Hafan > Cefnogwch ni

Gwirfoddoli ar Ynys Enlli

Pentref gwledig gydag adeiladau cerrig, caeau gwyrddion, a defaid gwasgaredig, wedi'u gweld o'r uchod gyda blodau melyn yn y blaendir—yn dwyn i gof y tirweddau oesol a gedwir gan Ymddiriedolaeth Ynys Enlli.

Helpwch i gynnal yr ynys trwy ddod yn wirfoddolwr

Mae gwirfoddoli yn gyfle unigryw i brofi bywyd a gwaith ar yr ynys ag i gefnogi’r Ymddiriedolaeth i gynnal a chadw’r tir ac adeiladau’r ynys weithiol hon. Mi fyddwch yn ymuno gyda thîm egnïol o staff ar Enlli. Mae cyfleoedd hir a byr dymor o fis Mawrth i fis Hydref.

Gweler y wybodaeth ac y dudalen yma am fwy o wybodaeth. Darllenwch y gwybodaeth i gyd cyn mynd ati i wneud cais osgwelwch yn dda.

Yn gyfnewid am eich llety, gofynnwn am tua 5 awr o waith y dydd, 5 diwrnod yr wythnos.

Nodir: Nid ydym bellach yn derbyn ceisiadau ar gyfer gwirfoddolwyr 2026.

Removing render

Gwirfoddolwyr cyn y tymor

Chwefror - Mawrth

Rydym yn chwilio am unigolion neu grŵp o wirfoddolwyr i ddod i helpu i gael y lletyai yn barod ar gyfer y tymor gwyliau.

Mae llawer iawn o waith glanhau i’w wneud, yn ogystal â phaentio a pharatoi’r ystafelloedd yn ystod yr wythnosau hyn. Mae croeso i chi wneud cais am wythnos neu fwy.

Dewiswch ‘Cyn Tymor’ yn y ffurflen gais (dydd Sadwrn i ddydd Sadwrn).

Mae siawns uwch fod y cwch ddim yn rhedeg yn rheolaidd ym mis Mawrth oherwydd y tywydd, felly byddwch yn barod i fod yn hyblyg.

Nid ydym bellach yn derbyn ceisiadau ar gyfer gwirfoddolwyr 2026.

Volunteer at work in the Orchard

Gwirfoddolwyr tymor hir

Ebrill - Medi

Dyma gyfle gwych i gael blas ar fywyd ar yr ynys yn ystod misoedd prysur y gwanwyn ar haf.

Byddwch yn helpu’r tîm i gynnal a chadw’r tai, y gerddi a’r mannau cyhoeddus i safon uchel ar gyfer ymwelwyr a gwesteion sy’n aros. Byddwch yn helpu’r Wardeniaid Llety ar ddiwrnodau ‘changeover’ ac yn y gerddi, ac yn cynorthwyo Rheolwr yr Ynys gyda thasgau gwaith tir a chynnal a chadw.

Rydym yn chwilio am wirfoddolwyr brwdfrydig, gweithgar. Addas ar gyfer unigolion neu gwpl sy’n fodlon rhannu ystafell.

Nid ydym bellach yn derbyn ceisiadau ar gyfer gwirfoddolwyr 2026.

Gwirfoddolwyr Ôl-dymor

Hydref

Rydym yn chwilio am wirfoddolwyr sydd am ymuno â thîm yr ynys ym mis Hydref. Rydym yn chwilio am unigolion neu grŵp o wirfoddolwyr i ddod i helpu i gau’r llety ar ôl y tymor gwyliau. Mae llawer iawn o waith glanhau i’w wneud, yn ogystal â phaentio a phacio dodrefn a chynfasau ac ati yn barod ar gyfer y gaeaf.

Nid ydym bellach yn derbyn ceisiadau ar gyfer gwirfoddolwyr 2026.

Beth i wybod cyn cyrraedd

Dydd Mercher – Cyrraedd – cwrdd â’r wardeniaid a setlo i mewn i’r llety
Dydd Iau – Gweithio gyda Rheolwr yr Ynys ar dasgau gwaith tir a chynnal a chadw.
Dydd Gwener – diwrnod i ffwrdd
Dydd Sadwrn – Glanhau lletyai gwyliau ‘changeover’ gyda Wardeniaid Llety
Dydd Sul – diwrnod i ffwrdd
Dydd Llun – Gwaith ar dasgau a osodwyd gan Reolwr yr Ynys
Dydd Mawrth – Gweithio gyda Wardeniaid Llety yn y gerddi
Dydd Mercher – Gweithio gyda Rheolwr yr Ynys ar dasgau gwaith tir a chynnal a chadw.

Mae tasgau arferol yn cynnwys peintio ffenestri, arwyddion a gatiau, torri a chasglu gwair, chwynnu ‘cobbles’, cynnal y berllan, torri llwybrau’r mynydd, gwaith coed a hel sbwriel ar y traethau.