Myfyrdodau o Ynys Fach
📍 Oriel Croesor, Hen Bryn Gelynen, Croesor, LL48 6SS
📅 21 Mehefin – 13 Medi 2026
🎉 Digwyddiad Agoriadol: 21 Mehefin, 12:00–15:00
🕚 Oriel a Chaffi ar agor 11:00yb–5:00yp, dydd Gwener–dydd Sul
Rydym yn falch o gyflwyno arddangosfa o waith newydd a grëwyd gan Artistiaid Preswyl Ynys Enlli 2025, wedi’i ddatblygu mewn ymateb i dirwedd, hanes, iaith ac ecoleg yr ynys. Mae’r arddangosfa’n dwyn ynghyd ffilm, ffotograffiaeth, paentio, cerflunio, sain, barddoniaeth a gwaith ymatebol i safle.
Yn cynnwys gwaith gan:
Alison Neighbour, Catrin Menai ac Esyllt Angharad Lewis, Dwy (Enlli a Lleucu Parri), Huw Jones, Manon Dafydd, Marged Tudur ac Aled Rhys Jones, Richard Harris.

