Hafan > Cefnogwch ni

Aelodaeth

View through a window showing a distant lighthouse near the shoreline, with grassy land and rooftops in the foreground under a clear sky—a tranquil scene on Ymddiriedolaeth Ynys Enlli.

Cyfrannu at ddyfodol Enlli

Ym 1979 bu ymgyrch enfawr a gafodd ei gefnogi gan gannoedd o bobl o bob rhan o Gymru a thu hwnt i sefydlu Ymddiriedolaeth a phrynu Enlli yn llwyddiannus.

Heddiw mae ein haelodaeth yn garfan o bobl sydd am fod yn rhan o sicrhau dyfodol Enlli i bawb. Mae ein haelodaeth yn golygu y gallwn barhau i warchod yr hyn sy’n gwneud Enlli yn arbennig, tra’n buddsoddi mewn newidiadau a fydd yn caniatáu i ni barhau i groesawu ymwelwyr bob blwyddyn, darparu cyfleoedd gwirfoddoli a diogelu adeiladau ar gyfer y genhedlaeth nesaf o bobl a fydd yn byw ac yn gweithio ar Enlli.

A single purple flower grows among tall green grass under a clear blue sky, embodying the quiet beauty of life on Enlli, with small bushes visible in the background.

Dolydd blodau gwlyptir

Buddion i Aelodau

Fel aelod o Ymddiriedolaeth Ynys Enlli byddwch yn:

  • Derbyn Blwyddlyfr blynyddol
  • Derbyn ein cylchlythyr ‘Y Cafn’
  • Cael blaenoriaeth archebu ar lety
  • Gwahoddiad i’n Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol
  • Byddwch yn rhan o’r gymuned o bobl sy’n caru Enlli

Ymaelodwch

Cwblhewch y ffurflen aelodaeth isod, neu cliciwch yma i lawrlwytho copi o’r ffurflen aelodaeth.

Ymaelodwch

This field is for validation purposes and should be left unchanged.

Math o aelodaeth

Math o aelodaeth(Angenrheidiol)

Eich manylion

Cyfeiriad(Angenrheidiol)

Rhodd cymorth

Gwneud cais am gymorth rhodd ar fy aelodaeth?(Angenrheidiol)

Cwestiynau am aelodaeth

Oes gennych unrhyw gwestiynau am ddod yn aelod o Ymddiriedolaeth Ynys Enlli? Os nad yw'ch cwestiwn yn cael ei ateb yma, cysylltwch â ni ar post@enlli.org.

Gallwch naill ai sefydlu taliad rheolaidd o’ch banc i’n cyfrif neu ddefnyddio ein platfform rhoi ar-lein. Bydd angen i chi lenwi’r ffurflen aelodaeth.