Hanes diwylliannol hir
Mae artistiaid wedi cael eu denu i Enlli ers blynyddoedd lawer ac mae’r Ymddiriedolaeth wedi croesawu nifer o artistiaid preswyl i’r ynys, mae’r rhain yn amrywio o awduron i arlunwyr i gyfrwng cymysg.
Celf, Iaith a Chan; mae gofod ar Enlli argyfer creu, datblygu, arbrofi, cynnal gweithdai a chydweithio gydag artistiaid ag unigolion creadigol.
Mae’r Ymddiriedolaeth wedi bod yn croesawu artistiaid preswyl i’r ynys ers 1999; fel elusen rydym yn angerddol dros ddarparu’r cyflau yma i unigolion a grwpiau a’r gofod ar yr ynys i gynnal gweithdai ar gyfer ein hymwelwyr.
Llofft Nant: Gofod i breswyliadau ac encilion creadigol
Mae gan iard Llofft Nant ddwy stiwdio sy’n cael eu datblygu i gefnogi presenoldeb celfyddydol ac i alluogi sylfaen presenoldeb hirdymor o amrywiaeth o artistiaid a phobl greadigol o ledled y wlad.
Os oes gennych ddiddordeb mewn aros ar yr ynys fel artist, cysylltwch â ni i dderbyn gwybodaeth am breswyliadau neu encilion sydd ar gael.
Cais am Artistaid: Cyfnod Preswyl sydd yn ymateb i Ynys Enlli
Dyddiadau: 13eg – 20fed Medi 2025
Lleoliad: Ynys Enlli, Gogledd Cymru
Yn ystod Medi 2025, rydym yn gwahodd bump artist i ymuno â ni am wythnos o ymgysylltiad creadigol gyda Ynys Enlli. Mae’r breswylfa yn cefnogi artistiaid sy’n canolbwyntio ar dirwedd, gyda phwysigrwydd yn cael ei roi ar themâu o amgylchedd, cymuned, etifeddiaeth, a chydweithrediad a sut mae y rhain yn cael eu adlewyrchu yn eu gwaith.
Arddangosfeydd nesaf
Rydym yn cynnal arddangosfeydd ar Enlli yn rheolaidd, sy’n cynnwys gwaith gan artistiaid gwadd â’n Hartistiaid Preswyl. Yn ogystal, rydym yn cyd-weithio gydag orielau ac amgueddfeydd lleol i arddangos ystod amrywiol o waith celf, gan gysylltu ysbryd creadigol Enlli â’r gymuned ehangach ymhellach.

05.06.25
Arddangosfa Storiel - Artistiaid Preswyl o 2024
Arddangos gwaith a gynhyrchwyd trwy breswyliad 2024 a gweithdai cysylltiedig. Mae’r artistiaid yn cynnwys: Cai Tomos, Gabriella Rhodes, Harrie Fuller, Claire Scott, Lilly Tiger, Sophie Goard, Siôn Emyr.

19.06.25
Gweledigaethau Enlli
Gwaith gan dair cenhedlaeth o artistiaid wedi’u hysbrydoli gan dirwedd a bywyd Ynys Enlli. Brenda Chamberlain, Amelia Shaw-Hastings, Jon Hastings. Carreg Fawr, Ynys Enlli.
Carreg Fawr, Ynys Enlli
Enlli fel ysbrydoliaeth i artistiaid
Mae’r ynys wedi rhoi’r awen i sawl artist a bardd dros y blynyddoedd. Cliciwch ar y darluniau isod i ddysgu mwy am y bobl tu ôl i’r gwaith.

Jo Porter
Roedd Jo yn byw a gweithio ar Enlli o 2007-2018 ac mae hi'n mwynhau defnyddio deunyddiau crai megis gwlân a helyg yr ynys i wneud darnau defnyddiol a hardd.
Darllenwch mwy

Kim Atkinson
Bu’r arlunydd bywyd gwyllt, Kim Atkinson, yn byw ar yr ynys am saith mlynedd cyntaf ei hoes ac yna unwaith yn rhagor yn yr 1980au a’r 1990au.
Darllenwch mwy

Brenda Chamberlain
Bu’r arlunydd, yr awdur a'r bardd Brenda Chamberlain yn byw yng Ngharreg Fawr rhwng 1947 ac 1962.
Darllenwch mwy

Emyr Glyn Owen
Mae Emyr wedi bod yn byw ac yn gweithio ar Enlli am y 5 mlynedd diwethaf fel Warden a Rheolwr yr Ynys.
Darllenwch mwy
Jo Porter
Helyg a gwlân
Roedd Jo yn byw a gweithio ar Enlli o 2007-2018 ac mae hi’n mwynhau defnyddio deunyddiau crai megis gwlân a helyg yr ynys i wneud darnau defnyddiol a hardd. Mae Jo yn gwneud rygiau gwlân, basgedi helyg a nifer o eitemau ffelt; mae’r rhain ar gael i’w prynu yn ei siop ar yr ynys neu drwy ei gwefan.


Kim Atkinson
Artist
Bu’r arlunydd bywyd gwyllt, Kim Atkinson, yn byw ar yr ynys am saith mlynedd cyntaf ei hoes ac yna unwaith yn rhagor yn yr 1980au a’r 1990au. Mae ei gwaith wedi ei arddangos ar hyd a lled Cymru a Lloegr ac oherwydd ei henw da fel artist cafodd ei gwahodd i weithio mewn llawer rhan o’r byd gan gynnwys Awstralia a Gwlad Pwyl. Mae delweddau nodweddiadol Kim i’w gweld ar lawer o’r nwyddau a werthir yn y siop.

Brenda Chamberlain
Bardd, awdur ac arlunydd
Bu’r arlunydd, yr awdur a’r bardd Brenda Chamberlain yn byw yng Ngharreg Fawr rhwng 1947 ac 1962. Roedd yn gyfnod hynod o gynhyrchiol yn ei bywyd. Yn ystod y cyfnod hwn enillodd Fedal Aur Celf yr Eisteddfod Genedlaethol ddwywaith. Mae modd gweld rhai o’r murluniau a beintiodd ar waliau Carreg hyd y dydd heddiw, ac ysbrydolwyd amryw o’i pheintiadau a’i lluniau gan yr ynys, yn ogystal â’i nofel Tide Race: 1962, yn ei bumed argraffiad – Seren, Mawrth 2019.

Emyr Glyn Owen
Peintiwr
Mae Emyr wedi bod yn byw ac yn gweithio ar Enlli am y 5 mlynedd diwethaf fel Warden a Rheolwr yr Ynys. Mae Emyr yn cymryd ysbrydoliaeth gan Enlli ac yn dal natur wyllt yr ynys yn ei baentiadau dramatig.

Lle nesaf?