Diwrnod i'r Brenin- 13eg o Fedi
Ymunwch gyda ni ar y 13eg o fis Medi yng Nghrasu Coed am ddiwrnod o hwyl a dysgu.
Bydd ambell i stondin i droedio o amgylch, digon o ganeuon gwerin a sgyrsiau am hanes difyr Enlli a coron Brenin Enlli. Dewch i wrando, dysgu a canu!
Byddwn yn cychwyn arni am 11yb tan 4yh.
Digwyddiad am ddim ond cofiwch dod ag arian i wario ar baned a chacen! Mae croeso i chi rhoi arian hefyd os y dymunwch.
Bydd cyfieithu ar y pryd ar gael ar gyfer y sgyrsiau.
Cyfeiriad: Coed Y Llan, Pwllheli, LL53 8HL
What3Words: ///rentals.duos.slid
