Neidio i'r prif gynnwys

Hafan > Newyddion

Archifau hanesyddol 05.08.25

Cadwch y dyddiad!

Diwrnod i'r Brenin event poster.

Diwrnod i'r Brenin- 13eg o Fedi

Ymunwch gyda ni ar y 13eg o fis Medi yng Nghrasu Coed am ddiwrnod o hwyl a dysgu.

Bydd ambell i stondin i droedio o amgylch, digon o ganeuon gwerin a sgyrsiau am hanes difyr Enlli a coron Brenin Enlli. Dewch i wrando, dysgu a canu!

Byddwn yn cychwyn arni am 11yb tan 4yh.

Digwyddiad am ddim ond cofiwch dod ag arian i wario ar baned a chacen! Mae croeso i chi rhoi arian hefyd os y dymunwch.

Bydd cyfieithu ar y pryd ar gael ar gyfer y sgyrsiau.

Cyfeiriad: Coed Y Llan, Pwllheli, LL53 8HL
What3Words: ///rentals.duos.slid