Neidio i'r prif gynnwys

Comisiwn Map Ynys Enlli

Yn cyflwyno yn ei gyfanrwydd, y map newydd o’r ynys a saif yn y Storws.
Gwaith celf gwreiddiol anhygoel wedi’i grefftio â llaw gan Malcolm Hastings. Mae Malcolm yn gweld gwydr fel y cyfrwng perffaith i gynrychioli’r ynys. Bregus ond yn anhygoel o wydn pan gaiff ofal.
Gwireddwyd y map yma drwy’r grant Loteri Treftadaeth sydd yn dathlu ‘Etifeddiaeth Enlli’ a mi fydd yn croesawu ac yn rhoi gwybodaeth i ymwelwyr am ddegawdau i ddod.