“Gweld y plant yn mwynhau (oedd yr uchafbwynt)... roedd y plant eisiau aros yno’n hirach” – Rhiant
Roedd Ynys Enlli yn llawn bwrlwm ar ddechrau gwyliau’r haf wrth i ni gynnal ein Hwythnos Teuluoedd gyntaf. Daeth teuluoedd â phlant ifanc i dreulio amser mewn lle anghysbell, yn agos at natur, i ymlacio a dianc oddi wrth wrthdyniadau’r tir mawr.
Cawsom y fraint o groesawu’r comedïwr Kiri Pritchard-Mclean i agor yr wythnos gyda gweithdy comedi i’r plant a’r bobl ifanc. Roedd yn gyfle gwych i bawb ddod i adnabod ei gilydd, gwneud ffrindiau newydd a gosod naws gyfeillgar a chymunedol a barhaodd drwy’r wythnos.
Roeddem hefyd yn ffodus i gael cwmni’r actores, cerddor a storïwr Mair Tomos Ifans, a gynhaliodd weithgareddau o ddawnsio, adrodd chwedlau a chanu. Daeth yr wythnos i ben gyda Noson Lawen, lle cafodd rhai o’r plant gyfle i berfformio eu jôcs, canu a chwarae’r delyn. Wrth sôn am y gweithdy chwedlau, dywedodd un rhiant: “Roedd fy mhlant wrth eu boddau.”
Roedd digon o gyfleoedd i greu hefyd. Fynychoedd y teuluoedd gweithdai ein hartistiaid preswyl, Sam ac Apphia Ferguson-Ross, i wehyddu coronau Enlli gan ddefnyddio deunyddiau naturiol a gasglwyd ar yr ynys. Buont hefyd yn creu rygiau gyda gwlân gyda’r artist Carole Shearman, sydd wedi bod yn rhan o gymuned Enlli ers dros 20 mlynedd. Cynigiodd Sue, caplan yr wythnos, weithgareddau crefft eraill, gan gynnwys gwneud canhwyllau cwyr gwenyn a doliau o ddeunyddiau blancedi Cymreig.

Wythnos hollol lyfli, digon wedi ei drefnu a’r staff yn lyfli – BENDANT isho dod i’r un flwyddyn nesa!
Rhiant
I’r plant, un o uchafbwyntiau’r wythnos oedd yr helfa drysor, a drefnwyd gan ein staff a’n gwirfoddolwyr. Gan ddilyn cliwiau ar hyd llwybrau’r ynys, buont yn gweithio gyda’i gilydd i ddatrys y posau cyn cyrraedd adfeilion yr abaty, lle’r oedd y trysor yn aros. Roedd yn wych i weld y plant mewn un grwp mawr.
Cafwyd cyfle i ddysgu mwy am natur Enlli gyda Steve Stanfield o’r Gwylfa Adar, a daeth yr wythnos i ben gyda gêm bêl-droed rhwng y teuluoedd wrth i’r haul fachlud.
Ein bwriad oedd cynnig digon o weithgareddau i blant ddod i nabod ei gilydd, wrth roi’r rhyddid i deuluoedd ddewis pa rai yr hoffent eu mynychu. Dywedodd y teuluoedd fod hyn wedi gweithio yn wych, gan greu sylfaen i gyfeillgarwch iddynt fedru cymdeithasu tu hwnt i’r gweithgareddau.
Yn y pen draw, roedd Wythnos Teuluoedd yn gyfle i’r genhedlaeth nesaf brofi Enlli a meithrin cysylltiad â’r ynys.
Diolch i bawb a wnaeth helpu i wneud yr wythnos yn llwyddiant.
Wythnos Teulu 2027
Rydym yn gynnal Wythnos Teuluoedd eto yn 2027yn ystod yr wythnos 14-21 Awst.
Gan ein bod yn disgwyl llawer o ddiddordeb yn y cyfle hwn eto, byddwn yn agor archebion drwy Ffurflen a gaiff ei lansio ddydd Sadwrn, Medi 12fed am 9am. Bydd hyn yn gwahodd teuluoedd sydd â diddordeb i gyflwyno eu cais archebu, gan gynnwys manylion am nifer y bobl oedolion/plant yn eu grŵp a’u heiddo dewisol. Bydd archebion yn cael eu derbyn ar sail “cyntaf i’r felin, cyntaf i gael gwasanaeth” a byddant yn cau fel archebion blaenoriaeth i deuluoedd ar 1af Ionawr 2027. Fydd llefydd yn cael ei blaenoriaethu i deuluoedd sydd heb aros yn Enlli or blaen.
I ymuno â’r rhestr bostio ar gyfer y flwyddyn nesaf, cwblhewch yr ffurflen isod. Fydd yr pobl fydd ar yr rhestr yma yn derbyn yr dolen i’r ffurflen i archebu am Wythnos Teulu 2027 am 9yb 12fed o Fedi.
Llefydd incwm isel: yn 2027 byddwn yn cadw un tŷ ar gyfer teulu incwm isel, wedi’i osod am £200 am y tŷ cyfan am yr wythnos gyfan. Os ydych chi’n credu eich bod chi’n dod o’r categori yma, cwblhewch y darn perthnasol o’r ffurflen archebu.
Form ID: 5




