"Mae fy mhrofiad efo’r Plu wedi bod yn atgof braf bod y pethau gorau’n aml digwydd pan mae pobl yn dod at ei gilydd"
I mi’n bersonol, un o’r ffyrdd gorau o ddeall rhywle yw cymryd eich amser ac archwilio yn araf, dwi’n sylwi ar fwy pan fyddai yn arafu lawr! Mae treulio amser yn yr awyr agored yn bwysig i mi erioed – boed hynny cerdded, archwilio llefydd newydd neud helpu i ofalu am leoedd arbennig. Dyna un o’r rhesymau dwi’n edrych ymlaen at fod yn gweithio gyda’r Ymddiriedolaeth ac yn cefnogi’r gwaith sy’n helpu i ofalu am Enlli.
Fy enw i yw Nansi Davies-Hughes, rwyf wedi dechrau gweithio gyda’r Ymddiriedolaeth yn ddiweddar. Cyn dechrau’n yn rôl hon, dreuliais gyfnod byr yn gwirfoddoli ar Enlli, yn helpu efo gwaith peintio a chynnal a chadw cyn i’r tymor haf ddechrau. Rwyf hefyd wedi gwirfoddoli gyda chymdeithas Eryri, gan helpu gyda gwaith cadwraeth ymarferol fel clirio rhywogaethau ymledol.
Yn nes at adre, rwyd hefyd yn rhan o bwyllgor tafarn gymunedol yn Llanystumdwy o’r enw Tafarn y Plu. Dechreuais reoli’r bar yno yn 2020, tra hefyd yn astudio Awyr Agored ym Mangor, roeddwn yn 20 ar y pryd. Mae hyn wedi rhoi cipolwg da i mi o brosietau cymunedol a chyllid treftadaeth, ac mae wedi datblygu yn naturiol dros amser, sy’n gwneud o deimlo’n arbennig o ystyrlon.
Fel rhan o’r pwyllgor, rwy’n helpu gyda’r gwaith sy’n mynd ymlaen tu ol I’r llenni a hefyd trefnu neu cyfnogi digwyddiadau a gweithgareddau cymunedol. Mae wedi dangos i mi faint o waith sydd wir yn mynd i mewn i gadw lle fyl hyn yn rhedeg – yn aml ochr yn ochr a gwaith a bywyd bob dydd!
Un o’r uchafbwyntiau hyd yma oedd trefnu’r Cneifio Cyflym llwyddiannus yn 2024. Dim ond dau ohonom o’r pwyllgor oedd wrthi, gyda gweddill y criw yn lond llaw o ffermwyr lleol. Aeth yr arian a godwyr or digwyddiad at Ffermwyr Ifanc Dyffryn Madog, ac yn gyfnewid daeth bron i 30 ohonyn nhw helpu ar y diwrnod. Roedd cymaint o wirfoddolwyr yn rhoi llaw – a dyna sydd yn wastad wedi bod rhan o ysbryd y Plu. Ar ddiwedd y dydd oedd pawb wedi dod at ei gilydd i wneud o lwyddo. Aeth rhan fwyaf o’r elw hefyd at Ward Alaw yn Ysbyty Gwynedd. Aeth rhan fwyaf o’r elw hefyd at Ward Alaw yn Ysbyty Gwynedd.
Mae fy mhrofiad efo’r Plu wedi bod yn atgoffa da bod y pethau gorau’n aml digwydd pam mae pobl yn tynnu at iw gilydd – rhywbeth sydd yn teimlo’n gyfarwydd iawn wrth imi gychwyn gweithio gyda’r Ymddiriedolaeth. Mae’r rôl hon yn teimlo fel cyfle naturiol i ddod a’m diddordebau ynghyd – byw’n greadigol, bod yn agored at natur, ac yn bwysicaf oll gweithio gyda phobl.
Rhan fwyaf o ddyddiau, os nad ydw i’n gweithio, mae’n debyg unai fy mod allan rhywle ar fynydd, yn gwrando ar gerddoriaeth neu’n dysgu cerddoriaeth efo Côr neu’r Piano. Rydw i bron bob amser yn gwneud rhywbeth creadigol.

Beinn Nibheis
Mae gan bob lle gymeriad eu hun, yn enwedig ynysoedd fel Enlli. Mae’r ymdeimlad hwnnw o dirwedd, bywyd gwyllt a hanes yn dod at ei gilydd yn rhan o’r hyn syn gwneud gweithio i'r Ymddiriedolaeth yn arbennig i mi.
Nansi Davies-Hughes



