Yn ystod Hydref 2024 wnaethom cydweithio gyda ‘Dark Sky Wales’ i gynnal sesiynau planetariwm symudol. Dros tair diwrnod, a tri lleoliad gwahanol cafodd trigolion y cymuned eu gwahodd i ddysgu mwy am gytserau awyr y nos. I’r rhai ohonoch sydd ddim yn gwybod, mae planetariwm symudol fel swigen sy’n cael ei lenwi gydag aer. Tu fewn i’r swigen mae cytserau yn cael eu dangos ar nenfwd y swigen sydd yn brofiad cyffrous.
Neuadd Rhoshirwaun oedd y lleoliad cyntaf lle croesawyd criw Canolfan Gwystl. Dysgwyd am y cytserau a’u mytholeg. Yn ystod y nos, daeth trigolion o’r cymunedau cyfagos i fwynhau ac i ddysgu sut i adnabod y cytserau gwahanol. Ym Mhlas Heli wedyn ar yr ail ddiwrnod lle croesawyd Ysgol Chwilog i fyfyrio ar awyr dywyll y nos. “Waw” oedd yr unig peth roeddech yn clywed o du allan y swigen! Caswom wneud rhywbth ‘chydig yn wahanol yn ystod y nos, lle defnyddiwyd telescop a ysbenglas i chwilio am gomed Tsuchinshan-ATLAS. Cawsom hefyd graffu ar y lleuad. Roedd hefyd yn cyfle gwych i weld a dysgu mwy am lygredd golau a sut fedrwn ni ei leihau yng nghartrefi ein hunain. Canolfan Nefyn oedd y lleoliad olaf lle croesawyd Ysgol Pentreuchaf, Llangybi a Nefyn. Roedd gan y plant llwyth o gwestiynau a cafon nhw mwynhâd wrth edrych ar ryfeddodau awyr dywyll y nos yn y planetariwm.
Diolch i bawb a ddaeth i’r sesiynau! Yn ogystal, diolch i Gronfa Dreftadaeth y Loteri am wneud y profiad hwn yn bosibl!