Yr ynys o 20,000+ o sêr
Yn 2023, cafodd Ynys Enlli ei hardystio’n Noddfa Awyr Dywyll Ryngwladol (NADR) gan y Gymdeithas Awyr Dywyll Ryngwladol (CADR). Mae hyn yn golygu mai Enlli yw’r safle cyntaf yn Ewrop i sicrhau’r statws yma.
Saif Noddfeydd Awyr Dywyll Rhyngwladol fel arfer wedi’u leoli mewn lleoliadau anghysbell sydd â gyda llai o fygythiadau cyfagos i ansawdd awyr dywyll y nos. Mae Enlli yn bodloni meini prawf llym gyda’r dynodiad newydd yma, ac yn ymuno gyda dim ond 16 safle arall yn fyd-eang.
Mae lleoliad Enlli a’i nodweddion daearyddol yn ei gwneud yn un o’r llefydd mwyaf tywyll yn y DU- gyda’r mynydd yn gweithredu fel rhwystr effeithiol sydd yn cyfyngu ar olau o’r tir mawr. Y lleoliad agosaf sydd yn rhyddhau llygredd golau sylweddol yw Dulyn, sydd dros 70 milltir (113 cilomedr) dros Fôr Iwerddon.
Cefnogwyd y cais gan Lywodraeth Cymru, lleoliadau Awyr Dywyll eraill yng Nghymru gan gynnwys Parc Cenedlaethol y Bannau Brycheiniog ac Eryri, Cyngor Cymuned Aberdaron, Cyfoeth Naturiol Cymru, gan gynnwys Prosiect NOS (prosiect awyr dywyll leol), cymdeithasau astronomegol, a Chyngor Gwynedd.
Yn dilyn sicrhau’r statws NADR, mae Ymddiriedolaeth Ynys Enlli am barhau gyda’r gwaith o amddiffyn awyr dywyll Enlli drwy godi ymwybyddiaeth o’r lleoliad unigryw yma yng Nghymru, gan gynnwys hyrwyddo pwysigrwydd yr awyr dywyll yn lleol ac yn genedlaethol.
Ymgymerwyd â rhaglen bedair blynedd yn defnyddio’r dechnoleg ddiweddaraf i fonitro ansawdd awyr y nos ar yr ynys er mwyn dangos ei fod yn ddigon tywyll ar gyfer y dynodiad. Roedd angen cynllun rheoli golau ar y Gymdeithas Awyr Dywyll Ryngwladol hefyd angen cynllun rheoli golau a thystiolaeth ffotograffig ar gyfer yr ardysto.
Roedd Mari Huws, un o Wardeniaid Ynys Enlli, yn rhan o’r broses ardystiad.

Wrth fyw yma, dwi o hyd yn rhyfeddu gyda harddwch yr ynys- ac mae awyr y nos yn rhan fawr o hynny. Yn dilyn sicrhau’r ardystiad, rysym yn edrych ymlaen at groesawu ymwelwyr yma dros y misoedd a blynyddoedd i ddod, ac i rannu ein stori unigryw. Roeddan ni’n gwybod ein bod ni’n byw mewn lle arbennig, mae’r statws yma’n cadarnhau hyn, gyda’r Noddfa Awyr Dywyll Ryngwladol yn rhoi Enlli ar lwyfan y byd. Mewn byd sydd yn cael ei lygru yn fwy ac yn fwy, mae hi’n fraint gallu gweithio tuag at amddiffyn rhywbeth sydd yn gyntefig ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol.
Mari Huws Jones

Ymholiadau Cyffredinol
Am ymholiadau am ymweld â'r ynys
Tripiau dydd: Colin Evans, Tripiau Cychod Enlli
Cefnogi Ymddiriedolaeth Ynys Enlli: Dod yn aelod yma
Aros dros nos: Gweler ein tudalen argaeledd
Tripiau dydd: Colin Evans,Mordaith Llŷn, Bardsey Boat Trips
Cefnogi Ymddiriedolaeth Ynys Enlli: Dod yn aelod yma
Lle nesaf?