Mae rhaglen Llysgenhadon Ifanc Enlli yn dychwelyd unwaith eto eleni, gan roi cyfle unigryw i bobl ifanc rhwng 15–17 oed ymweld ag Ynys Enlli a chael profiad gwahanol yng nghanol natur, diwylliant a chymuned yr ynys.
Eleni, bydd y llysgenhadon yn cymryd rhan mewn cyfres o weithdai a diwrnodau rhwng Gorffennaf a Thachwedd, gyda gweithgareddau yn cynnwys – teithiau bywyd gwyllt, gweithdai creadigol, dysgu am hanes a diwylliant Enlli, gweithio ochor i ochor a’n tîm o wardeniaid, a chwrdd â phobl sy’n byw ac yn gweithio ar yr ynys. Nid oes angen unrhyw brofiad blaenorol i wneud cais.
Bydd costau’r cwch i’r ynys yn cael eu darparu fel rhan o’r rhaglen.
Pam fod yn rhan o’r rhaglen yma?
Fel llysgenhadon Ifanc Enlli, bydd y cyfranogwyr yn cael y cyfle i rhannu eu profiadau, datblygu eu llais a helpu ysbrydoli pobl ifanc erill i fynd drosodd i Enlli a cysylltu a’r natur, threftadaeth a diwylliant yr ynys. Nid oes angen unrhyw brofiad blaenorol i wneud cais.
Rydym yn chwilio am bobl ifanc brwdfrydig sydd efo diddordeb yn natur, diwylliant, treftadaeth a chreadigrwydd.
Beth fyddwch yn ennill o fod yn Lysgenad Ifanc Ynys Enlli
- Llythyrau/profiadau i ychwanegu at eich CV/cais UCAS neu tebyg.
- Oriau gwirfoddoli- Hefyd yn bosib ychwanegu rhain at CV neu cais UCAS.
- Cael chwarae rhan yn dyfodol Ynys Enlli.
- Gwella amrywiaeth o sgiliau; Cyfarthrebu, ymchwil, rheoli amser, gweithio’n annibynol, datrys problemau a gweithio mewn tîm.
- Cyfle i greu pethau i werthu fel rhan o busnes bach.
Sut i ymgeisio?
Gyrrwch llythyr, fideo neu neges llais gyda rhesymau pam rydych eisiau bod yn Lysgenad Ifanc ar gyfer Ynys Enlli, a pam mai chi ddylsa cael eich dewis, at y manylion cyswllt isod. Neu cliciwch ar y linc isod.
Gyrrwch manylion cyswllt eich rhiant/gwarcheidwad hefyd os gwelwch yn dda. Os hoffech chi neu eich rhiant/gwarcheidwad mwy o wybodaeth neu eisiau gofyn unrhyw gwestiynau, plis cysylltwch gyda Nansi Davies-Hughes, ein Swyddog Prosiect: nansi@enlli.org, 07949522928
Dyddiad cau: 21ain Mehefin 2026
