Hafan

Ymweld â'r ynys

Ymweld ag Enlli am ei fywyd gwyllt, ei diwylliant a'i threftadaeth

Mae’r profiad o aros ar Ynys Enlli yn unigryw ac yn arbennig iawn. Cyfle i ‘ddiffodd’, i dreulio wythnos o dan y sêr, wedi’i amgylchynu gan fywyd gwyllt, hanes a’r elfennau.

Dewch am enciliad ‘digidol-detox’ ar eich pen eich hun neu dewch am antur gyda thŷ llawn o ffrindiau a theulu. Mae wythnos ar Enlli yn sicr o roi cyfle i chi ymlacio a dod yn ôl at eich coed.

A white house with multiple chimneys sits on a grassy hillside, partially obscured by yellow-flowered bushes in the foreground, part of the serene landscapes cared for by Ymddiriedolaeth Ynys Enlli.

Tŷ Nesaf a Thŷ Bach

Llety

Eisiau dod i aros ar yr ynys?

Archebwch eich gwyliau unigryw ar Enlli heddiw. Mae gennym amrywiaeth o dai rhestredig Gradd 2, llofftydd a bwthyn croglofft i chi ddewis ohonynt.

A narrow stone path leads into calm, shallow water with rocks and wooden poles scattered along the shoreline, capturing the tranquil essence of life on Enlli under a clear sky at sunset.

Aros ar Enlli

Dysgwch mwy am beth i ddisgwyl

Mae’r tai yn ffermdai traddodiadol, llofftydd neu groglofft draddodiadol Gymreig gyda chyfleusterau syml. Mae pob tŷ oddi ar y grid ond mae gan bob un oergell/rhewgell fach, popty nwy a ffwrn, lampau solar, ac mae gan y mwyafrif stofiau llosgi coed. Mae gan bob tŷ doiledau compost syml.

Does dim golygfeydd gwael ar Enlli ac mae gan bob tŷ ansawdd a chymeriad arbennig y byddwch chi’n syrthio mewn cariad ag ef.

Aerial view of a rocky peninsula with a lighthouse, managed by Ymddiriedolaeth Ynys Enlli, surrounded by blue ocean and under a partly cloudy sky.

Ynys Enlli gan Myles Jenks

Tripiau Dydd

Ymwelwch yr ynys am y dydd

Gallwch ymweld ag Enlli ar drip dydd drwy gydol y flwyddyn o Ebrill i Hydref. Mae Colin Evans, o Fordaith Llyn, yn rhedeg gwasanaethau o Borth Meudwy pryd bynnag y mae’r tywydd yn caniatáu. Ewch i Fordaith Llyn i drefnu ymweliad diwrnod.

Popeth rydych chi angen gwybod cyn ymweld

Mae parcio ar gyfer ymwelwyr dydd ar gael ar ben y trac sy’n arwain i lawr i Borth Meudwy, mae’n tua 15 munud i cerdded lawr at y cwch o’r maes parcio. Ar gyfer ymwelwyr sy’n aros, darperir gwybodaeth am barcio wrth archebu.