Y cyflwyniad perffaith i Noddfa Awyr Dywyll Enlli
Yn dilyn llwyddiant encil cyntaf Astroffotograffiaeth Awyr Dywyll i Ferched yn 2025 rydym yn lansio encil byr eto flwyddyn yma.
Fydd yr encil flwyddyn yma yn cael ei chynnal gan Helen Iles, ffotograffydd a astroffotograffydd o fry o Wynedd. Mae Helen yn rhedeg cyrsiau ffotograffiaeth ar draws Cymru ac mae nifer o’i lluniau wedi cael ei chyhoeddi yn gylchgrawn poblogaeth ‘The Great Outdoors’ a nifer arall.
Mae hyn i chi os ydych chi:
- Eisiau profiad unigryw o Ynys Enlli os nad ydych byth wedi bod, neu eisiau dychwelid i weld ochor arall o Enlli.
- Eisiau profi hud y noson dywyll mewn amgylchedd diogel a chefnogol
- Dod i adnabod merched eraill efo diddordebau tebyg.
- Dysgu sgiliau newydd a sut i gael y gorau o’ch offer ffotograffiaeth
Beth i ddisgwyl o’r encil:
Fyddwch yn aros yn naill Plas Bach neu Lofft Plas, a fydd pob diwrnod efo agenda hyblyg yn ddibynnol ar y tywydd, yn cynnwys:
- Tripiau bywyd gwyllt
- Cyflwyniad i ddynodiad awyr dywyll Enlli
- Sesiwn astroffotograffeg yn ystod y nos
- Sesiwn ioga
- Sesiynau creadigol
- Sesiwn addysg yn edrych ar effaith awyr dywyll Enlli ar y bywyd gwyllt ac ysbrydolrwydd.
- Cinio a swper wedi ei ddarparu gan Fferm yr ynys, a brecwast syml
Dyddiadau
- Dydd Mercher 22ain – Sadwrn 25ain o Ebrill 2026
Prisau
Mae pob pris yn cynnwys llety, cost y cwch, pob pryd bwyd a byrbrydau, tiwtor a sesiynau.
Stafelloedd Plas Bach (sydd efo toiled a chegin sydd yn cael ei rhannu, lolfa, lle tan a Rayburn)
- Ystafell wedi ei rhannu: £500
- Ystafell unigol: £650
Defnydd preifat o Lofft Plas
- £800 am unigol
- £1000 am ddau yn rhannu
Mae Llofft Plas yn cynnwys cegin a’r unig doiled mewnol ar yr ynys. Mae’r llety dros yr iard o Plas Bach a grŵp ehangach yr encil.
Sut i Archebu:
I archebu lle ar yr encil yma cysylltwch â post@enlli.org




