Cefnogwch ein gwaith i warchod, cynnal a gwella treftadaeth yr ynys er mwyn i genedlaethau’r dyfodol gael ei mwynhau.
Ers ffurfio Ymddiriedolaeth Ynys Enlli yn 1979 mae rhoddion pobl wedi golygu ein bod wedi gallu gofalu am yr adeiladau a natur ar Enlli. Mae rhoddion wedi ein galluogi i gynnig cyfleoedd i bobl ifanc ymweld â’r ynys, cefnogi ein gwaith yn cynnal Caplaniaid wythnosol i gadw’r treftadaeth ysbrydol yn fyw ac wedi gwarchod murluniau Brenda Chamberlain yng Ngharreg. Mae eich rhoddion yn helpu i amddiffyn awyr dywyll anhygoel yr ynys, gan gadw ein dynodiad fel y Noddfa Awyr Dywyll gyntaf yn Ewrop.
Fel Gwarchodfa Natur Genedlaethol, a Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig gall eich rhoddion ein helpu i:
- Gwarchod a chynnal yr adeiladau rhestredig Gradd II a safleoedd archeolegol o bwys
- Darparu cyfleoedd preswyl creadigol i artistiaid newydd
- Cymryd rhan mewn ffermio er budd cynefinoedd amrywiol yr ynys
- Anog bobl i ymweld â’r ynys fel lle o harddwch naturiol a phererindod

Rhowch heddiw
Gyfrannwch heddiw i gefnogi treftadaeth Enlli.
O roddion bach rheolaidd i roddion mawr, mae pob rhodd yn bwysig i ni.

Brenda Chamberlain Murals Project - Carreg Fawr
Diolch i roddion a chodi arian gan Gyfeillion Murluniau Brenda Chamberlain rydym wedi gallu achub y Murluniau trawiadol a diwylliannol arwyddocaol yn rhyngwladol yn Carreg rhag cael eu colli am byth.
Mae Brenda Chamberlain yn un o artistiaid enwocaf Cymru. Yn fardd, awdur ac arlunydd, bu Brenda Chamberlain yn byw ar Ynys Enlli am 15 mlynedd yn y 1950au. Treuliwyd llawer o’r blynyddoedd hyn yng Ngharreg Fawr, lle mae sawl wal bellach yn cynnwys murluniau mawr wedi’u paentio gan Chamberlain.
Diolch i lawer o roddion, a nawr diolch i gefnogaeth Cronfa Dreftadaeth y Loteri, rydym wedi gallu cael rhai cadwraethwyr ardderchog, Jane Foley ac Inez, sydd wedi ymgymryd â gwaith trylwyr i adfer a diogelu’r murluniau hyn.

gweithdy celfyddydol
Supporting local disadvantaged young people
Grymuso pobl ifanc sy’n wynebu digartrefedd, bregusrwydd ac anfantais trwy arosiadau preswyl ar Enlli.
Gan weithio mewn partneriaeth â GIDSA, elusen leol sy’n cefnogi pobl ifanc yng Ngwynedd, rydym wedi cynnal sawl taith i Enlli ar gyfer grwpiau. Roedd pob taith yn cynnwys gweithgareddau gyda’r tîm Wardening, cyfle i gymryd rhan mewn gweithdy creadigol gydag artist preswyl, a sesiwn fyfyrdod. Mwynhaodd y grŵp daith gerdded natur dywys gyda thîm yr Arsyllfa Adar a helpu gyda rhai tasgau gwirfoddoli.
Mae’r teithiau hyn yn rhoi cyfle i’r bobl ifanc hyn i ddadwenwyno digidol a chyfle i anadlu a phrofi bywyd gwyllt Enlli. Maent yn cynnig seibiant mawr rhag heriau bywyd bob dydd y mae’r bobl ifanc hyn yn eu hwynebu.
Cwestiynau rhoi
Oes gennych unrhyw gwestiynau am gyfrannu i Ymddiriedolaeth Ynys Enlli? Os nad yw'ch cwestiwn yn cael ei ateb yma, cysylltwch â ni drwy post@enlli.org.
Oes, os ydych chi’n drethdalwr yn y DU, gallwn hawlio Cymorth Rhodd ar eich rhoddion. Gwnewch yn siŵr eich bod wedi ticio’r blwch Cymorth Rhodd wrth wneud y rhodd hon fel ein bod yn gallu ei hawlio.
Ydyn. Os hoffech adael rhodd i Ymddiriedolaeth Ynys Enlli yn eich ewyllys, cysylltwch â ni a gallwn drafod hyn gyda chi. E-bostiwch post@enlli.org.
Gallwch! Diolch am ystyried codi arian ar gyfer gwaith Ymddiriedolaeth Ynys Enlli. Gallwch ddefnyddio ein platfform rhoi ar-lein Local Giving, a sefydlu eich hun fel codwr arian. Os hoffech godi arian ar gyfer prosiect penodol, cysylltwch â ni ar post@enlli.org a gallwn drefnu galwad i sgwrsio gyda chi am hyn.