Dewch i ymweld ar ynys am y dydd
You can visit the island for a day trip with Bardsey Island Boat Trips, run by Colin Evans. You’ll have 4 hours on the island, giving you plenty of time to explore its stunning coastline, visit the Abbey ruins, enjoy the view from the small ‘Mountain’ and have a ‘paned’ at the cafe in Tŷ Pellaf farm.
Fferm weithiol yw Enlli, felly efallai y gwelwch rai gwartheg a defaid yn pori ger y tai a’r llwybrau troed wrth i chi grwydro.
Nodyn Pwysig: Ni chaniateir cŵn ar yr ynys, felly cynlluniwch yn unol â hynny.

Tripiau Dydd
Archebwch eich taith ddydd heddiw
Cysylltwch efo Colin Evans, Mordaith Llyn ar 07971769895
Cwestiynau tripiau dydd
Mae parcio ar gael ym maes parcio’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol ym Mhorth Meudwy. Mae’n cymryd tua 10-15 munud i gerdded lawr yr allt i draeth Porth Meudwy lle mae’r cwch yn gadael o, felly gadewch ddigon o amser ar gyfer y daith gerdded hon.
Mae toiled cyhoeddus (toiled compost) yn Iard Plas, sydd 10-15 munud o Cafn lle mae’r cwch yn glanio ar Enlli. Sylwch nad oes toiled ym Mhorth Meudwy, rydym yn argymell defnyddio cyfleusterau yn Aberdaron cyn teithio ymlaen i Borth Meudwy.
Mae cyfleusterau eraill ar Enlli yn cynnwys caffi yn Nhŷ Pellaf (5-10 munud o’r glanio) sy’n gweini diodydd poeth ac oer, cacennau, cinio ysgafn a phrydau poeth (mae’n rhaid eu harchebu o leiaf ddiwrnod ymlaen llaw). Cysylltwch â Meriel Roberts i wneud unrhyw ymholiadau am y caffi drwy ymweld â thudalen Facebook y caffi yma.
Mae’r daith cwch yn cymryd tua 20 munud yno ac 20 munud yn ôl. Fydd gennych chi cyfle i weld dolffiniaid, Manx Shearwaters a Puffins ar hyd y ffordd. Unwaith ar Enlli bydd gennych 4 awr nes i’r cwch adael, bydd Colin yn rhoi eich amser ymadael i chi. Mae hwn yn ddigon o amser i archwilio’r ynys. Os ydych chi’n gallu cerdded i fyny’r Mynydd ar gyfer golygfeydd ar draws Bae Ceredigion, weithiau mae’n bosibl gweld yr holl ffordd i Sir Benfro yn y De neu Arfordir Gorllewinol Iwerddon i’r Gorllewin. Gallwch hefyd ymweld â’r Capel, y Tŷ Ysgol ac Adfeilion yr Abaty yn ystod eich ymweliad, lleoedd poblogaidd i’r rhai ar bererindod neu sydd wedi dod i ddiwedd llwybr pererinion Ffordd Cadfan.
Efallai y byddwch chi’n gweld ystod eang o fywyd gwyllt ar daith undydd i Enlli. Cadwch eich llygaid ar agor wrth i chi croesi ar y cwch am adar môr ar glogwyni dwyrain yr ynys neu yn bwydo ar y môr. Mae’r adar, pâl, gwylog, mulfran werdd, gweilch y penwaig a gwylanod y graig i gyd yn nythu yma. Pan gyrhaeddwch Enlli byddwch yn cael eich cyfarch gan y morloi llwyd yr Iwerydd swnllyd yn Henllwyn. O amgylch Enlli fe welwch tinwennod, corhedyddion y waun, bran goes goch, a digon o adar eraill. Rydym yn argymell galw i mewn i’r Arsyllfa Adar yn Cristin i ddarganfod pa adar sydd wedi’u gweld yn ddiweddar.
Lle nesaf?