'Nose to Nose' Cwrs Preswyl Gwadd: 12fed - 16eg Medi 2026
Dihangwch hefo ‘Nose to Nose‘ am bedwar diwrnod chwareus o glownio ar Ynys Enlli – yn harddwch bywyd gwyllt, gwynt y môr, morloi ac adar Drycin Manaw. Cewch fwynhau bwyd llysieuol lleol blasus, ac aros yn un o dai’r ynys, sy’n dyddio’n ôl i’r 1870au.
Mae’r gair courage yn dod o wraidd sy’n golygu ‘calon’. Trwy glownio ac ailgysylltu â’n hysbryd chwareus, gallwn ddatblygu a chynnal – yn ein hunain ac mewn eraill – y galon sydd ei hangen arnom i fod yn pwy ydym ni, i ymddiried mewn bywyd ac ynom ni ein hunain. Mae cymryd calon yn broses fewnblyg, ddofn; yn wahoddiad i feddalu’r ofnau sy’n ein cadw ar ein gwyliadwraeth, ac i fod yn fwy presennol ynom ein hunain a’r hyn sydd o’n cwmpas.

‘Mae’r gelfyddyd o glownio yn golygu ymryddhau o bob rôl ar wahân i un: ni ein hunain.’
A. Simon ‘La planete des clowns”
Mae i fywyd ynys lonyddwch a thawelwch, ac mae’n cynnig ymdeimlad o ryfeddod sydd o gymorth i ni ddod yn ôl at ein coed. Gadewch i’r daith ar y cwch eich helpu i ddiosg unrhyw rolau nad ydych eu hangen, gan ddod ynghyd i chwarae, archwilio a darganfod ar y cyd, trwy gyfrwng gemau, ymarferion, byrfyfyrion byr ac ambell ennyd o ffolineb llawen er mwyn deffro’r clown oddi mewn.
Byddwn yn defnyddio Cuddfan y Clowniaid fel dechreufan i’n gweithgareddau, ac yn dod o hyd i lwyfannau naturiol ledled yr ynys – ar lwybrau’r clogwyni, yn y caeau ac ar lan y môr. Byddwn yn gwrando, yn ymateb ac yn chwarae, a’r ynys ei hun fydd ein hysbrydoliaeth. Cawn waith llais ar y traeth i gyfeiliant corws y morloi, gwaith ensemble ysgafn, chwerthin, ymdaweliad, syrpréis a gofod, er mwyn ailgysylltu â’r pleser o fod yn ddiymddiheuriad o ddynol.
Boed yn gwbl newydd i glownio neu eisoes yn gydymaith i’ch clown, dyma wahoddiad i chwarae’n ddwfn, i fethu’n gelfydd, ac i ddarganfod beth sy’n digwydd pan fo clown yn dod wyneb yn wyneb â’r gwylltir.
Tiwtoriaid

Alison Stockford (hi/ei)
Aeth Alison i’w gweithdy Nose to Nose cyntaf yn 2000, gan ddisgyn mewn cariad â’r gwaith. Weithdai lawer yn ddiweddarach, mae hi bellach yn hwylusydd hyfforddedig gyda Nose to Nose. Mae ganddi feddwl uchel o’r gwaith hwn fel sylfaen berffaith i bob gwaith creadigol ac yn y darlun ehangach o ymddiried ynom ni ein hunain ac mewn bywyd. Mae Alison yn addysgydd cymwys a phrofiadol, ac wrthi ers dros 20 mlynedd. Mae’n addysgu, ac wedi dysgu Drama a’r Celfyddydau Perfformiadol mewn lleoliadau prif lif, arbenigol a phobl hŷn.
Mae Alison hefyd yn berfformwraig brofiadol. Bu’n gweithio ym maes café-théâtre gyda Les Amuses Gueules yn Lille, Ffrainc, Theatr Stryd, a Theatr mewn Addysg gyda Chwmni Inside Out, Hastings. Mae’n siarad Saesneg a Ffrangeg.

Artist drag a dawnsiwr sy’n gweithio’r dydd fel adeiladwr yw Toby. Maent wedi bod mewn hyfforddiant gyda Nose to Nose fel hwylusydd clowniau, a bu’r cyrsiau hynny yn brofiad trawsnewidiol iddynt. Maent yn hwyluso grwpiau ym meysydd adeiladu a chwaraeon er mwyn cynyddu ymddiriedaeth a’r parodrwydd i fod yn fregus yn niwylliant y gweithle a’r chwaraele. Maent wrth eu boddau yn chwarae.
Bu Toby yn ddigon ffodus o gael bod yn rhan o’r gwaith cynnal a chadw ar adeiladau Ynys Enlli, gan ddisgyn mewn cariad â’r lle y munud y bu iddynt gamu oddi ar y cwch.
Llety a phrisiau
Cyrraedd: 12fed Medi
Gadael: 16eg Medi
Byddwch yn aros yn un o ffermdai rhestredig gradd 2 yr ynys, sy’n dyddio’n ôl i’r 1870au, gan rannu gofod byw a chegin gyda’r grŵp. Wythnos wedi’i harlwyo yw hon, gyda’r holl brydau bwyd wedi’u cynnwys o fewn i pris. Am fwy o wybodaeth am y llety ewch yma.
Prisiau:
Gwely mewn ystafell bâr (twin): £600
Ystafell breifat gyda gwely dwbl £800
Yn cynnwys:
- Bwyd llysieuol bendigedig i frecwast, cinio a swper,
- Te a choffi a byrbrydau
- Tiwtora, deunyddiau
- Llety
- Y daith ar y cwch
- Pharcio eich car am gyfnod y cwrs
I archebu lle ar y cwrs cysylltwch a ni ar post@enlli.org gyda teitl eich neges yn cynnwys Cwrs Clownio 2026




