Neidio i'r prif gynnwys

Ar drothwy tymor yr haf, mae Ymddiriedolaeth Ynys Enlli yn camu i gyfnod newydd a phwysig yn hanes yr ynys, gyda gweledigaeth uchelgeisiol ar gyfer y dyfodol a thîm newydd wrth y llyw.

Yn ystod Cyfarfod Blynyddol yr Ymddiriedolaeth ar 16 Mai, cafodd Alun Llwyd (Prif Weithredwr PYST Cyf sydd yn gyfrifol am blatfformau PYST ac Am) ei ethol yn Gadeirydd. Daw’r penodiad ar adeg o newid a datblygiad sylweddol i’r ynys, bron i hanner canrif ers i’r Ymddiriedolaeth brynu Enlli, gyda’r nod bryd hynny o ddiogelu ei chymuned, treftadaeth a’i bywyd gwyllt unigryw.

Bellach, gyda thîm newydd yn ei le, mae cynlluniau ar waith i gyhoeddi strategaeth hir dymor cyn diwedd yr haf. Y bwriad yw sicrhau dyfodol cynaliadwy i’r ynys, nid yn unig fel lleoliad gyda hanes a diwylliant arbennig, ond hefyd fel lle i fyw a gweithio am genedlaethau i ddod.

Wrth sôn am y bennod nesaf yn hanes Enlli, dywedodd Alun Llwyd: “Mae’n deg dweud bod yr ynys yn mynd trwy gyfnod trawsnewidiol a chyffrous ar hyn o bryd. Mae’r ystod o waith a’r heriau sy’n ein wynebu ni, yn economaidd, amgylcheddol, cadwriaethol, ysbrydol a chelfyddydol, yn enfawr.

“Ond cryfder mwyaf Enlli yw ei chymuned. Mae’r cydweithio rhwng trigolion yr ynys, y tîm staff, gwirfoddolwyr ac Ymddiriedolwyr yn rhoi sail gadarn i ni i edrych ymlaen yn hyderus ac yn uchelgeisiol i’r dyfodol.

Alun Llwyd

Y nod yw gwneud Enlli yn gynaliadwy – yn lle gall pobl fyw a gweithio, ond ar yr un pryd lle mae gwarchod treftadaeth a natur yn parhau’n gwbl ganolog.

Mae’n fraint cael fy ethol yn Gadeirydd, ac rwy’n edrych ymlaen at weithio gyda phawb er budd Ynys Enlli dros y blynyddoedd nesaf.

Alun Llwyd

Beth i ddisgwyl o’r encil:

Yn ogystal â phenodi Cadeirydd newydd, mae dau warden newydd wedi ymuno â’r tîm. Wedi ymadawiad Mari Huws ac Emyr Owen ym mis Chwefror, mae Aron Llwyd a Lois Roberts wedi dechrau ar eu gwaith fel wardeniaid. Mae’r ddau yn adnabod ei gilydd ers eu dyddiau ysgol yng Nghaerdydd. Ac er eu bod wedi mwynhau byw a gweithio yn y ddinas, roedd y ddau yn ysu i brofi bywyd oddi ar y grid.

Yn ychwanegol at y wardeiniaid newydd, mae dau apwyntiad newydd arall sef Nansi Davies-Hughes fel Swyddog Prosiect ac Elin Cheung yn Is-Warden Ymwelwyr. Maen nhw’n ymuno â gweddill tîm Enlli wedi ei arwain gan y Prif Swyddog, Sian Stacey.

Ychwanegodd Alun Llwyd: “Mae Tîm Enlli yn un ifanc ac egnïol ond hefyd yn gyfoethog mewn sgiliau a phrofiad. Wrth i ni edrych at gyhoeddi strategaeth newydd, mae’r tîm yn mynd i fod yn ganolog wrth ni wireddu ein amcanion”

Bydd y misoedd nesaf yn allweddol wrth droi’r weledigaeth yn gamau ymarferol. Ac wrth i’r cyfnod newydd ddatblygu, bydd pwyslais y gwaith ar weithredu’r cynlluniau sydd ar y gweill a chyflawni’r strategaeth hirdymor ar gyfer yr ynys.

Lois and Aron

“Pan welson ni’r hysbyseb yn chwilio am gwpl i fyw a gweithio fel wardeiniaid ar Ynys Enlli, doedd dim amheuaeth, roedd yn rhaid i ni wneud cais. Mae bywyd yn gwbl wahanol ers i ni adael Caerdydd. Ond rydym wedi addasu’n gyflym ac yn mwynhau byw ochr yn ochr â natur a rhythm y tymhorau.”

Lois a Aron