Mi wnes i ddychwelyd i Enlli am y trydydd gwaith yr haf yma. Wrth gamu oddi ar y gwch a gollwng fy nhraed ar greigiau’r Cafn , roedd yr haul yn llachar a’r heli môr yn dyn ar hyd fy mochau. Mi roeddwn yn denyg! Llai na pythefnos ar ol cyflwyno fy aseiniad prifysgol olaf roeddwn wedi ffoi o ystafell oer fy nhy myfyriwr ym Manceinion a theithio tua’r gorllewin, yn cael fy nennu nôl i Enlli gan atgofion o hafau blaenorol, wythnosau llawn haul a hoe. Roedd dychwelyd ar fy mhen fy hun ychydig yn frawychus, yn enwedig am fis cyfan, ond wedi cyffroi, cychwynnais i fyny’r hen drac i gyfeiriad Beudy Plas.
Enillais fy lle fel gwirfoddolwr, gan weithio gyda’r wardeniaid i ofalu am yr ynys wrth i’r ynys ofalu amdanom ni. Troais wifrau metal dros dyllau yn y gabiens, gan atgyfnerthu’r harbwr rhag stormydd y dyfodol. Crafais hen baent o ddrysau ysgubor a oedd wedi goroesi sawl gaeaf a’u ail beintio gyda cotiau ffres gludiog o las a gwyn. Gwobrwywyd prynhawn a dreuliwyd yn clirio danadl poethion, lemon verbena, a gwswellt y tu allan i Lloft Carreg pan ddarganfyddwyd llond llaw o fadfallod dŵr oren-frown meddal, wedi eu cuddio ymysg y cerrig crynion. Fe wnes i helpu i dorri rhedyn yn ôl, gwirio’r tanciau dŵr, tynnu chwyn yn y gwlau helyg, tacluso’r siop, ac ysgubo’r capel. Un prynhawn pan oedd y tywydd yn braf a llonydd, mewn gwisg o gynfas gwyn, cefais y pleser o ymweld â’r cwch gwenyn. Wrth dynnu’r caead yn ôl, cefais ymgolli yn arogl trwchus y mêl wrth i holl baill yr ynys gymysgu. Yna byddai dydd Sadwrn yn dirwyn bob wythnos i ben , gan roi ar waith y drefn a oedd yn cael ei hymarfer yn dda o newid drosodd; diwrnod prysur o ysgubo tywod a gwaddoidon wythnos o wyliau pawb o loriau’r ystafelloedd gwely a fasys yn cael eu llenwi â llond llaw o flodau ffres, yn aros i groesawu’r gwesteion yr nesaf.
Mae’n rhaid i mi gyfaddef, wnes i ddim gorffen y pentwr uchelgeisiol o lyfrau ro’n i’n wedi cario i’r ynys yn rhagweldd nosweithiau hir unig. Cefais fy sgubo i fyny mewn bywyd a oedd yn cyd-fynd â’r llanw. Wrth nofio mewn baeau a phyllau llanw gyda’r wardeniaid, dysgais enwau gwymon a sut i’w hadnabod yn ôl siâp, lliw, neu’r disgleirio llifeiriol wrth iddynt siglo yn y cerrynt. Tynnodd Carol, yr artist preswyl, fi i mewn i’w gweithdai oedd yn cacoffoni o liw a gwead, lle roedd y byrddau yn llawn gwlân, haearn, cregyn, ocr, a chlai. Ar nosweithiau clir byddwn yn cerdded tua’r de tuag at y môr o glustog Fair pinc oedd yn llenwi’r caeau y tu hwnt i’r goleudy, yr ynys gyfan yn disgleirio yng ngolau’r hwyr ac yn atseinio â synau y tonnau, y gwynt, y morloi, y gwenoliaid, clochdar y cerrig, y gwylanod, a phiod y môr. Pan ddaeth y niwl i mewn fe ddringais i fyny drwy’r eithin i ben Mynydd Enlli, gan obeithio y byddwn yn dod allan i’r awyr las. Er na chefais unrhyw lwc yn mynd ar drywydd cloud inversion, roedd fy mis ar yr ynys yn cyd-daro â dau begwn: heuldro’r haf a eclipse ar y lleuad. Ychydig cyn y wawr a’r cyfnos, ymgasglodd criw bach ohonom gyda’n sbienddrych ac eistedd yn aros, yn edrych tua’r dwyrain, yn grwgnach yn dawel, yn disgwyl i llewyrch coch ddod i’r amlwg uwchben y gorwel, wrth i’r haul wawrio ar y diwrnod hiraf.
On my last night, I donned a headtorch and set out at midnight in search of Manx shearwaters. I joined a few people from the bird observatory and we walked northwards beneath a cloudless night sky. Against the flat open ground of Bae Nant, the manxies’ small black and white bodies could be easily spotted coming in to land. They waddled clumsily along the tops of grassy walls to their burrows, better adapted to moving through the air or sea, and with a little practice it was possible to reach down and scoop them up in your hands. We checked their legs for rings, continuing a population monitoring programme which has been running on the island since 1953. Manxies are migratory birds, flying over 6,000 miles each autumn to the coastal waters of South America, returning to Ynys Enlli in spring year after year. Waving goodbye from the boat in Cafn the next morning, I suspected that come next summer I too would feel an instinctive pull back to the island, a migratory itch, one that I would struggle to resist.
Find out more about 2026 volunteering opportunities




