Cyfrannu at ddyfodol Enlli
Ym 1979 bu ymgyrch enfawr a gafodd ei gefnogi gan gannoedd o bobl o bob rhan o Gymru a thu hwnt i sefydlu Ymddiriedolaeth a phrynu Enlli yn llwyddiannus.
Heddiw mae ein haelodaeth yn garfan o bobl sydd am fod yn rhan o sicrhau dyfodol Enlli i bawb. Mae ein haelodaeth yn golygu y gallwn barhau i warchod yr hyn sy’n gwneud Enlli yn arbennig, tra’n buddsoddi mewn newidiadau a fydd yn caniatáu i ni barhau i groesawu ymwelwyr bob blwyddyn, darparu cyfleoedd gwirfoddoli a diogelu adeiladau ar gyfer y genhedlaeth nesaf o bobl a fydd yn byw ac yn gweithio ar Enlli.

Dolydd blodau gwlyptir
Buddion i Aelodau
Fel aelod o Ymddiriedolaeth Ynys Enlli byddwch yn:
- Derbyn Blwyddlyfr blynyddol
- Derbyn ein cylchlythyr ‘Y Cafn’
- Cael blaenoriaeth archebu ar lety
- Gwahoddiad i’n Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol
- Byddwch yn rhan o’r gymuned o bobl sy’n caru Enlli
Ymaelodwch
Cwblhewch y ffurflen aelodaeth isod, neu cliciwch yma i lawrlwytho copi o’r ffurflen aelodaeth.
Ymaelodwch
Cwestiynau am aelodaeth
Oes gennych unrhyw gwestiynau am ddod yn aelod o Ymddiriedolaeth Ynys Enlli? Os nad yw'ch cwestiwn yn cael ei ateb yma, cysylltwch â ni ar post@enlli.org.
Gallwch naill ai sefydlu taliad rheolaidd o’ch banc i’n cyfrif neu ddefnyddio ein platfform rhoi ar-lein. Bydd angen i chi lenwi’r ffurflen aelodaeth.
Mae aelodaeth oes yn golygu y byddwch chi’n talu unwaith yn unig ond byddwch chi’n derbyn ein cyhoeddiadau aelodaeth a mynediad at archebu blaenoriaeth am byth. Rydym yn cynnig dwy lefel o aelodaeth gydol oes, aelodaeth Oes Unigol cyffredinol o £1500 ac aelodaeth Oes Hŷn o £1000 (60 neu hŷn).
Bob blwyddyn rydym yn agor ein harchebion i’n haelodaeth 2 wythnos cyn iddo gael ei agor i’r cyhoedd. Byddwch yn derbyn e-bost gyda chyfarwyddiadau a dyddiadau flaenoriaeth yn mynd yn fyw, gyda chod mynediad i dudalen aelodau yn unig ar y wefan. Byddwn yn defnyddio eich manylion aelodaeth i gydgysylltu archebion a wneir trwy’r dudalen hon a’n cronfa ddata aelodaeth.