Llety Ymwelwyr
Mae’r profiad o aros ar Ynys Enlli yn unigryw ac yn arbennig iawn. Cyfle i ‘ddiffodd’, i dreulio wythnos o dan y sêr, wedi’i amgylchynu gan fywyd gwyllt, hanes a’r elfennau.
Mae deg tŷ hunanarlwyo ar gael i’w rhentu gan Ymddiriedolaeth Ynys Enlli. Mae’r tai yn draddodiadol gyda chyfleusterau sylfaenol. Mae pob tŷ yn ‘off-grid’ gyda thoiledau compost, ond mae gan bob un oergell/rhewgell fach, popty nwy a ffwrn, lampau solar, ac mae gan y mwyafrif stofiau llosgi coed.
Nid oes cae gwersylla na chyfleusterau gwersylla ar Ynys Enlli, mae’n rhaid archebu llety er mwyn aros ar yr ynys.

Llofft Plas
Yn cysgu 2
Adnewyddwyd Llofft Plas, sydd bellach yn llety poblogaidd a chyfforddus, o hen stabl. Oddi yma cewch un o'r golygfeydd gorau o'r ynys; yn edrych i gyfeiriad y goleudy o'r drws ffrynt. Saif oddeutu hanner canllath o'r lôn, ac mae'n rhan o gasgliad sylweddol o adeiladau Plas Bach.
Darllenwch mwy

Carreg Bach
Yn cysgu 2
Yn addas ar gyfer un neu ddau, mae'r bwthyn Cymreig traddodiadol yma yn llawn cymeriad. Mae ystafell fyw â stôf aml-danwydd a chegin fechan i lawr y grisiau a chroglofft agored o dan y to gyda phen pellaf y ddau wely sengl yn cyffwrdd tu mewn y llechi
Darllenwch mwy

Llofft Nant
Yn cysgu 2
Adnewyddwyd Llofft Nant, sydd yn llety cyfforddus a chartrefol, o hen stabal. Mae'n agos at dŵr yr Abaty a'r capel, a drws nesaf i siop ac arddangosfa'r ynys.
Darllenwch mwy

Nant
Yn cysgu 6
Hen ffermdy ydy Nant sydd drws nesaf i Hendy. Bu'r ffermdy hwn yn gartref i deulu tan ychydig wedi' r Ail Ryfel Byd.
Darllenwch mwy

Hendy
Yn cysgu 7
Mae Hendy drws nesaf i Nant a hwn yw'r mwyaf preifat o'r ddau dŷ, gyda gardd ddistaw.
Darllenwch mwy

Tŷ Nesaf
Yn cysgu 6
Hen ffermdy ydy Tŷ Nesaf sydd yn gymydog i Dŷ Bach, cartref rheolwr yr ynys.
Darllenwch mwy

Tŷ Capel
Yn cysgu 8
Tŷ sylweddol yn sefyll ar wahân. Defnyddid Tŷ Capel yn wreiddiol fel tŷ'r gweinidog.
Darllenwch mwy

Carreg Fawr
Yn cysgu 8
Tŷ sylweddol yn sefyll ar wahân gyda golygfeydd i'r gorllewin tuag at Iwerddon. Rhaid cerdded drwy cae i fynd at Carreg Fawr, a gall ar adegau fod defaid eu wartheg yn y cae.
Darllenwch mwy

Plas Bach
Yn cysgu 8
Tŷ sylweddol sydd yn cysgu 8 mewn 2 ystafell ddwbl, 2 sengl ac 1 ystafell gyda 2 wely.
Darllenwch mwy
Sut i archebu
-
- The Bardsey Island Trust offers a range of properties for holiday lettings from April to October.
- Our houses are available for weekly stays, from Saturday to Saturday. However, if you’re looking for a shorter escape, we can often accommodate 3- or 4-night breaks, subject to availability, with arrivals and departures on Wednesdays.
- To book your stay, make a provisional booking request below and our team will get back to you as soon as possible.
- *Members get access to 2026 dates before they are released to the public – become a member here
Ymunwch â'n cylchlythyr i ddarganfod pryd mae archebion 2026 yn agor
Cwestiynau am y llety
Mae’r wythnos rhentu o ddydd Sadwrn i ddydd Sadwrn, Ebrill i Hydref.
Mae nifer cyfyngedig o seibiannau byr ar gael, cysylltwch â ni am fanylion.
- Mae nifer cyfyngedig o seibiannau byr ar gael, cysylltwch â ni am fanylion.
- Mae angen blaendal o 50% i sicrhau eich archeb.
- Mae’r taliad balans llawn yn ddyledus 12 wythnos cyn dechrau’ch arhosiad.
- Gellir archebu drwy lenwi’r ffurflen archebu (peidiwch â gyrru negeseuon atom i archebu trwy neges destun, Whatsapp neu ar gyfryngau cymdeithasol gan nad yw’r negeseuon hyn yn cael eu monitro yn rheolaidd).
Sylwer: Mae Ynys Enlli yn fferm weithiol, gyda gwartheg a defaid yn pori yn y caeau ger tai a llwybrau troed. Ystyriwch hyn wrth archebu.
Mae’r cwch yn gadael Porth Meudwy, sydd ychydig i’r gorllewin o Aberdaron.
Mae’r pris cwch yn ychwanegol at bris y tŷ ac mae’n cael ei weithredu gan Mordaith Llŷn. Y gost ar gyfer 2025 yw £55 y person.
Os yw’r tywydd yn caniatáu, cynhelir croesfannau ar ddydd Sadwrn ar gyfer ymwelwyr wythnosol. Os bydd croesfannau’n cael eu gohirio oherwydd y tywydd, byddwch yn croesi ar y diwrnod braf cyntaf posibl.
Bydd trefniadau cychod yn cael eu cadarnhau y noson cyn eich arhosiad. Ffoniwch 07971 769895 ar ôl 6.30pm i glywed neges wedi’i recordio ymlaen llaw yn rhoi manylion am eich amser croesi.
Gall ceir gael eu parcio ar risg yr eiddo yn Fferm Cwrt am ffi o £20 yr wythnos. Mae’r ffioedd hyn yn daladwy i’r ffermwr, G Roberts, trwy arian parod neu siec. Nid oes angen i chi wneud archeb o flaen llaw.
Cewch eich cyfarfod yn Fferm Cwrt a bydd eich bagiau yn cael eu cludo i’r cwch ar drailer; mae cerdded i’r cove ym Mhorth Meudwy o’r fferm yn cymryd deg i pumtheg muned. Efallai y bydd rhaid i chi aros am ychydig o amser cyn y gallwch groesi.
Cod post ar gyfer Fferm Cwrt yw LL53 8DA.
Sylwch: Os cyrhaeddwch Cwrt – Ymddiriedolaeth Genedlaethol, sydd â iard o beudau greigiau, rydych wedi mynd heibio Fferm Cwrt. Bydd angen i chi fynd yn ôl neu droi o gwmpas, a fynd yn ol i’r giât nesaf i fyny. Mae rhai Satnavs yn mynd heibio i’r fferm, felly cadwch lygad am Cwrt ar y dde, mae’r enw wedi’i embedio yn y post giât ar farc llechi.
Nid oes WiFi i gwesteion ar yr ynys, fodd bynnag, efallai y byddwch chi’n codi signal 4G neu 5G ar rai rhannau o’r ynys.
Dewch â’ch bwyd a’ch diod eich hun gyda chi gan nad oes siop groser ar yr ynys. Mae’r caffi ar fferm Tŷ Pellaf, sy’n cael ei redeg gan y teulu Roberts, yn gweini amryw o ddiodydd, hufen iâ, byrbrydau a chacennau cartref bob dydd. Mae Tŷ Pellaf wedi’i drwyddedu i werthu alcohol, gan leihau’r angen i ddod â’ch cyflenwadau gyda chi. Mae brecwast llawn, ar adeg sy’n addas i chi, ar gael yn ogystal â phrydau gyda’r nos neu tecawê ar nosweithiau penodol (ar gais).
Am ragor o wybodaeth, neu i archebu ymlaen llaw, cysylltwch â Chaffi Tŷ Pellaf dros y ffôn 07811743154 neu e-bost wgroberts@hotmail.co.uk.
Yn ogystal â rhedeg y caffi, mae’r fferm yn gwerthu wyau ynys ffres buarth, crancod a cimychiaid wedi’u berwi neu’n ffres yn syth oddi ar y cwch. Cysylltwch ymlaen llaw i wirio argaeledd a gosod archeb.
Dylech gludo cyn lleied â phosib o fagiau os gwelwch yn dda gan nad oes cymaint â hynny o le yn y cwch. Gofynnir i chi bacio pob dim mewn parseli bach sy’n hawdd eu trin a sicrhau eu bod wedi eu selio ac yn dal dŵr (cynwysyddion neu lapio mewn plastig) ac wedi eu pacio’n dda.
Dylech nodi enw’r tŷ lle byddwch yn aros yn glir ar bob darn o eiddo. Fe all bagiau heb eu henwi gael eu dal yn ôl neu fynd ar goll.
Gwnewch yn siŵr i ddod â’r canlynol ar gyfer eich wythnos:
- Esgidiau a dillad ar gyfer pob tywydd
- Gorchudd cwilt ar gyfer bob gwely (mae cwilt ar bob gwely yma yn barod i chi), cynfas a chasys gobennydd
- Pyjamas cynnes, gan nad oes gwres yn yr ystafelloedd gwely
- Llieiniau ac offer ymolchi
- Llieiniau sychu llestri
- Fflachlamp dda a batris sbâr – ni chaniateir defnyddio canhwyllau na “tea lights”
- Meddyginiaeth – os ydych yn defnyddio unrhyw feddyginiaeth, dylech sicrhau eich bod yn dod â chyflenwad ychwanegol i barhau am o leiaf wythnos arall.
- O ran bwyd a diod, dewch â mwy nag sydd ei angen arnoch ar gyfer eich gwyliau, er nid oes angen i chi ddod a dŵr (heblaw ein bod yn cysylltu efo i chi, ar adegau tywydd sych iawn) oherwydd yn achlysurol fe all y tywydd rwystro’r cwch rhag croesi ar y diwrnod a drefnwyd. Nid oes siop fwyd ar yr ynys, dim ond beth sydd ar werth yn y fferm – gweler isod.
Sylwer: Ni chaniateir anifeiliaid anwes ymwelwyr ar yr ynys. Mae hyn yn cynnwys cŵn cymorth. Dim ond cŵn gweithio neu gŵn preswylwyr sy’n cael eu caniatáu ar yr ynys trwy ganiatâd gan Ymddiriedolaeth Ynys Enlli a Chyfoeth Naturiol Cymru. Fel SoDdGA (Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig) a Gwarchodfa Natur Genedlaethol, gydag adar sy’n nythu ar y ddaear, mae’n bwysig iawn ein bod yn gwarchod yr amgylchedd arbennig hwn.
Rydym yn cymryd pob gofal i wneud yr ynys mor hygyrch â phosibl, ond mae rhai llwybrau serth a garw ar ochr y tir mawr ac unwaith ar yr ynys. Mae’r llwybr o Gwrt i Borth Meduwy ychydig yn serth felly gadewch ddigon o amser ar gyfer hyn cyn eich croesi. Cysylltwch â’r tîm ym Mordaith Llyn Cyf / Ltd i’w cynghori am unrhyw anghenion hygyrchedd ychwanegol, mae ganddynt lawer o brofiad o gefnogi ymwelwyr â’r ynys.
Unwaith ar yr ynys, mae llwybrau serth, cul ac anwastad o amgylch yr ynys sy’n gallu ei gwneud hi’n heriol i ddefnyddwyr cadair olwyn ymweld â nhw. Ni allwn gynnig cludiant mewn cerbyd ynys i ymwelwyr dydd. Efallai y bydd cludiant ar gael i westeion ar ôl cyrraedd yr ynys, ond gofynnwch ymlaen llaw i wneud yn siŵr bod y tîm yn gallu cefnogi.
Yn anffodus nid ydym yn gallu caniatáu cŵn cymorth ar yr ynys.
O ystyried natur yr adeiladau, mae rhai o’n llety yn fwy addas ar gyfer ymwelwyr sydd angen cymorth ychwanegol gyda hygyrchedd. Cysylltwch â ni i drafod eich taith a byddwn yn helpu i ddod o hyd i’r llety cywir.
Bydd ein tîm a thrigolion yr ynys yn gwneud popeth o fewn ein gallu i wneud eich ymweliad mor gynhwysol a hygyrch â phosibl, gan gynnwys dosbarthu prydau tecawê o’r caffi. Os oes angen addasiad arnoch chi neu berson yn eich grŵp i wneud eich amser gyda ni yn fwy pleserus, cysylltwch â ni i drafod sut y gall y tîm gynorthwyo.