Neidio i'r prif gynnwys

Hafan > Wythnosau Profiad

05.05.2027 – 08.05.2027

2027 Encil Awyr Dywyll i Ferched

Y cyflwyniad perffaith i Noddfa Awyr Dywyll Enlli

Goleudy Ynys Enlli gydag awyr dywyll gan Helen Iles

Yn dilyn llwyddiant y encil ‘Awyr Dywyll’ i fenywod yn 2026, rydym yn gyffrous i gynnal encil arall yn 2027.

Fydd yr encil yn cael ei chynnal unwaith eto gan Helen Iles, ffotograffydd a astroffotograffydd o fry o Wynedd. Mae Helen yn rhedeg cyrsiau ffotograffiaeth ar draws Cymru ac mae nifer o’i lluniau wedi cael ei chyhoeddi yn gylchgrawn poblogaeth ‘The Great Outdoors’ a nifer arall.

Mae hyn i chi os ydych chi:

  • Eisiau profiad unigryw o Ynys Enlli os nad ydych byth wedi bod, neu eisiau dychwelid i weld ochor arall o Enlli
  • Eisiau profi hud y noson dywyll mewn amgylchedd diogel a chefnogol
  • Dod i adnabod merched eraill efo diddordebau tebyg
  • Dysgu sgiliau newydd a sut i gael y gorau o’ch offer ffotograffiaeth

Beth i ddisgwyl o’r encil:

Fyddwch yn aros yn naill Plas Bach neu Lofft Plas, a fydd pob diwrnod efo agenda hyblyg yn ddibynnol ar y tywydd, yn cynnwys:

  • Tripiau bywyd gwyllt
  • Cyflwyniad i ddynodiad awyr dywyll Enlli
  • Sesiwn astroffotograffeg yn ystod y nos
  • Sesiwn addysg yn edrych ar effaith awyr dywyll Enlli ar y bywyd gwyllt ac ysbrydolrwydd.
  • Sesiwn ioga / ymlacio
  • ‘Noson Lawen’ gyda thrigolion yr ynys a gwesteion eraill
  • Cinio a swper wedi ei ddarparu gan Fferm yr ynys, a brecwast syml

Dyddiadau:

  • Dydd Mercher 5ed – dydd Sadwrn 8fed Mai 2027
Cyfranogwyr encil 'Awyr Dywyll' yn tynnu llun y goleudy ar doriad gwawr
Ffotograffydd benywaidd yn tynnu llun o Fynydd Enlli
Y cyfranogwyr a'r tiwtor o encilfa'r 'Awyr Dywyll' y tu allan i'r Storws
Cyfranogwr mewn encil awyr dywyll yn paratoi ffotograff

Prisau:

Mae pob pris yn cynnwys llety, pob pryd bwyd a byrbrydau, tiwtor a sesiynau.

Stafelloedd Plas Bach (sydd efo toiled a chegin sydd yn cael ei rhannu, lolfa, lle tan a Rayburn)

  • Ystafell wedi ei rhannu: £550 y pen
  • Ystafell unigol gyda gwely sengl: £650
  • Ystafell unigol gyda gwely dwbl: £750

Defnydd preifat o Lofft Plas:

  • £900 am unigol
  • £700 y pen am ddau yn rhannu

Mae Llofft Plas yn cynnwys cegin a’r unig doiled mewnol ar yr ynys. Mae’r llety dros yr iard o Plas Bach a grŵp ehangach yr encil.

Mae costau ar wahân ar gyfer croesi mewn cwch a pharcio ceir.

Sut i Archebu:

I archebu lle ar yr encil yma cysylltwch â post@enlli.org