Neidio i'r prif gynnwys

Hafan > Straeon

Blog 28.04.25

CCB 2025 Ymddiriedolaeth Ynys Enlli

Gwaith gan dair cenhedlaeth o artistiaid wedi'u hysbrydoli gan dirwedd a bywyd Ynys Enlli. Brenda Chamberlain, Amelia Shaw-Hastings, Jon Hastings. Carreg Fawr, Ynys Enlli.

A grassy, hilly island surrounded by calm sea sits under a cloudy, overcast sky with rays of sunlight breaking through in the distance.

CCB Ymddiriedolaeth Ynys Enlli

Cynhelir Cyfarfod Blynyddol Cyffredinol Ymddiriedolaeth Ynys Enlli ar:

Ddydd Sadwrn 17 o Fai 2025, Ysgol Crud Y Werin, Aberdaron, LL53 8BP, gyda’r busnes ffurfiol yn cychwyn am 10.30y.b.

Greta Hughes

Mae gennyf gysylltiad cryf a thrwyadl gydag Enlli, gan imi groesi’r Swnt am y tro cyntaf pan oeddwn i’n 15 oed gyda’m tad yn ei gwch traddodiadol 14 troedfedd Aberdaron. Dychwelais 9 mlynedd yn ddiweddarach fel Swyddog Pysgodfeydd lleol ac am lawer o’m gyrfa o fewn gorfodi a rheoli pysgodfeydd dros y 42 mlynedd nesaf. Roeddwn i yn gyfrifol am ddiogelu’r pysgodfeydd o gwmpas Enlli, gan weithio o RIBs a Llongau Patrôl Pysgodfeydd mwy. 

Dros y ddwy flynedd diwethaf, rydw i wedi treulio wythnos bob blwyddyn ar Enlli ac rwy’n gobeithio parhau i wneud hynny. Mae’r amodau byw sylfaenol, sydd gymaint yn wahanol i’r bywydau modern llawn prysurdeb dydd i ddydd, yn cynnig cyfle angenrheidiol o saib, ac yn fy ngludo’n ôl i’r bywyd syml a fu ar Llŷn yn fy ieuenctid. Mae hefyd agwedd ysbrydol i Enlli, gan ei fod yn pontio’r ddwy lefel o’n bodolaeth bresennol gyda’r anhysbys, ac rwyf wedi teimlo ei bwerau iachau ar ôl marwolaeth fy ngŵr ddwy flynedd yn ôl. 

Robert Townsend

Am bron 30 mlynedd, rwyf wedi arwain plwyfi mawr o nifer o eglwysi, lle roeddwn i’n gyfrifol am oruchwylio’r weinidogaeth, y cyllid a’r gwirfoddolwyr. Rwyf bellach yn Ymddiriedolwr Esgobaeth Bangor ac Eglwys Gadeiriol Bangor ac rwyf yn rhan o Dîm Rheoli Uwch Esgobaeth Bangor.  

O 2017 hyd at 2022, cefais fy mhenodi i Gyngor y Gweithlu Addysg gan Weinidog Addysg Llywodraeth Cymru.  

Rydw i wedi bod yn Ymddiriedolwr i Ynys Enlli yn y gorffennol ac yn Gadeirydd y Pwyllgor Ysbrydolrwydd, ac rwyf yn aelod gwirfoddol wedi’i hyfforddi’n llawn o griw cwch bad achub RNLI Cricieth. 

Mae Enlli yn un o’m hoff lefydd. Bu’n lle ar gyfer gwyliau teulu a chyfnodau arbennig iawn. Bu’n fraint i mi fod yn Ymddiriedolwr o’r blaen a hoffwn gael y cyfle i fod yn Ymddiriedolwr unwaith eto. Rwyf yn angerddol am ddatblygu cymuned hunangynhaliol reolaidd ar Enlli, i eistedd ochr yn ochr ag ymwelwyr yr Ymddiriedolaeth.  

Mae Enlli yn le o ddistawrwydd, syfrdandod, myfyrio a hwyl, sydd angen cymuned trwy’r flwyddyn. Hoffwn fod yn rhan o Gyngor yr Ymddiriedolaeth a gweithio tuag at y nod hwn. 

 

Felly, hoffwn ddod yn Ymddiriedolwr gyda’r gobaith y gallwn gyfrannu mewn ffordd fach at waith yr Ymddiriedolaeth fel y gall yr ynys weithgar unigryw hon barhau i ffynnu, gan ganiatáu i eraill elwa, fel yr wyf i, o’u hymweliadau.