Golygfeydd godidog, arfordir sy'n cynnal dolffiniaid a llamhidyddion, ac un o brif lwybrau adar mudol Cymru.
Ynys Enlli is renowned for its wildlife and is a perfect place to see choughs, grey seals, puffins and Manx shearwaters. 332 species of birds have been recorded on the island, and it is a key migratory routes for birds.
The sights, sounds and smells of Enlli’s wildlife are unforgettable. Sit and listen to the seals singing on a calm summers day, listen to the Manx shearwaters arriving back to land overnight and calling to one another under our dark skies, or lie amongst the bright pink thrift which flowers across the coastal edges of the island.

Clochdarod y cerrig
Dynodiadau
Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig
Mae Enlli yn Warchodfa Natur Genedlaethol ac yn safle sy’n bwysig yn genedlaethol ac yn rhyngwladol am ei bywyd gwyllt. Mae’r ystod eang o ddiddordeb arbennig yn cynnwys adar, gydag Enlli yn sefyll ar lwybr mudo allweddol adar Ewrop. Yn gartref i blanhigion blodeuol prin, cennau, llysiau’r afu a mwsoglau, glaswelltir arfordirol a rhostir, clogwyni’r môr a bywyd gwyllt morol.
Mae Ymddiriedolaeth Ynys Enlli, fel perchnogion, a Chyfoeth Naturiol Cymru (CNC), fel corff cynghori Llywodraeth Cymru ar gadwraeth bywyd gwyllt, yn sicrhau bod buddiannau bywyd gwyllt yr ynys yn cael eu ddiogelu ar gyfer y dyfodol. Mae nodweddion pwysig byd natur yr ynys yn cael eu rheoli trwy gyfrwng fferm yr ynys, tra bod Gwylfa Adar a Maes Enlli yn monitro bywyd gwyllt yr ynys.

Morloi llwyd
Bywyd Gwyllt
Y lle perffaith i ymgysylltu â natur.
Ymwelwch yn ystod tymor mudo adar a gallech ddod ar draws rhai ymwelwyr prin ar eu ffordd i ardaloedd magu. Cewch aros dros nos a phrofi sŵn syfrdanol dros 30,000 o adar drycin Manaw yn cyrraedd i nythu ar Enlli, un o safleoedd pwysicaf y byd ar gyfer yr adar mor gwych hyn. Mae morloi llwyd bach yn cael eu geni’ngynnar yn yr hydref, a gellir gweld dolffiniaid, llamhidyddion a morfilod yn rheolaidd yn y dyfroedd o amgylch Enlli.
Noddfa Awyr Dywyll
Yn falch o fod y Noddfa Awyr Dywyll cyntaf yn Ewrop

O fudd i fywyd gwyllt, pobl a ffordd o’n cysylltu â’n treftadaeth, mae Awyr Dywyll Enlli ymhlith y tywyllaf yn Ewrop, ar ôl cael eu hardystio gyda’r dynodiad tywyllaf posibl, Noddfa Awyr Dywyll, gan y Gymdeithas Awyr Dywyll Ryngwladol yn 2023 ar ôl 10 mlynedd o fonitro.

Gwartheg Enlli
Ffermio
Ffermio gyda natur
Mae’r ynys wedi cael ei ffermio neu’r tir wedi ei drin ers cannoedd o flynyddoedd. Mae hen ffiniau caeau i’w gweld yn glir o’r mynydd heddiw, gyda system gymhleth o gaeau.
Trwy gydweithio’n agos ag Ymddiriedolaeth Ynys Enlli, Cyfoeth Naturiol Cymru, a’r Wylfa Adar, mae’r ffermwr, Gareth Roberts yn rheoli’r fferm er lles bywyd gwyllt arbennig Enlli. Mae hyd glaswellt y borfa yn cael ei gadw’n isel mewn rhai ardaloedd er budd tiroedd bwydo’r frân goesgoch. Mae gwlyptiroedd yn cael eu pori gan wartheg ar adegau penodol i gynnal blodau gwyllt ffyniannus fel tegeirian brych y rhos.