod yng Nghaerdydd, cyn dilyn ei ddiddordeb mewn cynaliadwyedd a chynnal adeiladau gyda deunyddiau naturiol. Bu yn gweithio fel Swyddog Datblygu yn Felin Uchaf am ddwy flynedd.
Yn ei amser rhydd ar yr ynys mae Emyr yn cadw gwenyn, yn arlunio ag yn ffotograffydd brwd; gyda’i luniau yn dal bywyd gwyllt a’r golau ar y tirlun. Yn 2018 fe gerddodd y Camnio de Santiago.
Mari Huws
Warden yr ynys
Daeth Mari yn Warden i’r Ymddiriedolaeth yn 2019. Ers genedigaeth ei merch yn 2023 mae hi bellach yn cydbwyso ei hamser rhwng bod yn fam, yn warden ac yn byw ar Enlli. Mae’r ynys wedi bod yn rhan gyson o’i bywyd ers iddi ymweld am y tro cyntaf gyda’i theulu yn dair oed. Drwy ei gwaith dydd i ddydd yn cynnal a chadw a drwy ddatblygu prosiectau diwylliannol, creadigol ac ecolegol sydd yn creu cyfleoedd i eraill brofi a dysgu am yr ynys; mae hi’n angerddol dros warchod a gwella y rhan bach hynod yma o’r byd.
Aeth Mari i Brifysgol Gaerdydd a Chaeredin ag cyn symud i’r ynys roedd wedi treulio cyfnodau estynedig dramor yn gweithio ag astudio yn Siapan, Indonesia a Sbaen. Mi roedd hi’n gweithio fel Cynhyrchydd/Cyfarwyddwr teledu a ffilmiau Dogfen i Gwmni Da yng Nghaernarfon cyn gadael ei gyrfa i fod yn Warden Ynys Enlli.
Yn ei amser rhydd ar Enlli fe wnewch ei ffeindio yn synhwyrol gyda’r morloi neu yn garddio yn ei polytunnel. Mae Mari hefyd yn creu torluniau, ysgrifennu ac yn dogfennu eu bywyd ar Enlli drwy ffotograffau ffilm. Mi wnaeth hi arwain ar sicrhau dynodiad Noddfa Awyr Dywyll i’r ynys, ag yn 2024 mi wnaeth hi gyhoeddi llyfr am Wymon yr ynys.
Siân Stacey
Prif Swyddog
Sian yw Prif Swyddog Ymddiriedolaeth Ynys Enlli, gan ddod â dealltwriaeth ddofn ac uniongyrchol o Enlli, ar ôl gwasanaethu fel Rheolwr yr Ynys o 2016 i 2018. Mae ei chysylltiad â’r ynys yn dyddio’n ôl i 1997, ac mae hi wedi bod yn ymwelydd a gwirfoddolwr rheolaidd ers ei phlentyndod – felly, mae’n ddiogel dweud ei bod hi’n adnabod yr ynys fel cefn ei llaw!
Ar ôl ennill gradd Saesneg o Goleg Goldsmiths, Prifysgol Llundain, mae gyrfa Siân wedi rhychwantu’r trydydd sector a’r diwydiant preifat. Mae hi wedi gweithio fel Rheolwr Datblygu i’r Sefydliad Cymunedol yng Nghymru, Rheolwr Prosiect ar gyfer y prosiect adfer natur ar raddfa tirwedd Tir Canol, a hyd yn oed wedi ymddiddori yn y sector bwyd a diod yng Nghymru.
Mae arbenigedd Siân yn gorwedd mewn dod â phobl at ei gilydd a deall naws a dyheadau unigryw pobl a lleoedd – sgiliau sy’n hanfodol pan ddaw i werthfawrogi hanes cyfoethog a llunio dyfodol lle arbennig fel Enlli.
Pan nad ydy hi’n gweithio, mae Siân yn cael ei chadw’n brysur gyda gweithgareddau gwirfoddol, hyfforddi yn glwb pêl-droed lleol, ac yn treulio amser yn yr awyr agored. Yn arbennig, fe’i gwelir yn rhedeg o gwmpas y lle efo’i merch ifanc.
Owen Rickards
Rheolwr Cadwraeth Adeiladau
Gyda chyfoeth o brofiad yn y diwydiant adeiladu, mae Owen wedi bod yn rhan annatod o fyd adeiladu ers gadael addysg. Gan redeg ei gwmni bach ei hun, mae Owen yn arbenigo mewn gwaith trydanol, yn ogystal ag adfer tai ac adeiladau eraill. Ochr yn ochr â hyn, mae Owen yn dod â chyfoeth o arbenigedd mewn iechyd a diogelwch, gyda ffocws penodol ar ddiogelwch tân.
Yn lleol go iawn ym Mhen Llŷn, mae Owen wedi bod yn ymweld ag Ynys Enlli ers ei blentyndod, ac er nad ydyn o’n aros bob blwyddyn, maen o bob amser wedi teimlo cysylltiad cryf â’r ynys. Mae Owen yn ffynnu ar y cyfle i gydweithio â’r unigolion angerddol sy’n gweithio ar yr ynys, boed ar gyfer Ymddiriedolaeth Ynys Enlli neu fel arall. Mae Owen yn weld o’n fraint gweithio gyda phobl sydd mor gadarnhaol a brwdfrydig.
Y tu allan i’r gwaith, mae Owen yn mwynhau treulio amser gyda’u plant ifanc, gan wneud y gorau o’u blynyddoedd ffurfiannol. Pan ddaw i Enlli, eu hoff le yw ar ben y mynydd, yn gwylio’r machlud dros yr ynys – eiliad o dawelwch pur.
Theo Shields
Cydlynydd Artistiaid Preswyl
Theo Shields yw Cydlynydd y Celfyddydau ar gyfer Ymddiriedolaeth Ynys Enlli, yn rheoli’r Rhaglen Breswylfa Artistiaid a phrosiectau creadigol ar Ynys Enlli a’r tir mawr.
Astudiodd Theo Cerflunwaith (BA Anrh) yng Ngholeg Celf Caeredin a Choleg Celf Queensland, Brisbane, cyn cwblhau MA yn Llundain. Fel artist ymarferol, mae ei waith wedi cael ei arddangos yn rhyngwladol, ac mae wedi cymryd rhan mewn nifer o breswyliadau a rhaglenni addysgu. Ochr yn ochr â’i ymarfer artistig, mae’n rhedeg cwmni cynhyrchu ac wedi chwarae rhan allweddol mewn mentrau celfyddydol dan arweiniad y gymuned, gan gynnwys gweithio fel curadur yn Croesor Contemporary.
Un o’i hoff agweddau ar ei waith ar Enlli yw gweld datblygiad arferion personol artistiaid a helpu i adeiladu rhwydweithiau creadigol cynaliadwy yng Nghymru. Y tu allan i’r gwaith, mae Theo yn mwynhau bod yn yr awyr agored – hwylio, syrffio, a dringo. Ei hoff le ar Enlli yw ar y mynydd lle mae’n cael ysbrydoliaeth yn y golygfeydd ysgubol o dir a môr.
Aron Llwyd
Warden yr ynys
Lorem ipsum dolor sit amet consectetur. Sem tempor vel dui ac. Sapien nunc sapien augue nascetur enim venenatis. Mauris arcu leo et ut pellentesque lectus nulla pellentesque morbi. Lorem ipsum dolor sit amet consectetur. Sem tempor vel dui ac. Sapien nunc sapien augue nascetur enim venenatis. Mauris arcu leo et ut pellentesque lectus nulla pellentesque morbi. Lorem ipsum dolor sit amet consectetur. Sem tempor vel dui ac. Sapien nunc sapien augue nascetur enim venenatis. Mauris arcu leo et ut pellentesque lectus nulla pellentesque morbi.
Lois Roberts
Warden Llety
Magwyd Lois yng Nghaerdydd ac mae ganddi radd meistr mewn Seicoleg Glinigol. Mae ei chefndir academaidd yn cynnwys dau draethawd ymchwil sy’n archwilio’r iaith, diwylliant a hunaniaeth Cymru. Cyn ymuno ag Ymddiriedolaeth Ynys Enlli, bu’n gweithio fel ymchwilydd cymdeithasol a hyfforddwr ffitrwydd. Er y tro cyntaf iddi gamu ar Ynys Enlli oedd pan gychwynnodd fel warden yn 2024, mae hi wedi teimlo cysylltiad â Gwynedd ers ei phlentyndod gyda’i theulu yn dod o Nefyn a Tremadog. Treuliodd sawl haf yn gwersylla yn Aberdaron gan ddatblygu gwerthfawrogiad dwfn o dirlun Pen Llŷn.
Un o hoff agweddau Lois o fod yn warden yw’r gallu i fyw yn ôl yr elfennau gan groesawu tymhorau newidiol sy’n annog fwy o gysylltiad gyda’r byd natur. Teimlai ei bod yn gyfle ardderchog i ddysgu mwy am ddulliau cadwraeth yr Ynys yn enwedig pan mae pawb yn dod at ei gilydd i weithio tuag at un nod. Mae hefyd wrth ei bodd yn cyfarfod â’r ymwelwyr sy’n dod i’r Ynys bob wythnos, pob un â’i stori a’i bersbectif unigryw. Mae ganddi bob tro amser i stopio am sgwrs!
Yn ei hamser rhydd mae gan Lois amrywiaeth o ddiddordebau sy’n ei chadw’n brysur, gan gynnwys garddio, gweu, rhedeg, nofio, pobi a chwarae’r ffidil. Ei hoff fan ar Enlli yw’r cwt adar yn enwedig pan fydd hi’n bwrw glaw— man perffaith i eistedd ac edmygu’r tonnau.
Gwenllian Hughes
Swyddog Prosiect
Mae Gwenllian yn gyfrifol am lawer o’r prosiectau a ariennir gan Gronfa Dreftadaeth y Loteri sy’n canolbwyntio ar addysg, ymgysylltu ac allgymorth. Mae yna prosiectau sy’n ymwneud â hanes, un ohonynt yw prosiect Llafar a Ffotograffig lle mae hi wrthi’n cyfweld pobl sydd â chysylltiad gydag Enlli. Hoff elfen ei waith yw darganfod beth sy’n gwneud Enlli mor arbennig i cyn gymaint o phobl o gefndiroedd gwahanol.
Astudiodd ym Mhrifysgol Bangor, gan ennill BSc mewn Seicoleg gyda Niwroseicoleg lle bu hefyd yn gweithio fel Cynorthwyydd Ymchwil yn yr Ysgol Gwyddorau Iechyd am 4 blynedd. Mae hi hefyd wedi bod yn gyd-awdur mewn nifer o gyhoeddiadau mewn cylchgronau gwyddonol; ‘The British Medical Journal’, ‘The Lancet (Regional Health Europe)’ a ‘The International Journal of Environmental Research and Public Health’. Mae hi’n aelod etholedig o Gyngor Cymuned Llanbedrog ac yn Gadeirydd ar Lywodraethwyr Ysgol Gynradd Llanbedrog.
Mae Ynys Enlli wedi bod mewn golwg o hyd trwy ei phlentyndod, ac wedi parhau i fod yn ddirgelwch tan 2023. Pen Diban yw ei leoliad gorau yn Enlli oherwydd eich bod yn gallu gweld yr holl ffordd i fyny’r ynys. Mae hi hefyd yn teimlo mai dyma un o’r llefydd mwyaf heddychlon ar yr ynys lle gallwch deimlo ehangder y môr o amgylch Enlli a Phen Llŷn.
Yn ystod ei hamser sbâr, mae Gwenllian yn hoffi nofio yn y môr trwy’r flwyddyn, padlfyrddio, hwylio ac hefyd yn gweithio ar gwch ‘sgota cimychiaid ei theulu. Mae ei diddordebau ar y tir sych yn cynnwys darllen, sblojo ar ganfas, mynychu gigs a cerdded arfordir etherial Pen Llŷn pan nad yw hi wedi’i rhwymo at gyfrifoldebau ffermio.
Caroline Lloyd
Swyddog Prosiectau
Symudodd Caroline i Gymru i astudio ym Mhrifysgol Aberystwyth yn gyntaf ac yna treuliodd bron i 20 mlynedd yn y byd rheoli cynnyrch masnachol yng Nghaerdydd cyn symud i Ogledd Cymru i fod yn agosach at deulu. Mae Caroline yn dysgu Cymraeg, yn astudio yn Nant Gwrtheyrn.
Hoff agwedd Caroline ar ei rôl yw helpu pobl i ymweld â’r Ynys, boed ei haelodau hir sefydlog yn dychwelyd yn rheolaidd neu ymwelwyr newydd sy’n darganfod hud Enlli am y tro cyntaf.
Mae Caroline yn un o aelodau mwyaf newydd teulu Enlli, gan ymweld â’r Ynys am y tro cyntaf yn 2021, wedi’i chyflwyno i Enlli gan ei theulu-yng-nghyfraith sydd wedi bod yn ymweld ers blynyddoedd lawer. Y daith oedd eu gwyliau teuluol cyntaf ers genedigaeth ei merch yn ystod Covid, ac roedd yn lle gwirioneddol arbennig i ddod â’r teulu estynedig at ei gilydd. Ar ôl aros yng Ngharreg Fawr ar ei hymweliad cyntaf, bydd Caroline wastad yn cofio’r olygfa o’r machlud o ardd Carreg. Cymerodd ei merch rai o’i chamau cyntaf tra ar Enlli, o gwmpas y tŷ ac ar y traeth, atgofion bythgofiadwy.
Ers symud i ogledd Cymru yn 2023, mae’r rhan fwyaf o amser Caroline y tu allan i’r gwaith wedi cael ei dreulio yn adnewyddu ei chartref teuluol newydd. Mae Caroline hefyd yn gogydd angerddol, ac mae ganddi ferch ifanc, felly mae llawer o amser di-waith yn cael ei dreulio yn cael hwyl gyda’i gilydd fel teulu.
Ein hymddiriedolwyr
Jacquie Jones
Mae fy nghartref yn Llŷn, lle mae fy nheulu wedi byw ers dros ganrif.
Darllenwch mwy
Alun Llwyd
Fi yw Prif Weithredwr PYST Cyf. Mae fy nghymhelliant dros fod yn ymddiriedolwr yn amrywiol.
Darllenwch mwy
Philip Owen
Rwy'n dod o gymuned wledig yng ngogledd Cymru, ac wedi ymweld â Phenrhyn Llŷn, ac wedi ei garu, ers dros 40 mlynedd.
Darllenwch mwy
Dot Tyne
Fy mhrofiad cyntaf o Enlli oedd ymweliad brysiog o ddwy awr i edrych ar Dŷ Pellaf gyda'r bwriad o'i wneud yn gartref i mi.
Darllenwch mwy
Robert Townsend
Mae Enlli yn un o fy hoff leoedd. Mae wedi bod yn lle ar gyfer gwyliau teuluol ac amseroedd arbennig iawn.
Darllenwch mwy
Dewi Lewis
Rwy'n frodor o Borthmadog ond wedi byw yng Nghlydach, Dyffryn Tawe ers 1989.
Darllenwch mwy
Deryl Roberts
Rwy'n byw ym Mhowys, gyda gwreiddiau teuluol ar Benrhyn Llŷn, ac rwy'n aros ar Ynys Enlli am wythnos bob blwyddyn.
Darllenwch mwy
Dafydd Giblin
Rydw i wedi bod yn ymwelydd cyson â'r ardal leol drwy gydol fy mywyd ac ym Mhen Llŷn y mae'r lle rydw i'n teimlo'n wirioneddol gartrefol.
Darllenwch mwy
Lona Williams
Cefais fy ngeni a'm magu yn yr ardal leol, gyda diddordeb mawr yn Ynys Enlli.
Darllenwch mwy
Menna Jones
Mae Enlli yn cynrychioli'r hyn sy'n arbennig o dda am Gymru - ein cymunedau, ein hamgylchedd, ein hiaith a'n treftadaeth fyw.
Darllenwch mwy
Siân Thomas
Mae Ynys Enlli wedi bod yn rhan annatod o fy magwraeth ac i'r perwyl hwn rwy'n hapus iawn i ddod yn Ymddiriedolwr.
Darllenwch mwy
Sarah Purdon
Tyfais i fyny yng nghanolbarth Cymru yn agos at y môr, yn edrych allan tuag at Enlli.
Darllenwch mwy
Greta Hughes
Mae gen i gysylltiad cryf gydol oes ag Enlli ar ôl croesi'r Swnt am y tro cyntaf yn 15 oed gyda fy nhad.
Darllenwch mwy
Jacquie Jones
Cadeirydd
Mae fy nghartref yn Llŷn, lle mae fy nheulu wedi byw ers dros ganrif. Fel llawer o’m cwmpas, rwy’n teimlo affinedd arbennig, parch a diddordeb yn Enlli. Ar ôl ymweld â’r ynys sawl gwaith, credaf yn gryf ei bod yn bwysig amddiffyn a datblygu harddwch naturiol yr ynys a’i bywyd ysbrydol, artistig, diwylliannol ac economaidd yn sympathetig.
Mae fy nghefndir yn y diwydiant twristiaeth y bûm yn gweithio ynddo am ychydig dros 16 mlynedd mewn sawl swydd uwch. Ar hyn o bryd rwy’n rheoli’r codi arian ledled Cymru ar gyfer Cŵn Tywys i’r Deillion.
Rwy’n hapusaf yn rhannu pryd o fwyd gyda theulu a ffrindiau.
Alun Llwyd
Ymddiriedolwr, Is-gadeirydd
Fi yw Prif Weithredwr PYST Cyf. Mae fy nghymhelliant dros fod yn ymddiriedolwr yn amrywiol. Yn fy nghwaith o ddydd i ddydd rwyf yn ymwneud â hyrwyddo diwylliant Cymraeg a Chymreig yn y gallu adross y straeon hynny i gynulleidfa ehangach drwy blatffrom digidol AM (â sefydlwyd gennaf dair blynedd yn ôl). Mae gennyf grêd sylfaenol ym mhwysigrwydd gweithgaredd a llwyddiant cymunedol i les a datblygiad y genefl yn economaidd a diwylliannol ac mae pwysigrwydd a hanes Enlli yn rhan annatod o hynny i mi. Mae esblygiad yr Ynys i’r dyfodol yn rhywbeth cyffrous er heriol, economaidd. Yn arbennig yn dilyn Covid, rwyd wedi gweld y modd y gall y cyfrwng digidol ddatblygu ymgysylltiad y cyhoedd gyda straeon penodol a dyna y mae AM yn ei wneud a hynny i gynulleidfa fawr.
Philip Owen
Ymddiriedolwr
Rwy’n dod o gymuned wledig yng ngogledd Cymru, ac wedi ymweld â Phenrhyn Llŷn, ac wedi ei garu, ers dros 40 mlynedd. Mae gen i gysylltiad personol â’r ardal; mae fy mrawd yng nghyfraith yn parhau i ffermio ym Moduan.
Hyfforddais fel cyfrifydd siartredig a gweithiais yn y proffesiwn am 12 mlynedd. Wedi hynny ymunais â’r Comisiwn Ewropeaidd ac rwyf wedi gweithio mewn sawl maes polisi. Yn ystod rhan olaf fy ngyrfa Ewropeaidd, wnes reoli timau sy’n ymwneud â materion amgylcheddol a pholisi hinsawdd megis trafnidiaeth ffyrdd a thanwydd, ansawdd aer, nwyon fflworin yn ogystal â materion ariannu prosiectau.
Dot Tyne
Ymddiriedolwr
Fy mhrofiad cyntaf o Enlli oedd ymweliad brysiog o ddwy awr i edrych ar Dŷ Pellaf gyda’r bwriad o’i wneud yn gartref i mi. Bu Tim a minnau’n byw ar yr ynys rhwng 1994 a 1998, yn gofalu am y gwartheg a’r defaid ac yn cymryd rhan weithgar yn nghymuned yr ynys, gan briodi a dechrau teulu yn ystod y cyfnod hwn.
Mae gweithio fel gwirfoddolwr yn y blynyddoedd diwethaf, gyda’m merched, wedi adfywio fy nghysylltiad â’r ynys, ac erbyn hyn mae fy mhlant bron wedi tyfu i fyny, mae gen i fwy o amser i ddilyn fy niddordeb ynddi.
Yn ogystal â magu teulu a sefydlu busnes fferm cynaliadwy ar Benrhyn Llŷn, rwyf wedi gweithio fel Gweinyddwr, Cyfarwyddwr Cwmni ac Yswiriwr i sawl cymdeithas aelodau a sefydliad elusennol sylweddol.
Roeddwn yn ifanc iawn pan fywais ar Enlli, ac roedd yn gyfnod ffurfiol iawn yn fy mywyd. Ces i gymaint ohono a gwnaeth hi fi’n berson fel yr wyf heddiw.
Robert Townsend
Ymddiriedolwr, Cadeirydd y Pwyllgor Ysbrydolrwydd
Am bron 30 mlynedd, rwyf wedi arwain plwyfi mawr o nifer o eglwysi, lle roeddwn i’n gyfrifol am oruchwylio’r weinidogaeth, y cyllid a’r gwirfoddolwyr. Rwyf bellach yn Ymddiriedolwr Esgobaeth Bangor ac Eglwys Gadeiriol Bangor ac rwyf yn rhan o Dîm Rheoli Uwch Esgobaeth Bangor.
O 2017 hyd at 2022, cefais fy mhenodi i Gyngor y Gweithlu Addysg gan Weinidog Addysg Llywodraeth Cymru.
Rydw i wedi bod yn Ymddiriedolwr i Ynys Enlli yn y gorffennol ac yn Gadeirydd y Pwyllgor Ysbrydolrwydd, ac rwyf yn aelod gwirfoddol wedi’i hyfforddi’n llawn o griw cwch bad achub RNLI Cricieth.
Mae Enlli yn un o’m hoff lefydd. Bu’n lle ar gyfer gwyliau teulu a chyfnodau arbennig iawn. Bu’n fraint i mi fod yn Ymddiriedolwr o’r blaen ac mae’n fraint bod yn Ymddiriedolwr lle arbennig iawn eto. Rwyf yn angerddol am ddatblygu cymuned hunangynhaliol reolaidd ar Enlli, i eistedd ochr yn ochr ag ymwelwyr yr Ymddiriedolaeth.
Mae Enlli yn le o ddistawrwydd, syfrdandod, myfyrio a hwyl, sydd angen cymuned trwy’r flwyddyn.
Dewi Lewis
Ymddiriedolwr
Rwy’n frodor o Borthmadog ond wedi byw yng Nghlydach, Dyffryn Tawe ers 1989. Rwyf wedi ymweld ag Ynys Enlli ers 2008 fel ymwelydd wythnos ac hefyd ar deithiau dydd. Mae gennyf ddiddordeb yn hanes a diwylliant Ynys Enlli. Rwyf yn adarwr brwd ac yn hoff o fyd natur yn gyffredinol. Mae gennyf radd anrhydedd mewn Diwinyddiaeth ac mae agweddau ysbrydol a chrefyddol Enlli yn rhywbeth sydd yn agos at fy nghalon hefyd.
Deryl Roberts
Ymddiriedolwr
Rwy’n byw ym Mhowys, gyda gwreiddiau teuluol ar Benrhyn Llŷn, ac rwy’n aros ar Ynys Enlli am wythnos bob blwyddyn. Mae Enlli yn le unigryw ac arbennig sydd wedi dod yn rhan bwysig iawn o fy mywyd. Rwyf yn ceisio bod yn ymddiriedolwr fel y gallaf helpu i sicrhau bod Enlli yn ffynnu yn y dyfodol a bod ei chymuned, bywyd gwyllt, ei thirwedd a’i threftadaeth yn cael ei ddiogelu a’i werthfawrogi ar gyfer cenedlaethau’r presennol a’r dyfodol.
Rwy’n dod â dros 30 mlynedd o brofiad mewn ymgynghori amgylcheddol a chynaliadwyedd ac rwy’n credu y gallaf ddefnyddio fy sgiliau technegol a busnes i gefnogi’r Ymddiriedolaeth i barhau i wneud Enlli yn esiampl o gymuned ynys gynaliadwy yng Nghymru.
Dafydd Giblin
Ymddiriedolwr
Rydw i wedi bod yn ymwelydd cyson â’r ardal leol drwy gydol fy mywyd ac ym Mhen Llŷn y mae’r lle rydw i’n teimlo’n wirioneddol gartrefol. Rwy’n briod ac yn rhieni i ddau o blant, ac fel teulu rydym wedi datblygu affinedd arbennig tuag at Enlli.
Graddiais o Brifysgol Lerpwl a dechreuais fy ngyrfa gyda Kellogg’s cyn mynd ymlaen i ddal swyddi arwain gyda chwmnïau gan gynnwys Shell a Nike. Mae gen i brofiad o arwain newid, datblygu strategaeth, adeiladu timau, trawsnewid busnesau a sicrhau twf cynaliadwy. Rwyf hefyd wedi gweithio’n rhyngwladol gan gynnwys cyfnodau yn byw yn yr Iseldiroedd, yr Unol Daleithiau a’r Swistir.
Pan nad wyf yn gweithio rwy’n hoffi teithio ac wedi dod yn rhedwr angerddol sydd wedi cwblhau marathon Llundain bedair gwaith i gefnogi gwahanol elusennau. Rwy’n gobeithio y bydd fy mhrofiad masnachol a busnes yn fuddiol ac rwy’n falch iawn o gael y cyfle i gefnogi’r ymddiriedolaeth.
Lona Williams
Ymddiriedolwr
Cefais fy ngeni a’m magu yn yr ardal leol, gyda diddordeb mawr yn Ynys Enlli. Rwy’n gweithio fel Partner Busnes Rhagoriaeth Gweithredol Rhanbarthol ar gyfer sefydliad gwyliau ledled y DU. Rwyf wedi gweithio i’r cwmni ers dros 13 mlynedd mewn swyddi rheoli. Mae fy rôl yn cynnwys cefnogi adran y sefydliad trwy newid busnes a drwy feddwl yn strategol. Mae’r newid busnes yn cynnwys effeithlonrwydd, sgiliau allweddol rheolwyr unigol, perfformiad ariannol trwy reoli costau a chyflogau, ac adeiladu cynhyrchiant cynaliadwy yn nyfodol yr adran.
Mae’n anrhededd cefnogi’r Ymddiriedolaeth.
Menna Jones
Ymddiriedolwr
Wyddwn i ddim am Enlli tra’n tyfu fyny yng Ngheredigion a chefais mo’r cyfle i ddarganfod yr Ynys tra’n blentyn. Ac felly mae rhin a rhyfeddodau’r Ynys wedi eu cyflwyno i mi fesul dipyn ar hyd y degawdau diwethaf wedi symud i’r gogledd.
Mae gwybod bod Enlli yna yn hollbwysig gan ei bod yn cynrychioli yr hyn sy’n dda am Gymru – ein cymunedau a’r amgylchedd leol, ein treftadaeth byw, yr iaith Gymraeg a’n etifeddiaeth. Mae’n anodd egluro pam mae rhywun iso cyfrannu at ddyfodol cynaliadwy ynys fach ar gyrion Pen Llyn – gallaf ddimond cadarnhau ei bod yn ddyletswydd arnom i warchod, datblygu a charu cymuned sy’n crisialu’r soniaredd a berthyn i Gymru, ac i’r Cymry.
Treuliais y 40 mlynedd diwethaf yn hyrwyddo a datblygu gwasanaethau cymunedol, yn ymdrechu i drawsnewid dyheadau a ffyniant pobl a chymunedau – rhai daearyddol a chymunedau o ddiddordeb. Gobeithaf ddefnyddio’r profiad yna i fuddsoddi yn Enlli er llesiant yr Ynys a’i phobl, cenedlaethau’r dyfodol, yr ecoleg a’r treftadaeth.
Bu Menna yn Rheolwr Datblygu i’r Ymddiriedolaeth yn y gorffennol.
Siân Thomas
Ymddiriedolwr
Mae Ynys Enlli wedi bod yn rhan integredig o’m magwraeth, ac mae’n fraint gennyf gynnig fy nghefnogaeth i’r Ymddiriedolaeth wrth geisio sicrhau dyfodol yr Ynys. Rwyf wedi fy magu ym Mhen Llyn ac yn parhau i fyw yno gyda’m gwr a thri o blant ifanc. Rwyf wedi gwario cryn amser ar yr Ynys dros y blynyddoedd ac yn aros yn rheolaidd gyda’r plant.
Mae’r Ynys yn unigryw ac rwy’n gwerthfawrogi mor bwysig yw gwarchod ei buddiannau’n ofalus. Rwy’n obeithiol gall fy mhrofiadau tu hwnt i’r Ynys fod yn ddefnyddiol, e.e fy ngradd yn Y Gyfraith a’m gradd meistri mewn Rheoli Eiddo Masnachol, a’r sgiliau dwi wedi’u meithrin fel Syrfewr Siartedig wrth reoli stad y Cyngor lleol. Rwyf wedi rheoli Becws am gyfnod, gan gynnwys rheoli gweithlu ac rwyf bellach yn gweithio yn y maes Gofal, yn Comisiynu a rheoli Contractau. Byddai’n bleser gennyf ymuno fel Ymddiriedolwr i gynnig fy nghefnogaeth.
Sarah Purdon
Ymddiriedolwr
Tyfais i fyny yng nghanolbarth Cymru yn agos at y môr, yn edrych allan tuag at Enlli. Ar ôl graddio o Brifysgol East Anglia gyda gradd mewn Ecoleg, dychwelais i Gymru gyda chyfnod byr yn gwirfoddoli ar ynys Sgomer. Felly y dechreuodd fy ngharwriaeth ag ynysoedd Cymru. Roeddwn yn byw ac yn gweithio ar Sgomer fel Warden Cynorthwyol yn 2017, 2018 a 2019, felly rwy’n gyfarwydd iawn â’r heriau a’r gwobrau o fyw ar yr ynysoedd pwysig hyn a gofalu amdanynt, yn enwedig ar gronfeydd cyfyngedig!
Symudais oddi ar Sgomer er mwyn dychwelyd i ganolbarth Cymru, gan barhau i weithio i Ymddiriedolaeth Natur De a Gorllewin Cymru, bellach fel swyddog gwiwerod coch y canolbarth. Rwy’n awyddus i barhau i ymwneud ag ynysoedd Cymru ac rwyf yn edrych ymlaen at ddod i adnabod Enlli cystal ag yr wyf yn adnabod Sgomer.
Greta Hughes
Ymddiriedolwr
Mae gennyf gysylltiad cryf a thrwyadl gydag Enlli, gan imi groesi’r Swnt am y tro cyntaf pan oeddwn i’n 15 oed gyda’m tad yn ei gwch traddodiadol 14 troedfedd Aberdaron. Dychwelais 9 mlynedd yn ddiweddarach fel Swyddog Pysgodfeydd lleol ac am lawer o’r 42 mlynedd a ddilynodd yn fy ngyrfa ym maes gorfodi a rheoli pysgodfeydd, roeddwn yn gyfrifol am warchod y pysgodfeydd o amgylch Enlli, gan weithio o longau RIB a Llongau Patro Pysgodfeydd mwy.
Dros y ddwy flynedd diwethaf, rydw i wedi treulio wythnos bob blwyddyn ar Enlli ac rwy’n gobeithio parhau i wneud hynny. Mae’r amodau byw sylfaenol, sydd gymaint yn wahanol i’r bywydau modern llawn prysurdeb dydd i ddydd, yn cynnig cyfle angenrheidiol o saib, ac yn fy ngludo’n ôl i’r bywyd syml a fu ar Llŷn yn fy ieuenctid. Mae hefyd agwedd ysbrydol i Enlli, gan ei fod yn pontio’r ddwy lefel o’n bodolaeth bresennol gyda’r anhysbys, ac rwyf wedi teimlo ei bwerau iachau ar ôl marwolaeth fy ngŵr ddwy flynedd yn ôl.
Mae’n fraint ddod yn Ymddiriedolwr gyda’r gobaith y gallwn gyfrannu mewn ffordd fach at waith yr Ymddiriedolaeth fel y gall yr ynys weithgar unigryw hon barhau i ffynnu, gan ganiatáu i eraill elwa, fel yr wyf i, o’u hymweliadau.
Cydnabyddiaethau o gefnogaeth
The work of the Trust is supported by its members, by donations and by the work of volunteers. We are grateful to all those whose generous support makes it possible for us to maintain the island for the benefit of all.
Financial support has also been received from the Heritage Lottery Fund, Gwynedd Council Culture SPF Fund, Architectural Heritage Fund, WCVA, Llŷn AONB and the UK Government Enterprising Communities. (2022)
Lle nesaf?