Neidio i'r prif gynnwys

Hafan > Straeon

Blog 02.04.25

Bywyd Warden yn Enlli

Mae yno batrymau i fywyd yma, rhai mor amlwg â phatrwm y llanw a’r trai ac eraill yn amlygu eu hunain ddim ond rŵan yn ystod ein pumed gaeaf. Dwi’n ysgrifennu hwn yn yr wythnos cyn y Nadolig ac wrth i mi ysgrifennu, rydym yn gobeithio am gyfle i groesi’r Swnt i gael dathlu’r ŵyl gyda’n teuluoedd. Ar hyn o bryd, dim ond gwynt sydd ar y rhagolygon; yr unig sicrwydd ar Enlli yw y bydd ansicrwydd! Efallai y byddwn yma ar ddydd Nadolig!

Emyr sorting new rainwater collection tanks

Rydym wedi nythu eto yn erbyn yr elfennau gwyllt sydd yn chwyrlïo y tu allan i Tŷ Bach, yn glyd wrth y tân. Mae Lleucu, ein merch saith mis oed, wedi ei syfrdanu gan y goleuadau bychain rydym wedi eu hongian o’r nenfwd, i’r polyn cyrtans a’r canghennau celyn bytholwyrdd. Rydym yn falch o’r golau gan fod y dyddiau’n fyr a thywyll; mae’r we, sydd yn cael ei daflyd atom o’r goleudy, yn aml yn rhoi’r gorau i weithio yn fuan ar ôl y machlud wrth i’r pŵer o’r solar redeg allan. Rydym yn estyn at lyfrau yn hytrach na ffrwd diddiwedd ein ffonau i ddiddanu ein hunain.

Rydw i wedi bod yn darllen ‘Tide Race’ gan Brenda Chamberlain a ‘Bardsey’ gan Christine Evans, efallai yn chwilio am gysylltiad efo eraill sydd wedi rhannu’r un profiad o dreulio blynyddoedd yn byw ar yr ynys. Rwyf wedi cael fy nharo gan eu disgrifiadau lliwgar a sut maent yn trafod rhythm byd natur a phobl Enlli, y llanw a thrai o gymunedau a’r cymeriadau sydd wedi llenwi’r tai – y tai rheini sydd prin wedi newid dros y degawdau.

Y mis yma, rydwyf wedi bod yn gweithio yng Ngharreg; yn crafu hen baent oddi ar rannau o’r waliau, yn gadael i’r tŷ anadlu er mwyn lleihau’r difrod amgylcheddol i’r murluniau – difrod sydd yn amhosib i’w osgoi ar ôl 70 gaeaf. Teimlaf gysylltiad â’r cyfnod yr oedd Brenda yn ysgrifennu yma; medraf ei dychmygu yn byw ei bywyd yn yr ystafelloedd hyn; medraf hyd yn oed weld gwaed ei brwsh paent yn y murluniau. Mi wnaeth hi benderfynu gadael ei hôl drwy beintio’r murluniau ac ysgrifennu ei llyfr – ‘Tide Race’; ac er ei fod yn gymysgedd o wirionedd a ffuglen, mae’n ymddangos ei bod wedi llwyr ymroi i fywyd ar yr ynys. Drwy ymroi i’r gwaith llafurus a chorfforol o fyw ar yr ynys, roedd hi’n medru rhyddhau ei meddwl creadigol. Drwy weithio’r tir a cherdded y llwybrau mi roedd hi’n ennill persbectif ac yn teimlo cysylltiad efo’r rhai oedd wedi troedio a throi’r tir o’i blaen. Wedi’r cyfan, roedd hi’n cerdded yr un tir yn union.

Mi wn y gwneith amser ddad-wneud y rhan fwyaf o fy ngwaith i ar yr ynys; ni fydd hoel yr holl waith adfer ar y tai, yr oriau o dorri gwair, agor llwybrau a pheintio waliau a drysau! Serch hynny, fy ngobait yw y bydd gwead a lliwiau Enlli, ei synau a’i distawrwydd yn atseinio ar ôl i mi adael, a byddent yn rhan o Lleucu, yn angor o heddwch wrth iddi symud drwy sŵn a rhith cynyddol y byd.

Pan roedd Christine yn ysgrifennu, mi roedd hi’n barod yn hiraethu am ffordd o fyw yr ‘hen bobl’, y gymuned o ffermwyr a physgotwyr diflino yn creu eu bywydau ar Enlli, yn corddi menyn efo ceffylau a siafftiau dur. Mae’r siafftiau dur yn dal yma, wedi eu dinoethi gan yr elfennau a’r ffaith nad oes unrhyw ddatblygiad sylweddol wedi digwydd ar yr ynys. Ond er fod y ffordd yna o fyw wedi newid neu ddiflannu hyd yn oed, mae’r ynys yn mynnu ein bod yn cofio ac yn cadw’r ysbryd yn fyw. Yn aml mi wnaf i ddeffro am 7yb yn yr haf yn barod i ddechrau’r diwrnod, dim ond i edrych drwy’r ffenest a sylweddoli bod Gareth ac Ernest wedi bod allan ar y môr yn pysgota ers tair awr yn barod, allan ers y wawr i ddal y llanw gorau!

Mae ein cymuned yn chwyddo yn y gwanwyn a’r haf ac yn newid o wythnos i wythnos gydag ymwelwyr gwahanol. Ond ymysg y bwrlwm mae yna rhai pethau sydd yn sefydlog. ac mae’n rhaid cofleidio sefydlogrwydd mewn lle mor gyfnewidiol ag Enlli.

Roedd yn wych croesawu dau aelod newydd o staff i’n tîm y llynedd sef Jack Galloway a Catrin Menai o fis Mawrth i ddiwedd Medi. Roedd yn braf eu gweld yn ymgartrefu a thorchi llewys i dyfu bwyd a mwynhau rhythm dyddiol ac wythnosol y lle. Mi wnaethon nhw, ynghyd â gwirfoddolwyr, sicrhau fod ymwelwyr yn medru mwynhau eu gwyliau a’u hencilion o wythnos i wythnos.

Wrth i mi fyfyrio ar batrymau a rhythmau mwy hir dymor yr ynys, fel y gwnaeth Christine yn ei llyfr, a’r cymunedau a fuodd yma ac a adawodd; y mynaich, y môr-ladron a’r Llychlynwyr, y caledi a’r cyfle, roedd gan pob cymuned, er y caledi, rhyw fath o rodd. I Brenda Chamberlain ailgynnau ei creadigrwydd, i eraill, annibyniaeth a statws. Rwyf yn gobeithio wrth i’r ynys ddatblygu yn y dyfodol y byddwn yn creu cyfleoedd i gymunedau eraill fyw yma, i greu bywoliaeth o’r tir a’r môr, ag i gadw’r ysbryd o waith dygn a rhoddion yn fyw. Mae Christine yn dyfynnu Wil Evans yn ei llyfr, sydd yn dweud bod Enlli yn ‘Lle i bobl ifanc. Mae’r rhai cryf ifanc sydd yn cyrraedd heb lawer yn gwneud yn dda. Mae’r sawl sydd yn cyrraedd gydag arian ac yn meddwl y gallent wneud bywyd yn haws yn gadael heb ddim’.

Felly, wrth i mi edrych ymlaen am flwyddyn newydd ar Enlli, dwi’n gwybod y mwyaf dwi’n ymroi y mwyaf y gwneith Enlli ei roi yn ôl. Rydym yn aros yma yn y gaeaf oherwydd mae’n rhaid ymroi i’r ddwy ochr o’r geiniog i fyw bywyd yn llawn. Rydym yn aros oherwydd mae rhyfeddod yma, rhyfeddod sydd yn cael ei adlewyrchu’n ôl yn fwy disglair nag erioed yn llygaid ein merch. Mae’n lle hynod, sydd yn plethu ddoe, heddiw a fory.