Drwy gefnogi rydych yn cyfrannu’n uniongyrchol tuag at ddyfodol yr ynys
Elusen fach annibynnol ydi Ymddiriedolaeth Ynys Enlli a gafodd ei sefydlu yn 1979 i warchod hynodrwydd naturiol, hanesyddol, crefyddol a diwylliannol Enlli ag i sicrhau ei bod yn hygyrch i genedlaethau’r dyfodol.
Cefnogwch waith yr Ymddiriedolaeth drwy rodd ariannol, gadewch rywbeth i’r ynys yn eich ewyllys neu ymunwch fel aelod neu wirfoddolwr. Mae unrhyw gefnogaeth yn gwneud gwahaniaeth mawr.
Ffurfiwyd yr Ymddiriedolaeth yn gyntaf gan grŵp o bobl ymroddedig oedd yn angerddol am Enlli, gyda miloedd o bobl o bob cwr o Gymru a’r DU yn cefnogi’r ymgyrch. Ers hynny, mae’r ynys wedi elwa o amser, rhoddion ac ymdrech cefnogwyr di-ri.
Gweledigaeth yr Ymddiriedolaeth yw i Enlli fod yn esiampl o fywyd ynys Gymreig, lle mae cymuned fywiog, economi ac ecoleg iach yn ffynnu. Ein blaenoriaethau presennol yw sicrhau adeiladwaith yr adeiladau, ac mae angen gwaith adfer mawr i sicrhau bod y tai a’r seilwaith yn addas i’r ar gyfer ein cymuned ac ymwelwyr.

Aelodaeth
Ymunwch fel aelod i ddod yn rhan o’n stori
Mae aelodaeth yn ffordd wych o’n cefnogi o flwyddyn i flwyddyn. Mae aelodaeth unigol, teulu, ieuenctid ac oes ar gael.

BLODAU CORS
Buddion i Aelodau
Fel aelod o Ymddiriedolaeth Ynys Enlli byddwch yn:
- Derbyn Blwyddlyfr blynyddol
- Derbyn ein cylchlythyr ‘Y Cafn’
- Cael blaenoriaeth archebu ar lety
- Gwahoddiad i’n Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol
- Byddwch yn rhan o’r gymuned o bobl sy’n caru Enlli

Rhoi
Mae eich rhodd yn mynd yn bell
Mae Ymddiriedolaeth Ynys Enlli yn elusen fach annibynnol. Ein nod yw diogelu dyfodol Enlli ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol i fyw, gweithio, ymweld ac darganfod popeth sydd gan Enlli i’w gynnig. Mae pob rhodd yn ein helpu i drwsio mwy o doeau sy’n gollwng, gosod ffenestri newydd yn lle’r rhai sydd wedi pydru, cynnal gweithdai celf i ymwelwyr ag i gynnig llety i grwpiau sy’n gweithio gyda phobl ifanc a bregus.

Gwirfoddolwyr ar waith
Gwirfoddoli
Beth am wirfoddoli ar Enlli?
Ydych chi’n chwilio am her ac eisiau bod yn rhan o’r tîm o bobl sy’n gweithio’n galed i warchod Enlli? Mae gwirfoddoli yn gyfle perffaith i ddod i adnabod yr ynys, ei phobl a phrofi bywyd ar ynys anghysbell. Mae cyfleoedd gwirfoddoli ar gael am gyfnodau byr a hir dymor o fis Mawrth i fis Hydref.
Cwestiynnau
Oes gennych chi unrhyw gwestiynau am sut y gallwch gefnogi gwaith Ymddiriedolaeth Ynys Enlli? Os nad yw eich cwestiwn yn cael ei ateb yma cysylltwch â ni ar post@enlli.org.
Gallwch, gallwch gyfrannu’n fisol trwy ddilyn y ddolen trwy ein platfform rhoi ar-lein gyda Localgiving.
Mae gennym restr lawn o’n hymddiriedolwyr presennol ar ein gwefan yma. Mae ein hymddiriedolwyr hefyd wedi’u rhestru ar wefannau’r Comisiwn Elusennau a Thŷ’r Cwmnïau.
Yn gyffredinol mae gennym rhwng 10-15 ymddiriedolwr. Mae angen ymddiriedolwyr newydd arnom yn rheolaidd gydag ystod eang o sgiliau a phrofiadau. Os oes gennych ddiddordeb mewn bod yn Ymddiriedolwr anfonwch e-bost atom ar post@enlli.org.