Croeso i Enlli

Aerial view of several seals resting on rocks surrounded by clear blue water, capturing a glimpse of life on Enlli.

Ynys fach llawn diwylliant, hanes, bywyd gwyllt a harddwch naturiol

Saif Ynys Enlli, “yr ynys yn y llif” 3km o ben eithaf Penrhyn Llŷn, gogledd Cymru. Dyma ynys sydd wedi ei hamgylchynu gan geryntau a llanw cryf. Saif Mynydd Enlli 167m uwchlaw’r môr, caiff’i orchuddio â chlustog Fair pinc, grug porffor, a mewn mannau, cen euraidd prin. Mae’r Mynydd yn amddiffyn yr ynys o’r dwyrain, ac yn cuddio’r tir mawr o’r rhan fwyaf o’r ynys, sy’n gwneud iddi deimlo’n gwbl ynysig.

Mae tir yr ynys wedi cael ei ffermio ers cenedlaethau; heddiw mae Enlli dal yn gartref i fferm lewyrchus, a physgodfan cimychiaid a chrancod, Gwylfa Adar a bywyd gwyllt godidog gan gynnwys dros 200 o forloi llwyd, a phoblogaeth gynyddol o adar drycin Manaw a brain coesgoch.

Yn fan pererindod ers y 6ed ganrif, heddiw gallwch fwynhau Enlli drwy aros yn un o’r naw o adeiladau rhestredig Gradd II, lle gall unigolion, teuluoedd a grwpiau mwy gael profi bywyd hudol yr ynys.

Datganiad o ddiddordeb - Ffermio cadwraeth Enlli

Mae Ynys Enlli yn chwilio am deulu, neu gyplau, ar gyfer cyfle anhygoel i ymuno â chymuned yr ynys a bod yn rhan annatod o gyflawni ffermio cadwraeth Enlli.

Dilynwch y ddolen am fwy o wybodaeth ac i ddatgan eich diddordeb

Yn falch o fod y Noddfa Awyr Dywyll cyntaf yn Ewrop

Darllen mwy
Cymdeithas Awyr Dywyll Ryngwladol

Cynlluniwch eich ymweliad

Mae’r cwch i Enlli yn croesi o Borth Meudwy, cildraeth bysgota lleol bach ond gweithgar ger Aberdaron. Mae parcio ar gael ym maes parcio’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol ar ben y trac i lawr i Borth Meudwy. Dilynwch LL53 8DA am gyfarwyddiadau i’r maes parcio. Sylwer nad oes cyfleusterau toiledau yn y maes parcio hwn nac ym Mhorth Meudwy. Rydym yn argymell galw i mewn i Aberdaron ar eich ffordd drwyddo lle mae cyfleusterau toiledau a rhai caffis a becws ardderchog.

Os ydych chi’n teithio ar fws, mae’n bosibl cerdded i Borth Meudwy o Aberdaron ar hyd llwybr yr arfordir, sy’n cymryd tua 30 munud.