Neidio i'r prif gynnwys

Mi wnes i ddychwelyd i Enlli am y trydydd gwaith yr haf yma. Wrth gamu oddi ar y gwch a gollwng fy nhraed ar greigiau’r Cafn , roedd yr haul yn llachar a’r heli môr yn dyn ar hyd fy mochau. Mi roeddwn yn denyg! Llai na pythefnos ar ol cyflwyno fy aseiniad prifysgol olaf roeddwn wedi ffoi o ystafell oer fy nhy myfyriwr ym Manceinion a theithio tua’r gorllewin, yn cael fy nennu nôl i Enlli gan atgofion o hafau blaenorol, wythnosau llawn haul a hoe. Roedd dychwelyd ar fy mhen fy hun ychydig yn frawychus, yn enwedig am fis cyfan, ond wedi cyffroi, cychwynnais i fyny’r hen drac i gyfeiriad Beudy Plas.

I earned my keep as a volunteer, working with the wardens to take care of the island as it took care of us. I twisted wire mesh over rusted holes in the gabions, fortifying the harbour against future storms. I scraped peeling paint from weather-worn barn doors and applied sticky fresh coats of blue and white. An afternoon spent clearing a tangle of stinging nettles, lemon verbena, and goosegrass outside Lloft Carreg was rewarded with the discovery of a handful of soft orange-brown smooth newts, tucked away among the cobblestones. I helped cut back bracken, check the water tanks, pull weeds in the withies, clear snails from the polytunnel (my success rate always surpassed by that of the wardens’ two year old daughter), tidy the shop, and sweep the chapel. Once when the weather was right, zipped head to toe in white canvas, I had the joy of visiting the beehive. Pulling back the lid, I was engulfed in the dense smell of honey, all the island’s pollen coalescing. Then the arrival of Saturday would draw each week to a close, setting in motion the well rehearsed routine of changeovers, when stray sand was swept rapidly from bedroom floors and vases were filled with fresh handfuls of flowers, awaiting the arrival of the next week’s guests.

Mae’n rhaid i mi gyfaddef, wnes i ddim gorffen y pentwr uchelgeisiol o lyfrau ro’n i’n wedi cario i’r ynys yn rhagweldd nosweithiau hir unig. Cefais fy sgubo i fyny mewn bywyd a oedd yn cyd-fynd â’r llanw. Wrth nofio mewn baeau a phyllau llanw gyda’r wardeniaid, dysgais enwau gwymon a sut i’w hadnabod yn ôl siâp, lliw, neu’r disgleirio llifeiriol wrth iddynt siglo yn y cerrynt. Tynnodd Carol, yr artist preswyl, fi i mewn i’w gweithdai oedd yn cacoffoni o liw a gwead, lle roedd y byrddau yn llawn gwlân, haearn, cregyn, ocr, a chlai. Ar nosweithiau clir byddwn yn cerdded tua’r de tuag at y môr o glustog Fair pinc oedd yn llenwi’r caeau y tu hwnt i’r goleudy, yr ynys gyfan yn disgleirio yng ngolau’r hwyr ac yn atseinio â synau y tonnau, y gwynt, y morloi, y gwenoliaid, clochdar y cerrig, y gwylanod, a phiod y môr. Pan ddaeth y niwl i mewn fe ddringais i fyny drwy’r eithin i ben Mynydd Enlli, gan obeithio y byddwn yn dod allan i’r awyr las. Er na chefais unrhyw lwc yn mynd ar drywydd cloud inversion, roedd fy mis ar yr ynys yn cyd-daro â dau begwn: heuldro’r haf a eclipse ar y lleuad. Ychydig cyn y wawr a’r cyfnos, ymgasglodd criw bach ohonom gyda’n sbienddrych ac eistedd yn aros, yn edrych tua’r dwyrain, yn grwgnach yn dawel, yn disgwyl i llewyrch coch ddod i’r amlwg uwchben y gorwel, wrth i’r haul wawrio ar y diwrnod hiraf.

Ar fy noson olaf, fe wnes i wisgo tortsh ben a chychwyn am hanner nos i chwilio am adar Drycin Manaw. Ymunais ag ychydig o bobl o’r arsyllfa adar a cherddom tua’r gogledd o dan awyr dywyll ddigwmwl. Yn erbyn tir agored gwastad Bae Nant, roedd yn hawdd gweld cyrff bach du a gwyn y drycin yn dod i mewn i’r tir. Roeddent yn rhydio’n drwsgl ar hyd topiau waliau glaswelltog i’w tyllau, wedi addasu’n well i symud trwy’r awyr neu’r môr, a chydag ychydig o ymarfer roedd yn bosibl estyn i lawr a’u tynnu i fyny yn eich dwylo. Archwiliwyd eu coesau am fodrwyau, gan barhau â rhaglen monitro poblogaeth sydd wedi bod yn rhedeg ar yr ynys ers 1953. Mae Drycin yn adar mudol, yn hedfan dros 6,000 o filltiroedd bob Hydref i ddyfroedd arfordirol De America, gan ddychwelyd i Ynys Enlli yn y gwanwyn flwyddyn ar ôl blwyddyn. Gan ffarwelio gyda’r cwch yn y Cafn y bore wedyn, roeddwn i’n amau y byddwn i hefyd yn teimlo fy mod angen dychwlyd i’r ynys, riw gosi y byddwn i’n cael trafferth i’w wrthsefyll yr haf nesaf.

Find out more about 2026 volunteering opportunities