A phan welwn ni’r olygfa yn Enlli, lle mae’r awyr mor dywyll a does dim arall i’w weld i gymryd ein sylw, wel, dyna brofiad bythgofiadwy.
Mae hi’n wych bod Awyr Dywyll Enlli wedi cael cydnabyddiaeth ac wedi derbyn statws arbennig haeddiannol. Yn rhannol, wrth gwrs, mae ein rhyfeddu’n digwydd wrth edrych ar harddwch llwyr y smotiau bach disglair gwyn yn erbyn cefndir mor dywyll. Yn rhannol hefyd, mae’n digwydd oherwydd y synnwyr o uchder a dyfnder a gawn wrth edrych y sêr yma’n hongian yn yr awyr, yn ddistaw a di-symud. Ac yna, dyna’r wybodaeth sydd gennym erbyn hyn am faint enfawr y bydysawd y cawn gip arno: mor bell yw’r pellteroedd – hyd yn oed rhwng un seren a’r llall, heb sôn am y pellter rhwng un cytser ac un arall, yna rhwng un galaeth ac un arall…mae y tu hwnt i’r dychymyg.
Ac mae factor amser hefyd; efallai bod y golau a welwn wedi cymryd cannoedd, miloedd, neu hyd yn oed miliynau o flynyddoedd i’n cyrraedd, er iddyn nhw deithio (wrth gwrs!) ar gyflymder golau.
Ac felly, yr hyn a welwn nawr yw nid seren fel y mae hi heddiw, ond sut yr oedd pan gychwynnodd y golau ar ei daith tuag atom: efallai, erbyn i olau’r seren ein cyrraedd, bod y seren honno wedi ffrwydro neu chwalu, ac nid yn bodoli o bosib erbyn hyn…
Mae’n brofiad gwirioneddol ryfeddol: dyma ni, efallai yn chwe troedfedd a dim llawer mwy; ac yma am rai degawdau’n unig…yn sefyll yn ein hunman ac yn edrych tua’r ffurfafen, gyda’r gofod di-ben-draw yma uwch ein pennau. Mae’n gwneud i ni deimlo’n hynod o ddi-bwys, yn enwedig wrth i ni ystyried ein bod i gyd yma oherwydd proses esblygol sydd wedi digwydd ar y blaned fechan hon yn unig (sydd efallai yn unigryw ac wedi digwydd yn unlle arall yn y bydysawd) dros gyfnod o 4.5 biliwn o flynyddoedd. O’r broses honno nid yn unig yr ydym ni fel pobl wedi ymddangos, ond rydym wedi ymddangos efo’r gallu i wylio, profi ac adlewyrchu ar yr holl bethau rhyfeddol hyn.
Mae hyn i gyd, wrth gwrs, yn peri i ni ofyn y cwestiwn:
sut a pham ac i ba bwrpas – ac, o ran hynny, sut a pham ac felly fi?
Fe all astro-ffiseg ddarparu rhai atebion i’r cwestiynau hyn, ac aestheteg, a seicoleg hefyd.
Ond ddim ond yn rhannol. Yn y pen draw mae’r cwbl yn parhau’n ddirgelwch anghygoel, ac un sy’n ein harwain at galon ystyr ysbrydolrwydd…
Cyn belled ag efallai tair mil o flynyddoedd yn ôl, ysgrifennodd bard Hebreaidd “Pan edrychaf ar y nefoedd, gwaith dy fysedd, y lloer a’r sêr, a roddaist yn eu lle, beth yw dyn, iti ei gofio, a’r teulu dynol, iti ofalu amdano?” (O’r Beibl Cymraeg Newydd, Salmau 8: 3-4). A dim ond tua thri chant a hanner o flynyddoedd yn ôl, soniodd y bardd o Gymru Henry Vaughan am “dywyllwch dwfn a disglair” fel rhywbeth o hanfod Duw, a modd i ni gael ein tynnu i galon y dirgelwch honno. Felly does ryfedd mai “Noddfa” yw enw’r dynodiad Awyr Dywyll a roddwyd i Enlli: mae hynny i’r dim!