Neidio i'r prif gynnwys

Rydym wrth ein bodd yn croesawuGeorgina Rannard aGwyndaf Hughes fel ffermwyr newydd yr ynys yn dilyn proses recriwtio ddiweddar. Bydd y ddau yn gofalu am ddefaid a gwartheg yr ynys, gan ddefnyddio dulliau ffermio sy’n cyfrannu at waith cadwraethol pwysig o warchod ei chynefinoedd prin. Bydd Georgina a Gwyndaf yn cymryd yr awenau oddi wrth Gareth a Meriel Roberts.

Bydd y cam yn mynd â’r cwpl o Gaerdydd, lle maen nhw’n wedi bod yn gweithio yn y cyfryngau fel gohebydd a dyn camera yn dilyn straeon hinsawdd a gwyddoniaeth. Magwyd Gwyndaf ym Mhen Llŷn ble bu’n helpu ar fferm ei daid a’i nain o oedran ifanc iawn. Yn newyddiadurwraig brofiadol, cafodd Georgina ei geni a’i magu yn Lerpwl. Mae hi wedibyw yng Nghymru ers 2021 ac yn dysgu Cymraeg.

Mae hwn yn gyfle cyffrous iawn yn enwedig i ddod yn ôl adref i Ben Llŷn i fyw a gweithio mewn ardal lle mae’r Gymraeg yn rhan ganolog o fywyd bob dydd. Rydw i yn cofio helpu ar fferm taid a nain pan oeddwn yn iau, ond ar ôl blynyddoedd yn gweithio yn y byd teledu, fyddwn byth wedi dychmygu gallu dilyn yn ôl eu troed nhw fel hyn.

Mae cyfnewid y camera am ffermio yn gam mawr, ond mae’n teimlo’n iawn. Rydan ni’n dau yn awyddus i ddechrau arni, yn gofalu am y defaid a’r gwartheg a helpu i sicrhau bod diwylliant, tirwedd a bywyd gwyllt unigryw Enlli yn ffynnu.

Gwyndaf Hughes

Wrth ffarwelio â bywyd ar yr ynys, dywedodd Gareth: “Mae’r amser wedi dod i mi drosglwyddo’r cyfrifoldebau a’r pleser o gyflawni dyletswyddau ffermio dyddiol ar Enlli i rhywun arall. Mae wedi bod yn fraint bod yn rhan o fywyd yr ynys am y rhan fwyaf o fy mywyd fel oedolyn.

“Gall fod yn her dod o hyd i’r bobl iawn, yn enwedig pan fod rhaid wynebu anawsterau o ran y tywydd, unigrwydd yr ynys, yn ogystal â delio â’r gwaith ei hun a phwysigrwydd gwneud pethau yn iawn.

“Treuliodd Georgina a Gwyndaf amser gyda ni yn y gwanwyn yn ystod tymor wyna, ac roeddwn i wedi fy mhlesio efo’u hagwedd, eu gallu a’u hysbryd. Rwy’n hyderus mod i’n trosglwyddo’r cyfrifoldeb i ddwylo diogel. Ond, fyddai ddim yn bell i ffwrdd, ac wrth law i’w helpu os oes angen.”

Mae unrhyw un sydd wedi cael y fraint o ymweld ag Enlli yn gwybod pa mor arbennig ydi’r ynys. Mae blynyddoedd o adrodd ar faterion natur, gwyddoniaeth a hinsawdd ar hyd a lled y byd wedi dysgu i ni pa mor hanfodol ydi diogelu’n byd naturiol. Rydw i yn edrych ymlaen at gael mynd ati i weithio ac i helpu i warchod amgylchedd mor unigryw.

Bydd bywyd ar ynys fechan, heb gysylltiad â’r grid yn dod â’i heriau, ond roedd y cyfle i ymuno â chymuned Gymraeg fel un Enlli, a gweithio i sicrhau bod yr adar a’r anifeiliaid yn ffynnu am flynyddoedd i ddod, yn rhywbeth nad oedden ni yn allu ei wrthod.

Georgina Rannard

Bydd y ffermwyr newydd yn dyblu poblogaeth Enlli trwy gydol y flwyddyn ac yn nodi pennod newydd wrth i Ymddiriedolaeth Ynys Enlli edrych tua’r dyfodol a lansio strategaeth bum mlynedd. Daw hyn hefyd wrth i’r Wardeniaid llawn amser newydd, Aron Llwyd a Lois Roberts, gwblhau eu tymor cyntaf yn eu rôl.

Mae Siân Stacey yn Brif Swyddog Ymddiriedolaeth Ynys Enlli. Dywedodd: “Rwy’n edrych ymlaen yn fawr at groesawu Georgina a Gwyndaf i Enlli. Ynghyd â Lois ac Aron, mi fyddan nhw yn ffurfio cenhedlaeth newydd o drigolion yr ynys. Mae bron i 50 mlynedd ers i’r Ymddiriedolaeth brynu’r ynys, felly mae’n briodol ein bod ni rwan yn edrych tua’r dyfodol efo strategaeth newydd sy’n canolbwyntio ar ddiogelu treftadaeth yr ynys wrth greu cymuned gynaliadwy yma ar gyfer y dyfodol.

“Mae dyblu poblogaeth Enlli yn gam cadarnhaol tuag at gyflawni ein gweledigaeth. Mae’n cyd-fynd â’n ymrwymiad i gadwraeth, treftadaeth, a chynaladwyedd yn ogystal â chroesawu ymwelwyr i brofi’r lle anhygoel hwn.”

Dilynwch daith Georgina a Gwyndaf ar Enlli drwy eu dilyn ar Instagram yma.