Neidio i'r prif gynnwys

Mae Ynys Enlli yn cynnig blaenoriaeth archebu ar gyfer encilion creadigol yn ystod tymor 2026. P’un ai ydych chi’n awdur, artist, cerddor, neu’n gweithio ar brosiect creadigol arall, mae Ynys Enlli yn cynnig amgylchedd tawel i ymlacio, canolbwyntio ac ysbrydoli.

Mae’r cyfle yma wedi ei gynllunio ar gyfer unigolion sydd eisiau amser a lle i ganolbwyntio ar eu gwaith creadigol, yn bell o brysurdeb y byd. Yn wahanol i’n llety gwyliau arferol, mae’r encilion hyn ar gyfer unigolion sydd eisiau defnyddio’r gofod ar gyfer gweithgaredd greadigol. Does dim proses ymgeisio—dim ond archebu eich wythnos a mwynhau’r amser i ganolbwyntio, datblygu neu fyfyrio ar eich gwaith mewn lleoliad unigryw. Mae’r encilion yn cynnwys llety yn Llofft Nant, bwthyn hunanarlwyo a mynediad am ddim i stiwdio.

Dyddiadau Ar Gael:

Ebrill 4ydd–11eg
Ebrill11eg–18fed
Ebrill 18fed–25ain
Ebrill 25ain – Mai 2il
Mai 2il-9fed
Mai 9fed-16eg
Mai 23ain-30ain
Mai 30ain-Mehefin 6ed
Mehefin 27ain-Gorffennaf 4ydd
Gorffennaf 4ydd-11eg
Gorffennaf 11eg-18fed
Gorffennaf 18fed-25ain
Awst 8fed-15fed
Awst 15fed-22ain
Awst 22ain-29ain
Medi 12fed-19eg
Medi 19eg-26ain
Medi 26ain-Hydref 4ydd

Beth i’w Ddisgwyl:

  • Cost: £800yr wythnos + tâl cwch
  • Bwthyn hunanarlwyo gyda ystafell wely ddwbl ar gyfer un neu ddau artist
  • Stiwdio benodedig i’ch gwaith

Amser i ganolbwyntio ar brosiectau creadigol heb unrhyw broses ddethol nac ofynion preswyl

Sut i Archebu:

Llenwch y ffurflen archebu isod i gadw eich wythnos neu anfonwch e-bost at post@enlli.org os oes gennych unrhyw gwestiynau.