Yn dilyn llwyddiant ysgubol yr Wythnos Deuluoedd yn 2026 byddwn yn cynnal un eto yn 2027. Dyddiadau’r wythnos honno fydd 14-21 Awst 2027.
Beth yw’r Wythnos Deuluoedd?
Mae Enlli yn cynnig seintwar i blant ac oedolion, gan roi cyfle prin i ddatgysylltu o’r byd ‘ar-lein’ a byw a bod yn gwbl all-lein a phresennol. Mae’r ynys yn eich gorfodi i arafu, ac i ailgysylltu â byd natur a’ch gilydd. Gallwch dreulio’r wythnos yn darganfod, yn chwarae gemau, yn ymlacio ar y traeth, yn coginio neu fwynhau prydau picnic fel teulu yn eich gardd neu ar ben y mynydd. Efallai y bydd rhai yn poeni am beth sydd ar gael i’w wneud gyda phlant am wythnos gyfan ar ynys fechan – ond gyda’r Artist Preswyl yn cynnal gweithdai creadigol, yr Wylfa Adar yn cynnig teithiau tywys i ddysgu am fywyd gwyllt yr ynys, neu gemau pêl-droed a rownderi, buan iawn y bydd yr wythnos yn hedfan heibio, a’r daith yn ôl ar y cwch ddydd Sadwrn yn cyrraedd yn rhy sydyn o lawer. Dyma wythnos sy’n cynnig rhyddid llwyr, a’r cyfle i wneud ffrindiau newydd yn un o leoliadau harddaf a mwyaf unigryw Cymru.

“Ein hoff ran ni o’r wythnos oedd cwrdd â theuluoedd eraill a gwylio’r plant yn gwneud ffrindiau newydd. Roeddem ni hefyd wir yn gwerthfawrogi’r cyfle i’n plant gael eu trwytho yn niwylliant, iaith a hanes Cymru, a hynny oddi ar y grid ac ymhell o’r dechnoleg sy’n mynnu sylw o hyd. Yn bennaf oll, roedd yr ynys yn cynnig ymdeimlad o ryddid i’r plant sy’n anodd iawn dod o hyd iddo’n unman – y gofod i anturio, crwydro – ac yn syml iawn, i fod yn blant.”
Rhiant, Wythnos Deuluoedd 2026
Buddion Wythnos Deuluoedd
Rydym yn ymwybodol fod aros yn Enlli yn dod yn fwyfwy heriol i lawer, naill ai o ran cael mynediad i archebu pan gaiff yr argaeledd ei gyhoeddi, neu oherwydd cyfyngiadau ariannol. Rydym yn cydnabod fod hyn yn benodol heriol i deuluoedd. Oherwydd hyn, rydym yn cynnig y cyfleoedd a ganlyn wrth archebu gwyliau yn ystod Wythnos Deuluoedd:
- Gosodir y tai am brisiau 2026
- Archebion ar gael i deuluoedd yn unig
- Derbynnir taliadau wedi’u gwasgaru dros y flwyddyn
- Y blaendaliad i sicrhau lle yn is na’r arfer
Tŷ wedi’i ariannu ar gyfer incwm is (newydd yn 2027)
Rydym yn gwerthfawrogi fod gwyliau yn Enlli yn parhau i fod y tu hwnt i afael llawer o deuluoedd. Byddwn yn cadw un tŷ (sy’n cysgu 6) yn rhydd i deulu incwm isel o Wynedd aros am £200 yn unig. Rydym yn ymddiried ynoch i adnabod eich sefyllfa chi orau. Mae rhwystrau ariannol yn edrych yn wahanol i wahanol deuluoedd, a does dim rhaid i’r holl esiamplau isod fod yn berthnasol i chi wneud cais. Bwriad y rhestr isod yw rhoi syniad o’r hyn all incwm isel fod, a’ch cynorthwyo i benderfynu a yw’r cynnig hwn yn berthnasol i chi.
- Mae incwm eich cartref o dan £30,000
- Rydych yn rhentu, h.y. nid ydych yn berchen ar eich cartref nac unrhyw eiddo arall
- Rydych yn wynebu costau ychwanegol oherwydd anabledd, neu am eich bod yn gofalu am riant oedrannus neu blentyn ag anabledd
- Rydych yn profi cyfnodau lle mae eich enillion yn sylweddol is oherwydd cytundebau dim oriau neu hunangyflogaeth
Os ydych chi’n meddwl eich bod yn profi unrhyw un o’r rhain, cwblhewch yr adran berthnasol o fewn y ffurflen archebu. Dim ond un lle y gallwn ni ei gynnig i deulu incwm isel yn ystod Wythnos Deuluoedd 2027. Er mwyn dewis y teulu incwm isel, byddwn yn cadw’r broses geisiadau ar agor tan 18 Hydref. Bydd pob enw yn mynd i het ar 19 Hydref, ac un yn cael ei ddewis ar hap.
Sut i archebu
Gan ein bod yn disgwyl y bydd diddordeb sylweddol yn yr Wythnos Deuluoedd, bydd yr archebion yn agor am 8yb, ddydd Sadwrn 19 Medi. Gwahoddir teuluoedd i gyflwyno eu cais, gan gynnwys manylion am y nifer o oedolion/plant yn eu grŵp a’u ffafriaeth o ran llety. Derbynnir y ceisiadau ar egwyddor “y cyntaf i’r felin”, a bydd yr archebion blaenoriaeth i deuluoedd yn cau ar 1 Ionawr 2027. Rhoddir blaenoriaeth i archebion gan rai nad ydynt wedi ymweld ag Enlli o’r blaen.
I ymuno â’r rhestr bostio ar gyfer y flwyddyn nesaf, rhowch eich manylion isod. Bydd y sawl sydd ar y rhestr hon yn derbyn y ddolen i ffurflen archebu Wythnos Deuluoedd 2027 am 8yb ar 19 Medi.




