Hafan > Amgylchedd Naturiol

Noddfa Awyr Dywyll

Yr ynys o 20,000+ o sêr

Yn 2023, cafodd Ynys Enlli ei ardystio’n Noddfa Awyr Dywyll Ryngwladol (NADR) gan Gymdeithas Awyr Dywyll Ryngwladol (CADR). Mae hyn yn golygu mai Enlli yw’r safle cyntaf yn Ewrop i gyflawni’r statws yma.

Mae Noddfeydd Awyr Dywyll Ryngwladol fel arfer wedi’u leoli mewn lleoliad anghysbell gyda llai o fygythiadau cyfagos i ansawdd awyr dywyll y nos. Mae Enlli yn bodloni meini prawf llym gyda’r dynodiad newydd yma, ac yn ymuno gyda dim ond 16 safle arall byd-eang.

Mae lleoliad Enlli a’i nodweddion dearyddol yn ei wneud yn un o’r llefydd mwyaf tywyll yn y DU- gyda’r mynydd yn ymddwyn fel rhwystr effeithiol sydd yn cyfyngu ar olau o’r tir mawr. Y lleoliad agosaf sydd yn rhyddhau llygredd golau sylweddol yw Dulyn, sydd dros 70 milltir (113 cilomedr) dros Môr Iwerddon.

Cefnogwyd y cais gan Lywodraeth Cymru, lleoliadau Awyr Dywyll eraill yng Nghymru gan gynnwys Parc Cenedlaethol y Bannau Brycheiniog ac Eryri, Cyngor Cymuned Aberdaron, Cyfoeth Naturiol Cymru, gan gynnwys Prosiect NOS (prosiect awyr dywyll leol), cymdeithasau astronomeg a Cyngor Gwynedd.

Yn dilyn sicrhau’r statws NADR, mae Ymddiriedolaeth Ynys Enlli am barhau gyda’r gwaith o amddiffyn awyr dywyll Enlli drwy codi ymwybyddiaeth o’r lleoliad unigryw yma yng Nghymru, gan gynnwys hyrwyddo pwysigrwydd yr awyr dywyll yn lleol ac yn genedlaethol.

Ymgymerwyd â rhaglen bedair blynedd yn defnyddio’r technoleg diweddaraf i fonitro ansawdd awyr y nos ar yr ynys er mwyn dangos ei fod digon dywyll ar gyfer y dynodiad. Roedd y Gymdeithas Awyr Dywyll Ryngwladol hefyd angen cynllun rheoli golau a tystiolaeth ffotograffig ar gyfer yr ardystiad yma.

Roedd Mari Huws, un o Wardeniaid Ynys Enlli, yn rhan o’r broses ardystiad.

A house at night with a lit window is surrounded by trees under a sky filled with visible star trails, creating a serene noddfa awyr dywyll.

Wrth fyw yma, dwi o hyd mewn rhyfeddod dros harddwch yr ynys- a mae awyr y nos yn rhan mawr o hynny. Yn dilyn sicrhau’r ardystiad, rysym yn edrych ymlaen at groesawu ymwelwyr yma dros y misoedd a blynyddoedd i ddod, ac i rannu ein stori unigryw. Roeddan ni’n gwybod ein bod ni’n byw mewn lle arbennig, mae’r statws yma’n cadarnhau hyn, gyda’r Noddfa Awyr Dywyll Ryngwladol yn rhoi Enlli ar lwyfan y byd. Mewn byd sydd yn cael ei lygru yn fwy ac yn fwy, mae o’n fraint i fod allu gweithio tuag at amddiffyn rhywbeth sydd yn cyntefig ar gyfer cenedlaethau y dyfodol.

Mari Huws Jones

Aerial view of a rocky peninsula with a lighthouse, managed by Ymddiriedolaeth Ynys Enlli, surrounded by blue ocean and under a partly cloudy sky.

Ymholiadau Cyffredinol

Am ymholiadau am ymweld â'r ynys

Aros dros nos: Gweler ein tudalen argaeledd
Tripiau dydd: Colin Evans, Mordaith Llyn
Cefnogi Ymddiriedolaeth Ynys Enlli: Dod yn aelod yma