Hafan > Ymweld â’r ynys

Archebion 2026

Two white houses sit on a green hillside under a dramatic cloudy sky at sunset.

Archebu eich gwyliau

Unwaith y byddwch chi’n cymryd eich gwyliau cyntaf ar Enlli, byddwch chi eisiau dychwelyd dro ar ôl tro!

Archebwch eich gwyliau unigryw yn Enlli heddiw.

Mae’r tai yn cael ei osod gan Ymddiriedolaeth Ynys Enlli ar gyfer gwyliau o Ebrill i Hydref pob flwyddyn.

Mae ein tai ar gael am wyliau wythnos, o dydd Sadwrn i dydd Sadwrn. Os ydych yn chwilio am wyliau byr, rydym yn gallu cynnig gwyliau 3 neu 4 noson yn dibynnu ar argaeledd. Gyda gwyliau byr, rydych unai’n cyrraedd neu yn gadael ar ddydd Mercher.

Archebion llety byncws Tŷ Nesaf

Rydyn ni’n treialu cynnig llety byncws newydd yn Dŷ Nesaf yn 2026. Mae’r llety yma ar gael i’w archebu am 2-4 noson yn ystod y cyfnodau canlynol:

  • 11 – 25 Gorffennaf
  • 5 – 19 Medi

Bydd gwesteion yn rhannu cyfleusterau gyda phobl eraill sy’n aros yn y tŷ ac fe allant archebu ystafell gyfan neu wely mewn ystafell a rennir. Mae’n bosib archebu lle yn stafell sengl, dwbl neu ystafell i dri, fel ystafelloedd preifat neu i’w rhannu. Mae arhosid yn gallu fod am 2 i 4 noson, ac mae rhaid i bob gwestai cludo bagiau ei hunan i’r cwch ac o’r cwch i’r llety.

Am archebion i byncws Tŷ Nesaf cysylltwch â post@enlli.org gyda’r teitl ‘BYNCWS TŶ NESAF’.

Prisiau

  • £50 am ddwbl, fel un person neu fel dau
  • £30 am sengl mewn stafell unigol
  • £20 am sengl mewn ystafell wedi ei rhannu (rhwng 3), neu £60 am ddefnydd llawn o’r ystafell

Cwestiynau am y llety

Mae’r wythnos rhentu o ddydd Sadwrn i ddydd Sadwrn, Ebrill i Hydref.

  • Mae nifer cyfyngedig o seibiannau byr ar gael, cysylltwch â ni am fanylion.
  • Mae angen blaendal o 50% i sicrhau eich archeb.
  • Mae’r taliad balans llawn yn ddyledus 12 wythnos cyn dechrau’ch arhosiad.
  • Gellir archebu drwy lenwi’r ffurflen archebu. Peidiwch â gyrru negeseuon atom i archebu trwy neges destun, Whatsapp neu ar gyfryngau cymdeithasol gan nad yw’r negeseuon hyn yn cael eu monitro yn rheolaidd.

Sylwer: Mae Ynys Enlli yn fferm weithiol, gyda gwartheg a defaid yn pori yn y caeau ger tai a llwybrau troed. Ystyriwch hyn wrth archebu.