“You who are in the traffic of the world, can you guess the thoughts of an islander?”
Mae’r llinell hon o lyfr Tide-race gan Brenda Chamberlain wedi aros yn fy isymwybod ers i fi ei darllen rhyw bum mlynedd yn ôl. Pan ofynnodd staff Enlli i fi sgwennu’r blog yma am fy nghyfnod yn gwirfoddoli, a’r profiad o safbwynt fy ngwaith fel aelod o staff Amgueddfa Sain Ffagan yng Nghaerdydd, fe ddaeth y llinell i’r cof fel y ffordd berffaith o gyfleu’r ddwy agwedd. Mae’n ein gwahodd ni i feddwl am sut mae llefydd yn trawsnewid treigl ein bywydau, a sut mae gofynion gwahanol leoliadau yn llywio pwy ydyn ni. Yn yr Amgueddfa, mae ein casgliadau yn cynnig cyfle i ymwelwyr a staff gamu allan o draffig y byd ac i mewn i oes arall, i fywydau a straeon eraill. Ac o dreulio amser yn Enlli caiff ymwelwyr, a gwirfoddolwyr fel fi, brofi sut beth yw bywyd ar ynys sydd mor adnabyddus yn chwedlonol ac yn ddiwylliannol.
Mae’n anodd cyfleu fy rôl fel Gofalwraig yn Amgueddfa Werin Sain Ffagan mewn un frawddeg. Rydyn ni’n gyfrifol am warchod casgliadau hynod o werthfawr y mae miloedd o bobl yn ymweld â nhw yn wythnosol. Ni yw’r wynebau cyntaf i groesawu’r tyrfaoedd ac i ddehongli’r adeiladau ar eu cyfer, nid yn unig fel y gwelwn ni nhw heddiw ond hefyd yn eu cyd-destun gwreiddiol, hanesyddol. Mae’r swydd yn gofyn am sgiliau ymarferol, o dorri coed a chynnau tanau i gadw’r safle’n gymen a chynorthwyo gyda chynnal digwyddiadau. Dros yr wythnos, yn gweithio wrth ochr Lois, Aron ac Elin, fe sylweddolais i gymaint o debygrwydd sydd rhwng ein swyddi, fel petai efaill i Sain Ffagan wedi ymddangos ym môr yr Iwerydd! Mae’r wardeiniaid yn symud yn rhwydd rhwng dyletswyddau, ac yn gofalu am yr ymwelwyr a’r ynys o fore gwyn tan nos.
Fel yn Sain Ffagan, mae Ymddiriedolaeth Enlli yn galluogi’r cyhoedd i ganfod casgliad o drysorau cenedlaethol. ‘Does dim yn tanio’r diddordeb fel dod wyneb yn wyneb ag olion y gorffennol, ac yn goron ar hynny cael treulio cyfnod sylweddol yn eu plith. Mae Lois, Aron, Elin a’r Ymddiriedolaeth yn gweithio’n ddi-baid i greu profiad i’r ymwelwyr sydd yn dathlu ein nodweddion cenedlaethol, o encilion llenyddol a phreswyliadau celf i nosweithiau cerdd a gwasanaethau capel. Roedd hi mor werthfawr cael y cyfle fel artist i weld murluniau Brenda Chamberlain a chael dyddiau rhydd i grwydro’r ynys yn braslunio a thynnu ffotograffiau. Mae’r dyddiau yna wedi sbarduno casgliad newydd o waith nôl yng Nghaerdydd, a bwrlwm o greadigrwydd! Roedd Adrian, caplan hoffus yr ynys, yn ddolen gyswllt at yr hen draddodiad o addoli ar Enlli. Profiad arbennig oedd mynychu un o’i wasanaethau yn adeilad yr ysgol wrth i’r haul fachlud a chymryd cyfle i fyfyrio a rhannu gweddi gyda rhai o’r ymwelwyr eraill. Ac un o brofiadau mwyaf hynod fy mywyd oedd ymlwybro lawr tuag at Fae y Rhigol gyda fy nghyd-wirfoddolwyr yn nüwch y nos a gweld adar drycin Manaw yn nythu.
Ers mis Ionawr rydw i wedi bod yn hyfforddi gyda thîm garddwriaeth yr Amgueddfa. Mae ein gwaith garddwriaethol yn unigryw yng Nghymru gan ein bod ni’n ardd gyhoeddus sydd yn defnyddio ein casgliad byw o blanhigion cynhenid fel ffynhonell ychwanegol i ddehongli ein hadeiladau. Rydyn ni’n dîm hynod o fach gan ystyried bod dros 100 erw o dir i’w cynnal ar y safle, profiad cyfarwydd i wardeiniaid Enlli dwi’n amau! Wrth i ni ddod i arfer ag effeithiau cynhesu byd eang ar ein gerddi, rydyn ni wedi gorfod addasu ein ffordd o weithio, yn
enwedig er mwyn hybu bioamrywiaeth ac i warchod planhigion treftadaeth. Roedd yn rhyfeddol dysgu bod gan Enlli fath hollol unigryw o afal, a gafodd ei ddarganfod yn tyfu ar wal Plas Bach yn 1998, ond sydd yn 1,000 o flynyddoedd oed yn ôl pob sôn. Fe’i hachubwyd drwy gymryd toriadau, ac fe brynwyd dau ohonynt gan Amgueddfa Sain Ffagan ble mae’n nhw’n dal i dyfu heddiw.
Roedd ein taith yn ôl at y tir mawr yn llyfn a llawen. Y cwch yn llawn wynebau oedd nawr yn gyfarwydd ar ôl wythnos yng nghwmni’n gilydd. Gwirfoddolwyr, ymwelwyr, criw o adeiladwyr, cadeirydd yr ymddiriedolaeth, rheolwr yr ynys ac wrth gwrs, y cychwr Colin, wrth y llyw. Yn union fel Sain Ffagan, mae’n cymryd rhwydwaith o bobl o bob cwr a chefndir i wneud darlun Enlli yn gyflawn. Fe gefais sawl sgwrs ddifyr dros yr wythnos am ein
hatyniad at yr ynys, a’r ffordd y mae’n denu pobl yn ôl dro ar ôl tro. Mae’r teimlad cynnes yna o undod drwy rannu profiadau yn un sydd yn aros gyda phawb ymhell ar ôl gadael Enlli, ac mae’r cariad tuag ati yn cadw’r lle yn fyw. Dwi yn barod yn cynllunio fy nhaith nesa draw!


