Ynys gynhyrchiol
Mae Enlli wedi’i llunio gan genedlaethau o ffermio a thyfu cnydau.
Mae’r ynys wedi cael ei ffermio neu’r tir wedi ei drin ers cannoedd o flynyddoedd. Mae hen ffiniau caeau i’w gweld yn glir o’r mynydd heddiw, gyda system gymhleth o gaeau. Mae’r ynys wedi ei ffermio a chnydau amaethyddol wedi eu tyfu yma mewn rhyw ffordd ers miloedd o flynyddoedd. Mae hen ffiniau caeau i’w gweld yn glir o’r mynydd heddiw, gyda system gymhleth o gaeau. Mae enwau’r caeau yn adlewyrchu sut y byddai’r tir wedi cael ei ddefnyddio, gyda Chae Gwenyn yn awgrymu lleoliad hanesyddol ar gyfer cychod gwenyn, ac mae’n debyg bod gan Gae’r Groes tua’r gogledd groes bren fawr yn yr oesoedd canol i bererinion anelu tuag ato wrth groesi’r Swnt.
Heddiw mae’r ynys yn cynnal fferm, lleiniau tyfu llysiau ffyniannus a thwneli poly, perllan o afalau Enlli a Chymreig, helyg hynafol a phlanhigfa fechan o goed sbriws. Mae gwneud yn fawr o’r adnoddau naturiol mewn ffordd gynaliadwy wedi galluogi cenedlaethau o bobl i alw Enlli yn gartref.
Gwartheg yn y tir gwlyb
Ffermio ar Enlli
Ar ôl blynyddoedd lawer o absenoldeb, ailgyflwynwyd gwartheg i’r ynys yn 2008 i helpu i bori’r rhostir a chynefinoedd y gwlyptir
Mae’r drefn bori hon yn rhan o system ffermio gyfannol o ddefaid a gwartheg sy’n gweithio o fewn ecosystem fregus yr ynys ac yn ychwanegu at ei bioamrywiaeth. Er enghraifft, mae chwilod arbenigol wedi’u darganfod mewn tail gwartheg, sy’n darparu ffynhonnell fwyd mawr ei hangen. I’r frân goesgoch ifanc fagu nerth ar gyfer y daith i’w tiroedd gaeafu ar y tir mawr.
Mae’r ffermwr, Gareth Roberts, yn gweithio’n agos gydag Ymddiriedolaeth Ynys Enlli, Cyfoeth Naturiol Cymru, ac Gwylfa Adar a Maes Enlli i reoli’r fferm er lles y bywyd gwyllt sy’n gwneud yr ynys mor arbennig. Mae Gwylfa Adar a Maes Enlli yn allweddol wrth fonitro effaith y drefn ffermio ar adar preswyl yr ynys.
Cimwch
Pysgota
Pysgota cimwch a chranc
Mae’r ynys wedi’i hamgylchynu gan geryntau cryf ac mae’n cael ei heffeithio ganhwyliau a mympwy’r llanw; ond mae’r môr wedi cynnal a darparu incwm iach i genedlaethau o deuluoedd ar Enlli.
Heddiw, â’r ynys yn sefyll o fewn Ardal Gadwraeth Arbennig, mae dyfroedd Enlli yn dal i gael eu pysgota yn gynaliadwy am grancod a chimychiaid gan ddau deulu o’r ynys.
Mae’r dyfroedd o amgylch Enlli hefyd yn bwysig am amrywiaeth o resymau treftadaeth a chadwraeth, gan fod y dolffiniaid a’r morloi llwyd yn defnyddio’r ardal fel meithrinfa a thir magu.
Afal Enlli
Mae gan Enlli ei afal prin ei hun y gellir ei brynu i’w ychwanegu at eich perllan.
Rai blynyddoedd yn ôl roedd gwyliwr adar yn Cristin yn defnyddio afalau i ddenu adar. Yn dilyn sgwrs rhwng y gwyliwr adar ac ymwelydd arall, Mr Ian Sturrock, gwnaed y darganfyddiad cyffrous bod hwn mewn gwirionedd yn amrywiaeth prin o afalau.
Roedd Mr Sturrock, arbenigwr ar goed ffrwythau, yn deall bod yr afalau wedi dod o’r goeden ar ochr ddeheuol Plas Bach. Er bod trigolion yr ynys wedi cadarnhau bod cenedlaethau o ynyswyr wedi mwynhau’r afalau hyn, nid oedd neb yn gwybod pa fath o afalau oedden nhw. Roedd yn ddigon posibl mai’r ffrwythau pinc adfywiol, gydag arogl a blas lemwn, oedd yr unig oroeswyr o berllan a gafodd ei meithrin ar y safle gan fynachod dros 1,000 o flynyddoedd yn ôl.
Cafodd yr afal ei gludo i Ymddiriedolaeth Arddwriaethol Brogdale gan Mr Sturrock lle cafodd ei archwilio gan Dr Joan Morgan, arbenigwr ar afalau Prydain. Datganodd mai hwn oedd afal mwyaf prin y byd. Disgrifiodd ef fel afal wedi’i streipio â phinc dros hufen, wedi’i gribio â choron uchel.
Archebwch eich Coeden Afal Enlli
Tyfwch eich Coeden Afalau Enlli eich hun!
Rydym yn gweithio gyda Ian Sturrock & Sons Tree Nurseries sy’n gwerthu’r Afal Enlli swyddogol.
Lle nesaf?