Hafan > Cefnogwch ni

Gwirfoddoli ar Ynys Enlli

A small rural village with stone buildings and green fields, seen from above, with yellow flowers in the foreground and sheep grazing in the distance—a tranquil scene reflecting the stewardship of Ymddiriedolaeth Ynys Enlli.

Helpwch i gynnal yr ynys trwy ddod yn wirfoddolwr

NAWR YN DERBYN CEISIADAU AR GYFER 2025

Mae gwirfoddoli yn gyfle unigryw i brofi bywyd a gwaith ar yr ynys ag i gefnogi’r Ymddiriedolaeth i gynnal a chadw’r tir ac adeiladau’r ynys weithiol hon. Mi fyddwch yn ymuno gyda thîm egnïol o staff ar Enlli. Mae cyfleoedd hir a byr dymor o fis Mawrth i fis Hydref.

Gweler y pecyn yma am fwy o wybodaeth. Darllenwch y pecyn cyn mynd ati i wneud cais osgwelwch yn dda.

Yn gyfnewid am eich llety, gofynnwn am tua 5 awr o waith y dydd, 5 diwrnod yr wythnos. Ewch amdani, gwnewch gais heddiw!

Removing render

Gwirfoddolwyr cyn y tymor

Chwefror - Mawrth

Rydym yn chwilio am unigolion neu grŵp o wirfoddolwyr i ddod i helpu i gael y lletyai yn barod ar gyfer y tymor gwyliau.

Mae llawer iawn o waith glanhau i’w wneud, yn ogystal â phaentio a pharatoi’r ystafelloedd yn ystod yr wythnosau hyn. Mae croeso i chi wneud cais am wythnos neu fwy.

Dewiswch ‘Cyn Tymor’ yn y ffurflen gais a nodwch y dyddiadau a ffafrir. (dydd Sadwrn i ddydd Sadwrn).

Mae siawns uwch fod y cwch ddim yn rhedeg yn rheolaidd ym mis Mawrth oherwydd y tywydd, felly byddwch yn barod i fod yn hyblyg.

Volunteer at work in the Orchard

Gwirfoddolwyr tymor hir

Chwefror i Hydref

Dyma gyfle gwych i gael blas ar fywyd ar yr ynys yn ystod misoedd prysur y gwanwyn ar haf.

Byddwch yn helpu’r tîm i gynnal a chadw’r tai, y gerddi a’r mannau cyhoeddus i safon uchel ar gyfer ymwelwyr a gwesteion sy’n aros. Byddwch yn helpu’r Wardeniaid Llety ar ddiwrnodau ‘changeover’ ac yn y gerddi, ac yn cynorthwyo Rheolwr yr Ynys gyda thasgau gwaith tir a chynnal a chadw.

Rydym yn chwilio am wirfoddolwyr brwdfrydig, gweithgar. Addas ar gyfer unigolion neu gwpl sy’n fodlon rhannu ystafell.

Dyddiadau sydd ar gael:

13 Medi – 1 Hydref 2025

Gwirfoddolwyr Ôl-dymor

Hydref

Rydym yn chwilio am wirfoddolwyr sydd am ymuno â thîm yr ynys ym mis Hydref. Rydym yn chwilio am unigolion neu grŵp o wirfoddolwyr i ddod i helpu i gau’r llety ar ôl y tymor gwyliau. Mae llawer iawn o waith glanhau i’w wneud, yn ogystal â phaentio a phacio dodrefn a chynfasau ac ati yn barod ar gyfer y gaeaf.

Mae croeso i chi wneud cais am wythnos neu bythefnos.

Dyddiadau sydd ar gael:

4ydd -11eg Hydref 2025

Beth i wybod cyn cyrraedd

Dydd Mercher – Cyrraedd – cwrdd â’r wardeniaid a setlo i mewn i’r llety
Dydd Iau – Gweithio gyda Rheolwr yr Ynys ar dasgau gwaith tir a chynnal a chadw.
Dydd Gwener – diwrnod i ffwrdd
Dydd Sadwrn – Glanhau lletyai gwyliau ‘changeover’ gyda Wardeniaid Llety
Sunday – day off
Dydd Llun – Gwaith ar dasgau a osodwyd gan Reolwr yr Ynys
Dydd Mawrth – Gweithio gyda Wardeniaid Llety yn y gerddi
Dydd Mercher – Gweithio gyda Rheolwr yr Ynys ar dasgau gwaith tir a chynnal a chadw.

Mae tasgau arferol yn cynnwys peintio ffenestri, arwyddion a gatiau, torri a chasglu gwair, chwynnu ‘cobbles’, cynnal y berllan, torri llwybrau’r mynydd, gwaith coed a hel sbwriel ar y traethau.