Manylion y Preswyliad
Mae Ymddiriedolaeth Ynys Enlli yn gwahodd artistiaid newydd a sefydledig o Gymru i wneud cais am gyfnod preswyl pythefnos ar Ynys Enlli. Mae’r cyfle hwn yn cynnig amser a lle pwrpasol i artistiaid ddatblygu eu gwaith wrth ymgysylltu â’r amgylchedd a’r dreftadaeth unigryw sydd gan yr ynys i’w chynnig. Mae’r rhaglen yn agored i bob ymarferydd.
Manylion y Preswyliad
- Hyd: 2 wythnos 25 Gorffennaf a 8 Awst 2026
- Llety: Llety hunangynhaliol yn Llofft Nant, gan gynnwys ardal gegin a lolfa agored gyda ystafell wely ar y llawr uchaf. Sylwer nad yw’r ynys yn gwbl hygyrch ym mhob ffordd. Os oes gennych ofynion mynediad, gadewch i ni wybod a byddwn yn gwneud ein gorau i’ch cefnogi.
- Gofod Stiwdio: Darperir gofod stiwdio neilltuol i bob artist.
- Cysylltedd: Nid oes WiFi ar gael i’r gwesteion; mae cysylltedd 4G cyfyngedig mewn rhai ardaloedd yr ynys.
- Cost: Does dim tâl am y preswyliad, ond mae disgwyl i artistiaid dalu am eu cludiant eu hunain, cost y cwch, a deunyddiau.
- Mynediad: Bydd y preswyliadau’n rhedeg o ddydd Sadwrn i ddydd Sadwrn. Mae gwasanaeth cwch preifat yn gwasanaethu’r ynys. Mae taith ddychwelyd yn costio £60.00 ac mae angen archebu ymlaen llaw. Bydd manylion ar sut i archebu yn cael eu hanfon cyn teithio. Gall gwasanaethau’r cwch gael eu canslo oherwydd tywydd garw. Rhaid i chi ddod â’ch holl fwyd, eiddo personol a deunyddiau gyda chi. Mae caffi ar yr ynys yn gweini prydau cartref. Mae angen archebu o leiaf 24 awr ymlaen llaw, naill ai yn Café Tŷ Pellaf neu drwy e-bostio wgroberts@hotmail.co.uk.
- Amodau tywydd: Mae Ynys Enlli yn lleoliad anghysbell ac agored, a gall amodau gwaith fod yn heriol. Mae dillad addas ar gyfer pob tywydd yn hanfodol.
- Iaith: Cymraeg yw iaith gwaith Ymddiriedolaeth Enlli a bywyd yr ynys, ac rydym yn annog ceisiadau yn y Gymraeg.
- Preswyliadau Cydweithredol: Anogir cydweithio; os hoffech wneud cais gydag artist arall, nodwch hyn yn eich cais. Mae’r llety a ddarperir yn cynnwys dau wely sengl mewn un ystafell.
- Mentora: Mae’r artist Carol Shearman yn aros ar Enlli rhwng mis Mehefin a mis Medi; mae ganddi stiwdio drws nesaf i stiwdio’r Artist Preswyl ac mae ar gael i roi cyngor anffurfiol, sgyrsiau cyfeillgar, a datrys problemau creadigol.
- Cyfleoedd arddangos: Rydym yn gweithio i sicrhau lleoedd i artistiaid arddangos, perfformio neu gyhoeddi gwaith a grëwyd yn ystod y preswyliad. Rydym hefyd yn datblygu llwyfan digidol i rannu profiadau preswyliad. Mae’r siop ar Ynys Enlli yn gwerthu printiau a chardiau o waith artistiaid ar sail comisiwn.
- Cwestiynnau Bellach Yma
Ynys Enlli
Yn cael ei adnabod fel yr ynys o 20,000 o seintiau, mae’r ynys yn ffynnu efo bywyd gwyllt, hanes diwylliannol, a phrydferthwch naturiol. Wedi’i lleoli 3 km o ddiwedd Ben Llŷn, Gogledd Cymru, mae’r ynys yn 2.5 km o hyd ac 1 km o led, gyda Mynydd Enlli yn cyrraedd uchder o 167m. Yn 2023, cafodd ei dynodi fel y Noddfa Awyr Dywyll cyntaf yn Ewrop. Ar yr ynys, mae 12 o dai gwyliau tymor byr, Capel; Tŷ Pellaf: caffi a siop sy’n gwerthu wyau ffres, crancod a chimwch, ac yn cynnig diodydd; adfeilion yr abaty o’r 13 ganrif; coloni o tua 200 o forloi llwyd; Gwylfa Adar a fferm weithredol.
Cyfrifoldebau Artistiaid
- Ymgysylltu Cyhoeddus: Mae disgwyl i bob artist gyflwyno un sesiwn ymgysylltu cyhoeddus yr wythnos yn ystod eu harhosiad. Yn aml, gweithdai wedi’u hwyluso yw’r rhain, ond gall y sesiwn hefyd fod ar ffurf sgwrs gan yr artist, stiwdio agored neu daith dywys. Rydyn ni wedi gweld bod y sesiynau hyn yn fuddiol i breswylwyr Enlli ac i’r artistiaid fel ei gilydd. Maen nhw’n gyfle i roi rhywbeth yn ôl i’r gymuned, cwrdd â phobl newydd, a rhannu mewnwelediadau, arsylwadau a syniadau creadigol.
- Parch i’r Ynys: Rhaid i artistiaid barchu’r bywyd gwyllt, ecoleg, etifeddiaeth, a phobl eraill sy’n ymweld ag Ynys Enlli.
- Hunangynhaliaeth: Mae artistiaid yn gyfrifol am eu lluniaeth, eu hoffer, a chostau deunyddiau.
- Teithio a deunyddiau: Mae artistiaid yn gyfrifol am gostau teithio, parcio, cost y cwch a deunyddiau.
- Yswiriant: Bydd artistiaid yn cael eu hannog i drefnu unrhyw yswiriant angenrheidiol ar gyfer y preswyliad.
Cymhwystra:
- Rhaid i ymgeiswyr fyw yng Nghymru.
- Mae croeso i artistiaid ar unrhyw gam o’u gyrfa wneud cais
- Croesewir artistiaid ym mhob disgyblaeth
- Anogir ceisiadau ar y cyd, ac mae’r llety sydd ar gael yn addas ar gyfer dau artist sy’n cydweithio.
Sut i wneud cais
Mae ceisiadau bellach ar agor
Os nad oes gennych Gyfrif Google, gwnewch gais ym
LINC I CAIS I RHAI HEB CYFRIF GOOGLE
Os oes gennych unrhyw gwestiynau cyn gwneud cais, cysylltwch â’r Cydlynydd Preswyliadau Artistiaid, Theo Shield theo@enlli.org
Dyddiad Cau Ceisiadau: 28 Chwefror 2026 – Canol dydd
Bydd ceisiadau’n cael eu hadolygu yn ystod mis Mawrth, a bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn cael eu cysylltu ar ddechrau mis Ebrill. Oherwydd nifer y ceisiadau a dderbynnir, ni fyddwn yn gallu cynnig adborth unigol.
