Hafan > Amgylchedd Naturiol

Bywyd Gwyllt

Mae yna gannoedd o rywogaethau ar Enlli

Mae Enlli’n enwog am ei fywyd gwyllt a’r lle perffaith i weld brain Goesgoch, morloi llwyd, palod a’r drycin Manaw. Mae 332 o rywogaethau adar wedi cael eu gofnodi ar yr ynys.

Mae Enlli yn Warchodfa Natur Genedlaethol a Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig. Mae’n safle sydd yn bwysig i fywyd gwyllt yn genedlaethol ac yn rhyngwladol. Mae yna ystod eang o ddiddordeb sydd yn cynnwys adar, gyda Enlli wedi’i leoli ar lwybr mudo allweddol ar gyfer adar Ewrop, planhigion blodeuol prin, cennau, llysiau’r afu a mwsoglau, glaswelltir arfordirol a rhostir, lleynau clogwyni môr a bywyd gwyllt morol.

Mae Ymddiriedolaeth Ynys Enlli fel perchenog, a Cyfoeth Naturiol Cymru fel corff cynghori’r llywodraeth ar bywyd gwyllt a cadwraeth, yn sicrhau bod bywyd gwyllt yr ynys yn cael ei amddiffyn ar gyfer y dyfodol. Mae nodweddion pwysig hanes naturiol yr ynys yn cael eu reoli drwy fferm yr ynys.

Bywyd Môr

Gellir gweld cytref gref o hyd at 200 o forloi llwyd yr Iwerydd ym môr creigiog yr ynys. Mae nifer fach yn bridio ar Enlli bob blwyddyn.

Mae’r môr o amgylch yr ynys, gyda’i gwinllan o wymon strap, yn byrlymu gyda bywyd morol. Ym myllau’r creigiau mae anemonau, crancod a physgod bach i’w gweld. Yn y dyfroedd dyfnach mae bwydwyr hidlo fel sbwngau a chwistrellwyr y môr yn clustogi’r creigiau. Mae un rhywogaeth alltraeth, yr anemoni seren felyn, yn fwy cyffrdin yn Môr y Canoldir. Mae dolffiniaid Risso a’r llamhidydd harbwr yn cael eu gweld yn rheolaidd yn y môr o amgylch yr ynys.

 

 

Planhigion

Ar hyd yr ymylon arfordirol, mae serennyn y gwanwyn yn creu carpedi glas niwlog yn fuan yn y gwanwyn. Yn dilyn hyn, mae clystyrau trwchus o glustog mair a clytiau o teim, ac yn hwyrach ymlaen mae grug cloch a ling. Mae’r planhigion mwy prin yn cynnwys meillion gorllewinol a tafod gwiber bach. Ymhlith y mwyaf nodedig o’r planhigion mae’r cennau, mae gan Enlli amrywiaeth gyfoethog o dros 350 o rywogaethau.

 

Two cormorants perched on a rocky outcrop capture the essence of life on Enlli, with a red and white lighthouse blurred in the background under a clear sky.

Mulfran yn sychu adenydd

Sefydlwyd yn 1953

Gwylfa Adar a Maes Ynys Enlli

Mae’r ynys wedi’i leoli yn llwybr mudo gwanwyn ac hydref nifer o adar, ac yn gartref i’r Brain Goesgoch a’r Piod Fôr. Mae o’n gyffredin i weld creyr glas, hebogiaid tramor, tinwen y garn a teloriaid, yn ogystal ag adar môr fel hugannod, llursod a mulfrain werdd. Dros y 10 mlynedd diwethaf mae palod wedi bod yn cynyddu mewn niferoedd ar ochr ddwyreiniol y mynydd. Fodd bynnag, mae’r ynys yn gysylltiedig yn bennaf â’r Adar Drycin Manaw – mae nythfa gadarn o 27,000 o barau ar yr ynys.

Mae Gwylfa Adar a Maes Enlli wedi bod yn monitro ac yn modrwyo adar ar Enlli ers dros 70 mlynedd.

Straeon Bywyd Gwyllt

A house at night with a lit window is surrounded by trees under a sky filled with visible star trails, creating a serene noddfa awyr dywyll.
Blog

20.02.25

Enlli a’r ser uwchben

Mae hi bron ym amhosibl, dwi’n credu, i sefyll o dan awyr llawn sêr yn y nos heb ryfeddu ar yr olygfa. Mae’r ymateb yma’n un sy’n gyffredin i bawb, ac yn un nad yw’n newid wrth i ni brofi’r olygfa drawiadol dro ar ôl tro.

Darllen