Archebu eich gwyliau
Unwaith y byddwch chi’n cymryd eich gwyliau cyntaf ar Enlli, byddwch chi eisiau dychwelyd dro ar ôl tro!
Archebwch eich gwyliau unigryw yn Enlli heddiw.
Mae’r tai yn cael ei osod gan Ymddiriedolaeth Ynys Enlli ar gyfer gwyliau o Ebrill i Hydref pob flwyddyn.
Mae ein tai ar gael am wyliau wythnos, o dydd Sadwrn i dydd Sadwrn. Os ydych yn chwilio am wyliau byr, rydym yn gallu cynnig gwyliau 3 neu 4 noson yn dibynnu ar argaeledd. Gyda gwyliau byr, rydych unai’n cyrraedd neu yn gadael ar ddydd Mercher.
Archebion llety byncws Tŷ Nesaf
Rydyn ni’n treialu cynnig llety byncws newydd yn Dŷ Nesaf yn 2026. Mae’r llety yma ar gael i’w archebu am 2-4 noson yn ystod y cyfnodau canlynol:
- 11 – 25 Gorffennaf
- 5 – 19 Medi
Bydd gwesteion yn rhannu cyfleusterau gyda phobl eraill sy’n aros yn y tŷ ac fe allant archebu ystafell gyfan neu wely mewn ystafell a rennir. Mae’n bosib archebu lle yn stafell sengl, dwbl neu ystafell i dri, fel ystafelloedd preifat neu i’w rhannu. Mae arhosid yn gallu fod am 2 i 4 noson, ac mae rhaid i bob gwestai cludo bagiau ei hunan i’r cwch ac o’r cwch i’r llety.
Am archebion i byncws Tŷ Nesaf cysylltwch â post@enlli.org gyda’r teitl ‘BYNCWS TŶ NESAF’.
Prisiau
- £50 am ddwbl, fel un person neu fel dau
- £30 am sengl mewn stafell unigol
- £20 am sengl mewn ystafell wedi ei rhannu (rhwng 3), neu £60 am ddefnydd llawn o’r ystafell
Cwestiynau am y llety
Mae’r wythnos rhentu o ddydd Sadwrn i ddydd Sadwrn, Ebrill i Hydref.
- Mae nifer cyfyngedig o seibiannau byr ar gael, cysylltwch â ni am fanylion.
- Mae angen blaendal o 50% i sicrhau eich archeb.
- Mae’r taliad balans llawn yn ddyledus 12 wythnos cyn dechrau’ch arhosiad.
- Gellir archebu drwy lenwi’r ffurflen archebu. Peidiwch â gyrru negeseuon atom i archebu trwy neges destun, Whatsapp neu ar gyfryngau cymdeithasol gan nad yw’r negeseuon hyn yn cael eu monitro yn rheolaidd.
Sylwer: Mae Ynys Enlli yn fferm weithiol, gyda gwartheg a defaid yn pori yn y caeau ger tai a llwybrau troed. Ystyriwch hyn wrth archebu.
Ar gyfer archebion grŵp, cyflwynwch gais archebu ar gyfer pob eiddo. Os ydych chi’n ymweld fel grŵp ac yr hoffech gael gwybodaeth neu gymorth ar ba eiddo sydd fwyaf addas, cysylltwch â ni drwy e-bost.
Mae’r capasiti ar gyfer pob eiddo yn cael ei ddangos yn ystod y broses archebu. Nid yw babanod o dan 2 oed sy’n cysgu mewn cot yn cael eu cyfrif yn yr uchafswm (ac eithrio Carreg Bach, sy’n anaddas i fabanod). Gallwch ofyn am cotiau a chadeiriau uchel fel rhan o’ch archeb.
Ni chaiff nifer y meddianwyr fod yn fwy na’r uchafswm defnydd a nodir ar ein gwefan. Rydym yn cadw’r hawl i wrthod derbyn os nad yw’r amod hwn yn cael ei gadw.
Cyn belled nad ydych yn fwy na’r uchafswm capasiti a ganiateir yn eich llety, ac mae’r cychod yn gallu darparu’r groesfan, mae’n bosibl i westeion ymuno neu adael archeb presennol ganol wythnos.
Cysylltwch yn uniongyrchol â Colin Evans, y cychod ar 07971 769895 ynglŷn â threfnu cyrraedd neu ymadael canol wythnos.
Os hoffech wneud newidiadau i’ch archeb e.e. newid y dyddiad neu’r llety, codir ffi weinyddol o £30. Dim ond ar gyfer dyddiad arall o fewn yr un flwyddyn galendr y gellir newid dyddiad archebu, mae newidiadau dyddiad i’r flwyddyn ganlynol yn cael eu trin fel canslo.
Ni ellir gwneud newidiadau i’r dyddiad archebu o fewn y pedair wythnos cyn eich cyrraedd arfaethedig, os hoffech ddiwygio’ch dyddiadau gwyliau yn ystod y cyfnod hwn, bydd yn cael ei drin fel canslo.
Os bydd yn rhaid i chi ganslo’ch archeb, cysylltwch â ni drwy e-bost. Byddwn yn gwneud pob ymdrech i ail-osod eich archeb. Os byddwn yn llwyddiannus, byddwn yn hapus i ad-dalu eich blaendal neu daliad balans gyda didyniad o ffi ganslo ar gyfer costau gweinyddol. Fodd bynnag, os nad ydym yn gallu ail-osod eich archeb, ni fyddwn yn gallu rhoi ad-daliad i chi.
O ystyried natur yr adeiladau, mae rhai o’n llety yn fwy addas ar gyfer ymwelwyr sydd angen cymorth ychwanegol gyda hygyrchedd. Cysylltwch â ni i drafod eich taith a byddwn yn helpu i ddod o hyd i’r llety cywir.
Bydd ein tîm a thrigolion yr ynys yn gwneud popeth o fewn ein gallu i wneud eich ymweliad mor gynhwysol a hygyrch â phosibl, gan gynnwys dosbarthu prydau tecawê o’r caffi. Os oes angen addasiad arnoch chi neu berson yn eich grŵp i wneud eich amser gyda ni yn fwy pleserus, cysylltwch â ni i drafod sut y gall y tîm gynorthwyo.
