Ynys fach llawn diwylliant, hanes, bywyd gwyllt a harddwch naturiol
Saif Ynys Enlli, “yr ynys yn y llif” 3km o ben eithaf Penrhyn Llŷn, gogledd Cymru. Dyma ynys sydd wedi ei hamgylchynu gan geryntau a llanw cryf. Saif Mynydd Enlli 167m uwchlaw’r môr, caiff’i orchuddio â chlustog Fair pinc, grug porffor, a mewn mannau, cen euraidd prin. Mae’r Mynydd yn amddiffyn yr ynys o’r dwyrain, ac yn cuddio’r tir mawr o’r rhan fwyaf o’r ynys, sy’n gwneud iddi deimlo’n gwbl ynysig.
Mae tir yr ynys wedi cael ei ffermio ers cenedlaethau; heddiw mae Enlli dal yn gartref i fferm lewyrchus, a physgodfan cimychiaid a chrancod, Gwylfa Adar a bywyd gwyllt godidog gan gynnwys dros 200 o forloi llwyd, a phoblogaeth gynyddol o adar drycin Manaw a bran coesgoch.
Lle o bererindod ers yr 6ed ganrif, gall pobl heddiw fwynhau Enlli drwy aros yn un o 9 adeilad rhestriedig Gradd II neu lofethau sy’n gallu lletya unigolion, teuluoedd a grwpiau mawr
Bywyd ar Ynys Enlli

Croesawi drigolion diweddaraf Enlli
Croesawi drigolion diweddaraf Enlli: Georgina and Gwyndaf a diolch i ffermwyr Gareth and Meriel

Awen Enlli - Galeri, Caernarfon
Dydd Sul, 8fed Tachwedd, 14.00. Prynhawn o sgyrsiau a pherfformiadau yn dathlu sut mae Enlli yn ysbrydoli creadigrwydd.

Wythnos Teulu 2027
Lawnsio am archebion Medi 19 2026

Gwirfoddoli yn Enlli
Adlewyrchu: Gofalwraig yn Amgueddfa Werin Sain Ffagan yn gwirfoddoli yn Enlli gan Gwenllian Gwynn

Cwrs Preswyl Cerddoriaeth Draddodiadol Gymreig 2027
Rydymyn lansio cwrs preswyl ar Gerddoriaeth Draddodiadol Gymreig yn Enlli am y tro cyntaf erioed wythnos 15-22 Mai, 2027, mewn partneriaeth â Trac a Tŷ Cerdd.
AR GAEL: Byncws Tŷ Nesaf
Ffordd newydd i aros yn Enlli
Aros am dau i pedwar noson o £20 y person
Yn falch o fod y Noddfa Awyr Dywyll cyntaf yn Ewrop
Darllen mwy
Cynlluniwch eich ymweliad
Mae’r cwch i Enlli yn croesi o Borth Meudwy, cildraeth bysgota lleol bach ond gweithgar ger Aberdaron. Mae parcio ar gael ym maes parcio’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol ar ben y trac i lawr i Borth Meudwy. Dilynwch LL53 8DA am gyfarwyddiadau i’r maes parcio. Sylwer nad oes cyfleusterau toiledau yn y maes parcio hwn nac ym Mhorth Meudwy. Rydym yn argymell galw i mewn i Aberdaron ar eich ffordd drwyddo lle mae cyfleusterau toiledau a rhai caffis a becws ardderchog.
Os ydych chi’n teithio ar fws, mae’n bosibl cerdded i Borth Meudwy o Aberdaron ar hyd llwybr yr arfordir, sy’n cymryd tua 30 munud.
Mae gennym amrywiaeth o dai rhestredig Gradd 2, llofftiau a bwthyn llofft crog sydd ar gael i’w archebu ar gyfer arosiadau wythnosol rhwng Ebrill a Medi bob blwyddyn.
Ar Enlli, mae toilet cyhoeddus compost, dim ond 10-15 munud i ffwrdd o lle mae’r cwch yn glanio.
Am damaid i fwyta, mae’r caffi yn Nhŷ Pellaf yn cynnig amrywiaeth o ddiodydd poeth ac oer, cacennau, brechdanau, a phrydau cartref blasus (nodwch, mae angen trefnu prydau ymlaen llaw).
Gyda signal ffôn cyfyngedig ledled yr ynys a dim Wi-Fi yn y tai gwyliau, mae Enlli yn cynnig y cyfle perffaith ar gyfer ‘detox’ digidol a dihangfa rhag bywyd prysur.




