Dilynwch ôl troed pererinion, môr-ladron, pysgotwyr a ffermwyr.
Wrth droedio Ynys Enlli rydych yn dilyn ôl troed y pererinion, y môr ladron a chenedlaethau o deuluoedd sydd wedi gweithio’r tir a’r môr. Mi welwch gyfoeth o adar a morloi llwyd yng ngogoniant eu cynefin. Dyma ynys sydd yn bell o brysurdeb y byd, lle mae hanes ysbrydol a chrefyddol, treftadaeth a bywyd gwyllt yn agosach atom nag yn unlle.

Ein Wardeniaid
Nid oedd gweithio mewn swyddfa o 9-5 yn addas i mi. Mae gweithio ar Enlli yn fywyd prysur, mae'r gwaith yn ddiddiwedd, ond mae gallu rhoi fy egni tuag at amddiffyn a gwella rhywle mor arbennig ag Enlli yn fraint.
Mari Huws Jones
Warden
Heddiw, mae Enlli’n dal yn ynys fyw ac yn ynys waith. Mae ganddi gymuned dymhorol o 12 sydd yn gweithio’r tir a’r môr; yn croesawu ymwelwyr ac yn gwarchod ei threftadaeth a’i bywyd gwyllt. Mae’r dyddiau yn Enlli yn cael eu ddylanwadu’n yn gryf gan yr gwynt, y glaw, haul a’r llanw, gyda chynlluniau yn newid llaw yn llaw efo’r elfennau naturiol mewn ffordd sy’n dod a ni yn ôl at ein coed.
Dyma Noddfa Awyr Dywyll cyntaf Ewrop ag yn mae’r ynys hefyd yn Warchodfa Natur Genedlaethol ac yn Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig. Mae rhywbeth ar Enlli i bawb!

Morloi llwyd yn henllwyn
Bywyd Gwyllt
Bywyd gwyllt Enlli
Mae’r tir a’r môr o amgylch Enlli yn ffynnu gyda bywyd gwyllt.
Thanks to generations of sustainable lobster and crab fishing the waters off Enlli are full of life and an important place for Risso’s dolphins, porpoises and grey seals.
An important nesting site for the Manx shearwater, the island is now home to over 30,000 breeding pairs of these incredible sea birds. The Manx shearwaters return annually to the same underground burrow and partner bird after wintering off south America.

Olion yr abaty yn nant
Yr ynys o 20,000 o seintiau
Cristnogaeth Geltaidd yn dyddio’n ôl i’r 6ed ganrif
Dewch o hyd i olion abaty’r Canoniaid Awstinaidd o’r 13eg ganrif, gan ddilyn ôl troed rhai o’r Celtiaid sefydlog o’r chweched ganrif.

Gareth Roberts
I’ve been visiting Enlli since 1973; my father was a part-time fisherman who used to set his pots on the mainland side of the Sound, fishing from Porth Meudwy. I’ve held the tenancy for Cwrt for nearly 30 years and have been the farming tenant of Enlli for the last 18 years. It's a wonderful place and our grandchildren are growing to enjoy and appreciate it as much as we do, and I hope they'll get the opportunity to be part of its future.
Gareth Roberts
Ffarmwr a Pysgotwr

Hanes
Ynys a 2000 mlynedd o hanes pobl
Ers yr 2il ganrif CC bu arwyddion o bobl yn byw ac yn defnyddio Enlli fel lle allweddol yn eu bywydau. Darganfyddwch straeon y pererinion, môr-ladron, pysgotwyr, ffermwyr a’r artistiaid sydd wedi galw Enlli yn gartref.

Gwartheg enlli gan Emyr Owen
Gweithio'r tir
Ffermio cadwraethol ar waith
Mae dros 200 o ddefaid a buches fechan o 20-30 o Wartheg Duon Cymreig yn helpu i gynnal a rheoli’r tir ar Enlli ar gyfer yr ystod eang o blanhigion a bywyd gwyllt sy’n ffynnu yn ei gaeau, helyg a rhostir.
Lle nesaf?